Mae ysgoloriaeth Betty Campbell ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnig cyllid a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr sy’n astudio rhan, neu’r cyfan, o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg i gwblhau eu hastudiaethau. Mae’r ysgoloriaeth yn canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr a dangynrychiolir yn y gymuned myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, megis y rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, cefndiroedd difreintiedig neu’r rhai sydd gyntaf yn eu teulu i ysgrifennu a siarad Cymraeg yn rhugl. Yn 2024, aeth myfyrwyr ar yr ysgoloriaeth i Brifysgol Waikato, Seland Newydd. Rhoddodd hyn gyfle i gymharu’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng y diwylliannau, ieithoedd, a hanesion Māori a Chymreig, sy’n arwain at ymdeimlad o falchder o fewn y cyfranogwyr am fod yn Gymry.