Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Yr Almaen a Malta

Oasis Cardiff yn ymweld â’r Almaen a Malta

Grŵp o bobl yn sefyll y tu allan i Orsaf Gymorth Alldraeth Mudwyr gyda'r llun yn cynrychioli gobaith y mudwyr sydd wedi glanio mewn gwlad newydd
Mae Oasis Cardiff yn sefydliad sy’n darparu cymorth i geiswyr lloches a ffoaduriad.  Un o’r elfennau cymorth maen nhw’n ei chynnig yw dosbarthiadau Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (ESOL).  Trwy gyllid Taith anfonodd Oasis dau aelod o staff ar symudeddau rhyngwladol i edrych ar sut i fynd i’r afael â heriau adnabyddedig i gyflwyno dosbarthiadau iaith i fudwyr dan orfod. Ym mis Hydref 2024, aeth Timothy Joseph i Valetta ym Malta.
Sut daethoch chi i gymryd rhan yn y prosiect hwn?

Rydw i wedi gweithio mewn addysg am dros 40 mlynedd, yn bennaf o fewn uwchradd a thrydyddol, ond rwyf bellach wedi hanner ymddeol ac yn gweithio’n rhan amser yn Oasis fel Cydlynydd ESOL a’r Gymraeg.

Fy nhaith oedd ail ran ein prosiect Taith yn archwilio ffyrdd newydd ac arfer gorau o gefnogi ffoaduriaid yng Nghymru. Yn flaenorol, buodd fy nghydweithiwr i Tübingen yn yr Almaen i gymryd golwg ar brosiect lleol lle mae cyflogwyr lleol yn cael eu hannog i gyflogi gweithwyr gyda chefndir ffoadurol, er gwaethaf lefel eu Halmaeneg, gan ddarparu hyfforddiant iaith wedi’i dargedu yn y gwaith.  Nod yr ymweliad oedd darganfod a fyddai modd atgynhyrchu’r prosiect yng Nghymru.  Yn anffodus, y casgliad oedd y byddai’r model hwn yn annhebygol o weithio yng Nghymru oherwydd gwahaniaethau yn y dirwedd economaidd, yn yr ystyr fod Tübingen yn parhau i fod yn ardal ddiwydiannol.  Fodd bynnag, mae rhai elfennau o ddysgu y mae’n bosib y gellid eu rhoi ar waith i raddau bach.

Justine Lubnow a Tim y tu allan i Swyddfa Blue Door

Ar ôl sefydlu nad oedd y model Tübingen yn ddichonol yng Nghymru, newidiais ein cynllun gwreiddiol o ymweliad ag America i ymweliad ag elusen yn Valetta, Malta.  Mae Blue Door Education yn debyg iawn i Oasis o ran darparu sgiliau llythrennedd, iaith a bywyd i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n oedolion.  Roeddwn i am weld sut mae eu hystafelloedd dosbarth ESOL yn gweithio, yn benodol sut maent yn ymgorffori addysgeg gyfranogol yn eu maes llafur.  Roedd hefyd yn gyfle i rannu arfer gorau rhwng ein sefydliadau tebyg.  Mae ganddynt niferoedd arwyddocaol o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dod o’r un cefndiroedd demograffig â’n rhai ni sydd hefyd wedi profi trawma sylweddol. Mae ein hymagwedd at addysgu’r cleientiaid hyn yn her barhaus ac er bod rhywfaint o ymchwil cyfyngedig yn bodoli, dod o hyd i ddatrysiadau ystafell ddosbarth ymarferol sydd o ddiddordeb i mi. Roeddwn i hefyd am gwrdd â chyrff anllywodraethol eraill hefyd a deall eu cyd-destun i weld a allem ni helpu’n gilydd.

Dywedwch wrthym am rai o’r gweithgareddau buoch chi’n cymryd rhan ynddynt

Cefais fy nghroesawu gan Justine Lubnow, sylfaenydd a Chyfarwyddwr Blue Door Education, ac yn ogystal ag arsylwi nifer o ddosbarthiadau, buom yn siarad am heriau sylweddol addysgu ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n oedolion. Roedd gan y dosbarthiadau a arsylwyd gennyf lefelau a chenedligrwydd tebyg i’r rhai sydd gennym yng Nghaerdydd. Maent hefyd yn dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi mewn ESOL i raddau helaeth. Siaradais i â rhai o’r myfyrwyr, ac roedd yr adborth ganddynt yn gadarnhaol iawn.

Roedd gen i ddiddordeb mewn gweld y pro forma asesu yr oeddent yn ei ddefnyddio, a dyma rywbeth y mae’n bosib y byddwn yn ei gyflwyno yn Oasis.  Wrth symud ymlaen, rydym wedi cytuno i rannu adnoddau dysgu ar-lein a gweithdai perthnasol; mae’r ddau ohonom yn edrych ymlaen at gysylltiadau agosach fyth. Mae hefyd yn bosib y byddwn yn gallu cydweithio o ran recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer rolau penodol.

