Mae’r bartneriaeth gynhwysol hon bob amser wedi bod yn seiliedig ar degwch a dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae’r bartneriaeth a’i hymweliadau yn rhoi cyfle gwych i gymunedau Basotho (pobl o Lesotho) a Chymru ar gyfer dysgu byd-eang, mentergarwch a gwaith tîm.
Mae Angélique Perrault, athrawes yn Ysgol Glan-y-Môr a Chydlynydd ‘Glan-y-Moyeni’ ar gyfer yr ysgol, yn rhannu sut mae’r fenter hon a gefnogir gan Dolen Cymru yn Lesotho wedi elwa ar gyllid Taith yn rhan o gonsortiwm 20 ysgol o’r Gogledd, y Gorllewin a’r De yn 2022-23.
Nod cyffredinol y prosiect consortiwm, o’r enw ‘Meddwl Y Byd – Thinking The World – Ho Nahana Lefatšeng’, oedd cynorthwyo arloesedd mewn dysgu byd-eang drwy’r Nodau Datblygu Cynaliadwy ac addysg gan gyfoedion, gan arwain at effaith gadarnhaol ar gymunedau ysgolion yng Nghymru a Lesotho.
Cyfrannodd nodau ‘Glan-y-Moyeni’ at nodau prosiect y consortiwm cyfunol wrth i ni:
Bu grŵp o 30 o ddysgwyr ac addysgwyr Basotho a Chymreig yn cymryd rhan mewn ymweliadau cyfnewid â Lesotho a Chymru, gan ysbrydoli eu cyfoedion gyda’r profiadau cofiadwy a newidiol hyn. Roedd yr ymweliadau hyn yn caniatáu i bobl gwrdd â’i gilydd a chreu cyfeillgarwch a fydd yn para am oes.
Adlewyrchir uchafbwyntiau’r ymweliadau cyfnewid a’r bartneriaeth eleni yn yr hyn y mae rhai o’r dysgwyr wedi’i ddweud:
Dwi wedi dysgu tipyn bach o Gymraeg a dwi’n gallu cwtsho! Rwyf mor hapus i fod wedi gwneud ffrindiau newydd ac rwy’n gwybod y gallwn gwrdd eto! Hir oes Glan-y-Moyeni!
Thlokomelo Letsie, dysgwr Ysgol Uwchradd Moyeni
I mi, mae’r ymweliad â Lesotho wedi bod yn brofiad sydd wedi newid fy mywyd. Fe wnes i wir fwynhau eistedd yn yr ystafell ddosbarth gyda rhai o’r myfyrwyr iau. Gwnes i ymdrech ymwybodol i ddysgu peth Sesotho sylfaenol cyn ein hymweliad, ac roedden nhw wrth eu bodd. Rwy’n edrych yn ôl ar ein hamser yn Lesotho ac yn mynd yn emosiynol gan feddwl am yr atgofion a’r cyfeillgarwch sydd wedi dod ohono. Roedd y daith hon yn brofiad unwaith mewn oes, a byddaf yn ddiolchgar am y cyfle hwn am byth.
Harriet Evans, dysgwraig Glan-y-Môr
Roeddwn i wrth fy modd gyda phob munud o’m hamser yn Lesotho, ac rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi cael y profiad. O ganu Hen Wlad Fy Nhadau ar ben y mynyddoedd i fynd yn fyw ar y radio yn Quthing. Rwyf wedi dysgu cymaint gan yr holl fyfyrwyr y gallaf nawr eu galw’n ffrindiau am oes. O’r daith hon rwyf wedi dysgu nad oes angen i mi dreulio cymaint o amser ar fy ffôn ag yr, oeddwn arfer ei wneud, a’r pethau bach mewn bywyd sydd bwysicaf.
Charlotte Town, dysgwraig Glan-y-Môr
Mwynheais yn fawr y daith bws o’r maes awyr i’r ysgol lle gwelsom yr holl olygfeydd anhygoel o’r mynyddoedd. Fy hoff foment oedd adeiladu’r ardd twll clo lle buom yn closio at y disgyblion oedd yn dod i Gymru.
Brychan Gilson, dysgwr Glan-y-Môr
Roedd fy amser yng Nghymru yn anhygoel. Roedd yn wych cwrdd â fy ffrindiau o Gymru eto ar ôl ein cyfarfod cyntaf yn Lesotho fis Chwefror diwethaf. Rwy’n hynod o ddiolchgar am y cyfle a gefais. Diolch!
Mphoentle Moepa, dysgwr Ysgol Uwchradd Moyeni
Mae profiad ‘Glan-y-Moyeni’ wedi rhoi syniad i’r holl ddysgwyr, addysgwyr, eu teuluoedd, a’r cymunedau lleol dan sylw am bŵer moeseg. Heb os, mae wedi ehangu eu meddyliau, gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn chwarae rhan weithredol yn y byd y maent yn byw ynddo. Roedd pob dysgwr yn aelod o dîm.
Yr hyn sydd wedi dod â nhw at ei gilydd oedd y syniad gwych y gallent gwrdd â phobl go iawn o ddwy ochr y byd, gwneud ffrindiau â’i gilydd, cael hwyl, a threulio amser o safon gyda’i gilydd wyneb yn wyneb.
Maent wedi sylweddoli eu bod yn dod o wahanol rannau o’r byd, ac eto mae ganddynt lawer o bethau’n gyffredin. Maent am gael y gorau iddyn nhw eu hunain ac i’w gilydd: hapusrwydd, addysg o safon, diogelwch a heddwch. Gallant yn awr wneud gwahaniaeth o’u cwmpas; waeth pa mor fach yw hwnnw.
Rydym yn annog yn gryf unrhyw ysgolion a sefydliadau i wneud cais am gyllid Taith gan fod y cymorth ariannol yn hollbwysig; mae cwrdd â phobl wyneb yn wyneb yn dod â phwrpas mwy gwirioneddol i chwarae rhan weithredol mewn partneriaeth gydweithredol fyd-eang.