Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Symudedd Addysg Uwch i UDA

Myfyrwyr PCYDDS yn ymweld â Ohio, UDA

Wyth o bobl ifanc (pob un yn gwisgo crys coch) yn sefyll ger pentan - mae goleuadau ar y wal a chanhwyllau/addurniadau ar y pentan.
Wyth o bobl ifanc (pob un yn gwisgo crys coch) yn sefyll ger pentan - mae goleuadau ar y wal a chanhwyllau/addurniadau ar y pentan.

Dathlodd myfyrwyr o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) Ddydd Gŵyl Dewi yn Rio Grande, Ohio eleni.

Mae gan y Brifysgol gysylltiad hirsefydlog â Phrifysgol Rio Grande a’i Chanolfan Madog yn ogystal â chymunedau o dras Cymreig yng Ngogledd America.

Roedd y daith bythefnos yn galluogi myfyrwyr i ddangos eu doniau i gynulleidfaoedd o fewn y cymunedau Cymreig hyn yn Ohio yn ogystal ag mewn ysgolion yn Ohio.

Tra yn Ohio, cymerodd yr 8 myfyriwr ran mewn Cyngerdd Dewi Sant gyda chôr Rio Grande. Hefyd, teithion nhw i Cleveland i ymweld â chartref Cymreig a’r Rock ‘n Roll Hall of Fame. Buont yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Academi Gallia gyda Chôr Madrigal ac yn ymddangos ar y sianel deledu leol a gorsafoedd radio, a hefyd yn perfformio yn Eglwys Bresbyteraidd Oak Hill ar gyfer cinio a pherfformiad Dydd Gŵyl Dewi.

Dywedodd yr Uwch Ddarlithydd Eilir Owen Griffiths: “Mae’n wych ailgynnau’r berthynas â Rio Grande. Mae rhai blynyddoedd wedi mynd heibio ers i grŵp ymweld. Gyda’r cysylltiadau Cymreig cryf, roedd yn addas i’n myfyrwyr celfyddydau perfformio cyfrwng Cymraeg ymweld eleni. Dan gyfarwyddyd Angharad Lee, buont yn cyflwyno arddangosfa o waith yn cynnwys monologau, caneuon a threfniannau newydd syfrdanol o rai o glasuron corawl Cymreig gan Nathan Jones. Wrth raddio yn Haf 2023, roedd y gwaith hwn yn arddangos eu doniau tra’n dathlu rhai o awduron ac emynau gorau Cymru.”

Dywedodd Lowri Voyle, myfyrwraig BA Perfformio: “Mae wedi bod yn brofiad bendigedig a gallem weld cymaint roedd y gymuned yn gwerthfawrogi diwylliant Cymraeg. Teimlaf fod hanes Cymry Rio Grande Ohio yn un na ellir ei anghofio, a bydd y daith hon yn sicrhau bod cysylltiadau cryf yn parhau rhyngom.”

Meddai Jeanne Jones Jindra, Cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig, Prifysgol Rio Grande: “Mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni gael grŵp o fyfyrwyr theatr gerdd o’r Drindod Dewi Sant ym Mhrifysgol Rio Grande ac roeddem wrth ein bodd yn croesawu’r grŵp hwn. Roeddent yn ymdoddi’n ddi-dor i’n bywyd myfyriwr ar y campws, gan gwrdd â’n Corawl Mawreddog (Grand Chorale) a chanu gyda’n gilydd ar gyfer rhai perfformiadau yn yr ardal, yn fwyaf nodedig ein dathliad Dewi Sant.”

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.