Cysylltwch
UDA

Mae myfyrwraig o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymweld ag UDA

A big group of young people smiling for a photo. One person is lying down in the front of the group.
Roedd cyllid Taith wedi galluogi Celeste Turnbull,  myfyriwr BA mewn Actio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i deithio i’r UDA i dreulio semester yn astudio ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Fullerton. Doedd Celeste erioed wedi bod dramor nac wedi ystyried teithio yn opsiwn oherwydd ei chefndir .  Roedd hi’n tybio y byddai bywyd yn cylchdroi o gwmpas ei chartref ym Mhorth Tywyn, ond newidiodd ei hamgylchiadau personol a gyda chefnogaeth ychwanegol gan ffrindiau a theulu, yn ogystal â chyfarfod annisgwyl gyda thîm Go Global ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, aeth Celeste i astudio am semester yn Adran Theatr a Dawns Prifysgol Talaith Califfornia, Fullerton.  Mae hi’n rhannu ei phrofiad, a’r effaith y mae wedi’i chael arni.
A big group of young people smiling for a photo. One person is lying down in the front of the group.
Pam wnaethoch chi wneud cais i fynd ar gyfnewid dysgu rhyngwladol?

I fod yn onest, roedd yn gamgymeriad llwyr.  Roeddwn I’n meddwl i mi archebu ystafell yn y brifysgol ond pan gyrhaeddais roedd  cyfarfod yn cael ei gynnal yno.  Dywedodd y bobl y bydden nhw’n gorffen mewn llai na 10 munud ac roedd croeso i mi aros yn yr ystafell.  Roedd y cyfarfod yn ymwneud ag astudio dramor ac ar y diwedd gofynnon nhw a oedd gan unrhyw un cwestiynau.  Roedd gen i lawer o gwestiynau am sut roedd y cyfan yn gweithio, a’r gefnogaeth oedd ar gael.  Dwi’n cofio galw fy mamau’n syth ar ôl a dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau mynd i America.  Dw i wastad wedi dweud nad ydw i eisiau teithio, oherwydd nad yw’n rhywbeth dw i erioed wedi ei wneud felly roedd yn sioc fawr i bawb.

Dwy ferch yn cymryd hunlun.
Sut oedd eich profiad cyntaf o hedfan?

Roeddwn yn ffodus iawn i fynd ar y profiad dysgu rhyngwladol hwn gyda fy ffrind Grace o’r un cwrs, ac roedden ni’n rhannu dorm gyda dau o fyfyrwyr cyfnewid Ffrengig.  Gan mai hwn oedd y tro cyntaf i mi deithio, roedd popeth yn llawer haws o wybod bod Grace wedi gwneud hyn o’r blaen.  Roeddwn yn nerfus am hedfan ond roedd dilyn Grace, gan ei bod hi’n gwybod beth oedd hi’n ei wneud, wedi gwneud yr holl broses yn haws. Roedd hi’n gysur oherwydd doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun. Unwaith roeddwn i ar yr awyren, sylweddolais i nad oedd hi mor ddrwg â hynny ac nid yw hedfan yn gwneud i mi deimlo’n nerfus bellach.

Beth yw rhai o’r gweithgareddau rydych chi wedi cymryd rhan ynddynt?

