Cysylltwch
Symudedd ieuenctid i'r Eidal

Merched Plastaf yn ymweld â Rhufain, Yr Eidal

Grŵp mawr yn creu llun. Maent i gyd yn gwisgo gwisgoedd tebyg ac mae’n ymddangos fel petaent mewn rhyw fath o oriel/amgueddfa.

Mae Merched Plastaf yn gôr cymunedol iatih Gymraeg ar gyfer pobl ifanc sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.

Ar ôl llwyddo i sicrhau cyllid Llwybr Taith 1, teithiodd 3 arweinydd a 28 o gantorion – cyfuniad o ferched o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd: Plasmawr, Glantaf a Bro Edern – i Rufain yn yr Eidal.  

Caryl Ebenezer Thomas, Cydlynydd Cerdd Merched Plastaf, sy’n rhannu profiadau’r grŵp fel sefydliad gwirfoddol bach, a’r effaith barhaol y daith ar y cyfranogwyr ifanc.

Beth oedd pwrpas/ nodau eich taith?

Roeddwn yn awyddus fel arweinwyr ar ôl cyfnod y pandemig i feithrin hyder a brwdfrydedd o’r newydd yn yr ieuenctid a’u hysbrydoli i rannu’r profiadau a’r arferion da ymysg eraill. Mae nifer o’r aelodau yn dioddef o gyflyrau iechyd meddwl sy’n effeithio ar eu hyder, ac roedd y profiad positif yn Rhufain wedi rhoi hyder o’r newydd iddynt fel unigolion i barhau i berfformio. Ein gobaith yw y bydd y profiad yn eu hybu i fynd ymlaen i ddatblygu syniadau newydd fydd yn eu helpu i ddatblygu i fod yn arweinwyr da ac eangfrydig yn eu cymunedau eu hunain yn y dyfodol.

Grŵp mawr o unigolion yn cael tynnu eu llun ac yn dal baner Cymru. Maent i gyd yn gwisgo gwisgoedd tebyg ac mae’n ymddangos fel petaent mewn rhyw fath o oriel/amgueddfa.
Soniwch am rai o’r gweithgareddau y gwnaethoch chi a’ch grŵp gymryd rhan ynddynt:

Fe ddaethom o hyd i leoliad trawiadol i’r gyngerdd sef Basilica di San Vitale ar Via Nazionale yn Rhufain, un o eglwysi hynaf Rhufain yn dyddio yn ôl i’r 4edd ganrif gydag acwsteg anhygoel. Aethom ati gyda chaniatad Eglwys Rhufain i drefnu cyngerdd arbennig yno ar y cŷd gyda’n partneriaid o Rufain ar Sul y Blodau 2023.  Roedd y gyngerdd yn llwyddiannus iawn, a’r profiad arbennig yn un bythgofiadwy ac emosiynol i’r merched ac i ni fel arweinwyr.   Cafwyd cyfle yn ystod y noson i gyflwyno cefndir a rhaglen Merched Plastaf i’r gynulleidfa ac hefyd i siarad am gerddoriaeth a diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

Roedd yn gyfle amrhisiadwy i’r corau ddod i adnabod ei gilydd, rhannu syniadau a rhannu diwylliannau ei gilydd gan sefydlu cyfeillgarwch fydd yn para am byth.  Mae aelod o Merched Plastaf o ganlyniad yn trafod treulio cyfnod yn astudio’r delyn yn Rhufain ac mae’r merched eisoes yn trafod ail-ymweld â’u ffrindiau newydd yn yr Eidal.

Ychydig fisoedd cyn y daith, fe wnaethom gais i ganu yn y Pantheon, un o’r adeiladau Rhufeinig hynaf yn y byd sydd wedi goroesi.  Yn dilyn y cyngerdd yn y Pantheon, roedd aelodau o Coro Giovanile With Us wedi trefnu taith hanesyddol ardderchog i Merched Plastaf drwy galon yr hen Rufain.

Wrth grwydro’r ddinas dros y 4 diwrnod gyda baner Cymru, bu Merched Plastaf yn canu caneuon Cymreig yn anffurfiol mewn sawl sgwar gan gymryd pob cyfle posib i hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg.

