Mae’r cymhwyster Lefel 3 yn arfogi myfyrwyr â’r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithredol, gan eu paratoi ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol neu ar gyfer mynd i mewn i’r farchnad swyddi.
Wedi’i gyd-ddylunio gan Nexgen a CBAC, rhoddodd y rhaglen blatfform cydweithredol i aelodau staff o 11 coleg yng Nghymru i gyd-greu profiadau dysgu sy’n symudeddau rhyngwladol, ac roedd yn cynnwys gweithdai dysgu drwy brofiad ac ymweliadau â chanolfannau dysgu arloesol yn Barcelona.
Roedd amcanion dysgu yn canolbwyntio ar hwyluso cyfnewid gwybodaeth, rhannu arfer gorau, a rhwydweithio ymhlith cyfranogwyr. Trwy feithrin cydweithio a chyd-greu, nod y rhaglen oedd gwella ansawdd y cyfleoedd o ran y symudeddau rhyngwladol sy’n cael eu cynnig gan golegau Cymru.
Dywedodd Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru: “Llwyddodd Prosiect Symudedd Staff ColegauCymru 2023 i gyflawni ei amcanion o ddatblygu fframwaith ar gyfer integreiddio prosiectau sy’n symudeddau rhyngwladol yn rhaglen newydd Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru. Cafodd cyfranogwyr ddealltwriaeth werthfawr o natur newidiol y gwaith sydd ynghlwm â gweithredu’r rhaglen Fagloriaeth Sgiliau Uwch a’r strategaethau gwahanol ar gyfer gwneud hyn.
“Trwy’r sesiynau cyd-greu ar y rhaglen, datblygodd y cyfranogwyr brofiadau dysgu sy’n symudeddau rhyngwladol ac sy’n ymgorffori gofynion Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru; gallant nawr roi’r rhain ar waith yn eu colegau.
“Ar y cyfan, rhoddodd y prosiect brofiad dysgu gwerthfawr i gyfranogwyr a helpodd i feithrin cydweithredu a chyd-greu ymhlith aelodau staff o wahanol golegau yng Nghymru. Disgwylir i ganlyniadau’r rhaglen wella ansawdd y cyfleoedd o ran y symudeddau rhyngwladol a gynigir i fyfyrwyr, gan fod o fudd i ddysgwyr, staff a chymunedau fel ei gilydd yn y pen draw.”
Adborth gan gyfranogwyr:
Gallaf weld sut y gellir cyflawni rhyngwladoli strategaethau addysg bellach a’r targedau dan sylw trwy’r hyn rwyf wedi’i ddysgu yma
Sophie Williams, Y Coleg Merthyr Tudful
Roedd yn wych rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol eraill mewn maes tebyg a chydweithio â hwy – roedd yn ddefnyddiol rhannu syniadau yn y gwahanol fannau a chael ysbrydoliaeth ar gyfer datblygu deunyddiau a chwricwlwm newydd.
Hayley Stieber, Coleg Chweched Dosbarth Dewi Sant
Fy nod ar gyfer y daith hon oedd cael fy ysbrydoli, er mwyn gallu ysbrydoli fy nysgwyr ymhellach. Yn sicr, cyflawnwyd y nod hwn. Roedd yr amser yn Barcelona, gyda Nexgen a chyda’r cyfranogwyr eraill, yn brofiad mor bositif. Rwyf wastad wedi mwynhau dysgu’r hen gymhwyster, ac erbyn hyn rwy’n teimlo’n fwy parod ac wedi’m paratoi i fwynhau addysgu’r cymhwyster newydd, gan obeithio cynnal partneriaethau rhwng colegau Cymru a Nexgen.
Sharon Jones, Grŵp Llandrillo Menai
Rwyf wir yn barod i ymgorffori prosiectau Rhyngwladoli yn y cwricwlwm ar draws Coleg Cambria.
Lisa Radcliffe, Coleg Cambria