Rwyf wedi cymryd rhan mewn cymaint o ddosbarthiadau ar gyfer fy nghwrs.  Dewisais i bob dosbarth actio ar gyfer astudiaethau theatr, ac rwyf wedi dysgu cymaint nid yn unig fel perfformiwr ond hefyd amdanaf i fy hun. Trwy gymryd rhan mewn drama auto, lle gofynnwyd i mi roi adlewyrchiad onest amdanaf i fy hun i ddieithriaid, sylweddolais i beth oedd pwysigrwydd argaeledd emosiynol a defnyddio fy mhrofiadau bywyd i dynnu sylw at naturiaeth mewn cymeriadau penodol a sut y gall y sgiliau hyn fy helpu i symud ymlaen fel actores. Rydw i hefyd wedi gallu rhoi cynnig ar ysgrifennu dramâu. Roeddwn i’n ofnus iawn am wneud hyn oherwydd fy nyslecsia a’m trafferthion gyda darllen a phrosesu gwybodaeth.  Roeddwn i’n meddwl nad oedd unrhyw ffordd bod rhywun â dyslecsia yn mynd i basio’r dosbarth hyd yn oed, ond fe wnes i ei ddewis oherwydd roeddwn i eisiau herio fy hun ac rydw i bob amser yn ymdrechu i wneud y pethau anodd.  Aeth y cwrs yn dda iawn, ac rwyf bellach wedi cyflwyno fy nrama gyntaf i gystadleuaeth 10 munud fel y cynghorodd fy narlithydd ysgrifennu dramâu. Rwyf hefyd wedi cael cyfleoedd i weithio gydag adrannau colur a gwisgoedd proffesiynol, a phropiau proffesiynol ac adrannau dylunio setiau.

Llun menyw yn gwenu ar-lein o sgrin cyfrifiadur.
Ydych chi’n meddwl y byddech chi wedi cael yr un cyfleoedd pe byddech chi wedi aros yng Nghymru?

Byddwn i fwy na thebyg wedi cael y cyfleoedd i roi cynnig ar y gweithgareddau hyn yng Nghymru yn y pen draw, ond mae eu cael nhw i ddechrau’n gynt wedi dangos i mi beth rydw i’n gallu ei wneud fel perfformiwr.  Mae actio yn ddiwydiant anodd i ddechrau ynddo ac ni allwch chi warantu y byddwch chi’n cael swydd.  Byddwch chi hefyd yn cael adegau ble na fyddwch chi’n gallu gweld ffrindiau neu deulu am gyfnodau hir, felly mae cael y cyfle hwn wedi fy helpu i brofi sut beth fyddai bod i ffwrdd o anwyliaid, ac rwy’n gwybod nawr y gallaf i ei wneud. Mae mynd i ffwrdd hefyd wedi fy ngalluogi i dyfu’n fwy annibynnol ac rwyf wedi bod yn ymarfer fy sgiliau rhwydweithio.  Rydw i wedi bod yn estyn allan at ddramodwyr eithaf sefydliedig Americanaidd sydd wedi ymateb.  Mae popeth es i  Califfornia i’w wneud, naill ai i mi fy hun neu yn academaidd, rydw i wedi’i wneud.  Rwy’n teimlo fy mod i wedi dod allan o hyn fel perfformiwr gwell ac fel person cryfach yn gyffredinol.

Beth fyddai’r un darn o gyngor y byddech chi’n ei roi i rywun pe baent mewn sefyllfa debyg i chi’ch hun ac yn cael y cyfle i fynd i brofi a symudedd rhyngwladol?

Rhywbeth yr hoffwn pe bai rhywun wedi dweud wrthyf i yw peidiwch â gorfeddwl a pheidiwch â gadael i’r pethau rydych chi’n meddwl sy’n wendidau reoli’r hyn rydych chi’n meddwl y gallwch ei wneud.  Pe bawn i’n gadael i’m dyslecsia fy rheoli, fyddwn i ddim wedi cyflwyno dim i’r gystadleuaeth ac yna fyddwn i ddim yn eistedd yma yn dweud wrthych chi ba mor wych dwi’n teimlo am ei wneud.  Hefyd roedd cael yr arian ychwanegol gan Taith wedi setlo llawer o fy ofn o allu cynnal fy hun yn ariannol.  Mae hi wedi fy ngalluogi i fanteisio ar bob cyfle sydd wedi dod i mi.  Mae’r profiad hwn wedi newid fy mywyd.

Llun menyw yn gwenu ar-lein o sgrin cyfrifiadur.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.