Grŵp mawr o unigolion yn sefyll i gael tynnu eu llun yn sefyll ar risiau. Maen nhw'n gwisgo hwdis sy'n dweud "Merched Rhufain Plastaf 2023"
Wnaethoch chi lwyddo i gyflawni’r nodau roeddech chi wedi bwriadu’u cyflawni? A fu effaith ar yr unigolion / grŵp / sefydliad / y gymuned ehangach o ganlyniad i’ch profiadau?

Teimlwn ein bod wedi llwyddo i gyflawni’r nodau roeddem wedi bwriadu eu cyflawni, a llawer iawn mwy! Drwy’r daith cafwyd gyfle i ehangu gorwelion y côr a gwireddu nôd strategol y côr i gefnogi cantorion ifanc i roi llwyfan iddynt berfformio, i rannu eu talent ac i feithrin cysylltiadau rhyngwladol er mwyn rhannu ein gwaith a dysgu o arferion da gwledydd eraill.

Nôd y côr yw delio gyda’r her o geisio sicrhau bod ein merched ifanc yn teimlo’n ddigon hyderus i berfformio, ac iddynt fod yn lysgenhadon dros Gymru a’r Gymraeg yn ddigymell, drwy rannu gwybodaeth am ein diwylliant, a’n cerddoriaeth. Nid oes ffiniau ieithyddol mewn cerddoriaeth. Un o amcanion sylfaenol y prosiect hwn oedd canu cerddoriaeth newydd o Gymru a thu hwnt, mewn ieithoedd eraill, er mwyn dangos pwysigrwydd hunaniaeth, a sut mae rhannu profiadau diwylliannol yn gallu creu partneriaethau cryf, oesol. Fe lwyddom i greu perthynas arbennig gyda’r côr yn Rhufain, fydd yn parhau i’r dyfodol. Gobeithiwn fedru croesawu y côr cysylltiol yn ôl i Gymru un diwrnod. Mae’r daith wedi atgyfnethru pwysigrwydd amlieithrwydd a dysgu a deall cyfoeth diwylliannau erail. Roedd bod yn rhan o’r gyngerdd yma yn fraint ac yn brofiad heb ei ail.

Llun o grŵp mawr; mae rhai unigolion yn sefyll, ac eraill yn penlinio. Mae’r sawl sydd yn y blaen yn dal baner Cymru ac mae colofn yn y llun.
Sut brofiad oedd gwneud cais am arian Taith, a llwyddo?

Roedd tipyn o waith ynghlwm ag ymgeisio am y grant. Mae’n rhaid diolch yn fawr am y gefnogaeth gyson a thrylwyr gan ‘Taith’ drwy’r holl broses. Heb yr elfennau a nodir yma, mi fyddai wedi bod yn dipyn anoddach i ni fel sefydliad bach gwirfoddol i ymgeisio am yr arian.

Sut glywsoch chi am Taith am y tro cyntaf?

Fel arweinwyr rydyn ni yn bobl eangfrydig sydd wastad yn edrych ar sut allwn ni gyfoethogi ein profiadau ni yn rhyngwladol. Roeddwn i gyd yn ymwybodol drwy’r wê a mudiad yr Urdd yn arbennig bod cyfleon gwych ar gael drwy Taith ar gyfer ein pobl ifanc.

A fyddech chi’n gwneud cais am arian gyda ni eto?

Mi hoffwn wneud cais arall ymhen rhai blynyddoedd i fynd â’r côr dramor eto.  Roedd yn daith yn fythgofiadwy ac mi fyddai yn dda unai dychwelyd i Rufain ymhen ychydig o flynyddoedd neu ymweld â gwlad arall i rannu ein cerddoriaeth a’n hiaith a’n diwylliant.

A fyddech chi’n annog sefydliadau eraill i wneud cais am arian Taith? Pa un darn o gyngor fyddech chi’n ei roi iddyn nhw?

Mi fuaswn yn sicr yn annog sefydliadau eraill i wneud cais.  I eraill sy’n ymgeisio hoffwn nodi o’n profiad ni fel sefydliad bach gwirfoddol, bod cael cyfrifydd i’n helpu gyda’r materion ariannol yn hollol allweddol.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.