Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd
CysylltwchMae eu Cyfarwyddwr Gweithredol Gundija Zandersona yn rhannu sut y llwyddodd Kokoro Arts i sicrhau cyllid cynllun Taith ar gyfer taith staff ysbrydoledig i Gyprus i baratoi ar gyfer taith gyfnewid ieuenctid yr haf hwn yn Latfia.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal y prosiect Here With Me – Storytelling With Movement ac o fewn hynny, yn rhan o’n symudedd datblygu system, aethon ni i Gyprus am 3 diwrnod.
Dewison ni anfon y tri arweinydd ieuenctid, sef staff Kokoro Arts sy’n ymarferwyr dawns a theatr, sy’n ymwneud fwyaf â chyflwyno pob rhan o’r prosiect.
Gwnaeth Kokoro Arts gais am gyllid Taith i gynnal y prosiect Here With Me – Storytelling With Movement a chafodd y symudedd datblygu system ei drefnu ar y cyd â’n partneriaid yng Nghyprus.
Ein prif bartner o Gyprus a oedd hefyd wedi edrych ar ein holau ar y daith oedd Victoria Ioannou. Mae hi’n arweinydd ieuenctid ac artist dawns sy’n gweithio gyda’r ysgolion dawns lleol Harris Dance Studio a Charis Savvas Dance Studio. Yn ystod ein taith i Gyprus, cawson ni gyfle i gwrdd â phobl ifanc yr ysgolion hyn a chyflwyno gweithdy dawnsio ac adrodd straeon. Fe wnaethon ni hefyd sefydlu perthynas broffesiynol gyda phennaeth un o’r ysgolion dawns, gyda’r potensial i gydweithio ar brosiectau ieuenctid yn y dyfodol.
Dros y 3 diwrnod yng Nghyprus roedd ein harweinwyr ieuenctid o Gymru ac arweinwyr ieuenctid Cyprus wedi gweithio ar gynllunio syniadau creadigol ar gyfer prif symudedd yr haf yn Latfia. Fe wnaethon ni rannu ein sgiliau a oedd yn cynnwys gwneud ffilmiau, coreograffi, ysgrifennu creadigol, gwaith ieuenctid a diogelu. A ninnau’n dîm, penderfynon ni ar sut y gallwn ni drosglwyddo’r sgiliau i’r rheiny a oedd yn cymryd rhan. Hefyd, treulion ni amser yn rhoi cynnig ar y syniadau ein hunain wrth fyfyrio a gwerthuso’r broses.
Yn gyfan gwbl, fe wnaethon ni greu pedair ffilm fer mewn lleoliadau amrywiol yng Nghyprus yn seiliedig ar straeon creadigol personol. Fe wnaethon ni brofi rhywfaint o adrodd straeon gyda gweithgareddau symud a dawns gyda grŵp o bobl ifanc leol o Harris Dance Studio a Charis Savvas Dance Studio.
Aethon ni i ymweld â mannau prydferth yng Nghyprus ac mae gennyn ni ddealltwriaeth llawer cryfach o ble a sut y gallen ni bartneru ag arweinwyr ieuenctid o Gyprus yn y dyfodol ar raddfa fwy fyth.
Mae Kokoro Arts wedi gwneud cais am gyllid Taith i arwain mudiad dros iechyd mewn prosiect symudedd awyr agored ac rydyn ni’n bwriadu mynd â grŵp mwy o gyfranogwyr o Gymru i Gyprus am wythnos brysur o weithgareddau dawns awyr agored. Bellach mae gennyn ni synnwyr da o leoliadau y bydden ni’n eu defnyddio, llety, a’r gwahaniaethau diwylliannol y mae angen i ni eu hystyried.
Roedd byd natur Cyprus yn hynod o brydferth ac fe’n hysbrydolodd i feddwl am brosiectau posibl yn y dyfodol y gellid eu cyflawni yno.
Roedd naws gymunedol anhygoel i’r ysgol ddawns lle roedden ni wedi cyflwyno ein gweithdy adrodd straeon a dawns. Roedden nhw’n falch o’u pobl ifanc, o’u lle ac yn groesawgar iawn ac yn awyddus i bartneru yn y dyfodol.
Roedd yn broses eithaf syml. Cawson ni gymorth gan staff Clybiau Bechgyn a Merched Cymru (BGC Wales) i ateb rhai o’r cwestiynau a sicrhau bod ein polisi diogelu mor drylwyr â phosibl.
Gan aelodau staff BGC Wales.
Bydden. Rydyn ni eisoes wedi gwneud cais.
Yn bendant. Mae’n cynnig cyfleoedd unwaith-mewn-oes anhygoel i bobl ifanc o Gymru.
Byddwn i’n dweud, os ydych chi’n cael trafferth gyda’r cais neu’n poeni am agweddau ymarferol ar gyflwyno, gallwch chi bob amser anfon ebost at dîm cymorth Taith. Yn fy marn i, mae tîm Taith wedi cynnig cymorth parhaus, sy’n ei gwneud hi’n llawer haws ymgeisio a darparu.