Gwnaeth Justine hefyd fy nghyflwyno i sawl corff anllywodraethol arall yn ystod fy ymweliad. Un o’r rhain oedd Regine, sylfaenydd y corff anllywodraethol cyfyngau African Media. Ei genhadaeth yw rhoi llais i’r mudwyr sy’n tarddu o Affrica sy’n glanio ym Malta, yn ceisio lloches neu fywyd gwell. Maent yn cynhyrchu podlediadau ar eu radio gwe cymunedol o’r enw AMAM Radio, sy’n rhoi fforwm iddynt adrodd eu straeon eu hunain. Agwedd hanfodol bwysig arall ar eu cenhadaeth yw cefnogi mudwyr i feithrin eu gallu, yn enwedig o ran sgiliau digidol, gan drefnu gweithdai i’w haddysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur. Buom yn trafod y gwahaniaethau o ran addysgu pobl o wahanol genhedloedd ac mae rhan o’r sgwrs gyda Regine wedi fy ysbrydoli i ailasesu rhywfaint o’n darpariaeth ESOL yma.

Regine, sylfaenydd African Media, a Tim yn sefyll gyda'i gilydd

Ymwelais hefyd â Gorsaf Gymorth Alltraeth Mudwyr (MOAS), sydd wedi’i lleoli ychydig y tu allan i Valetta a chyfarfod â Cathryn ac Albert i weld un o’r cyfleusterau y maent wedi’i sefydlu sy’n rhedeg nifer o brosiectau yn amrywio o fentrau addysg a datblygiad personol, diwylliant a lles, i ddosbarthiadau Saesneg. Siaradais â nhw am y prosiect ‘Plat Mawr’, yr wyf wedi bod yn ymwneud ag ef yng Nghaerdydd, ac mae’n rhywbeth yr oedd ganddynt ddiddordeb gwirioneddol ynddo ac efallai y gallent ei atgynhyrchu. Os byddant yn mynd yn ei flaen â’r prosiect, rydym yn hapus i rannu adnoddau a chyngor.

Beth oedd uchafbwynt y profiad i chi a pham?

Uchafbwynt y daith oedd gweld yr holl waith anhygoel y mae unigolion yn ei wneud – gwirfoddolwyr yn aml, mewn amgylchiadau heriol a gelyniaethus yn aml. Roedd cyfarfod ag amrywiaeth o gyrff anllywodraethol, gan edrych yn bennaf ar faterion iaith ond hefyd gweld rhannau eraill o’u swydd a’r gobaith y maent yn ei gynnig, yn ostyngedig. Rhoddodd y daith i MOAS gipolwg i mi ar yr amodau llety gwirioneddol y mae ceiswyr lloches yn eu hwynebu.

A lwyddoch chi i gyflawni’r nodau a osodwyd gennych?

I raddau helaeth, do. Roedd yr amser a dreuliais yn Blue Door, yn arsylwi dosbarthiadau ac yn siarad â staff a myfyrwyr ac yn edrych ar faterion cwricwlwm, yn werth chweil. Rhoddodd Sylfaenydd African Media llawer o oleuni i mi, gyda chyngor ac awgrymiadau defnyddiol iawn ar sut i fynd ati i addysgu cenhedloedd penodol o Ddwyrain Affrica a’r materion diwylliannol cysylltiedig. Roeddwn i hefyd eisiau rhannu rhai o’n hadnoddau addysgu gyda Blue Door; bydd hyn nawr yn mynd yn ei flaen yn y dyfodol agos. Ym mis Ionawr, er enghraifft, rwy’n gwahodd pob un o’r cyrff anllywodraethol y cwrddais â nhw i gymryd rhan mewn gweithdy ESOL ar-lein.

Paentiad, rhan o arddangosfa gelf ym Malta, a oedd yn darlunio gwenoliaid (gan gynrychioli mudwyr) yn teithio drwy ddyfroedd stormus.
Pa un darn o gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun mewn sefyllfa debyg i chi sy’n cael y cyfle i gymryd rhan mewn symudedd rhyngwladol?

Heb os nac oni bai: neidiwch am y cyfle. Mae’n darparu cymhariaeth werthfawr a chyd-destun angenrheidiol ac mae llawer i’w ddysgu bob amser – yn aml o ffynonellau annisgwyl. Teithiwch yn ysgafn ac ewch gyda meddwl agored.

Ydych chi’n teimlo bod tîm Taith wedi’ch cefnogi?

Ydw, yn fawr iawn. Mae aelodau’r tîm sydd wedi fy helpu wedi bod yn wych. Fe wnaethant egluro i mi am y gyllideb a oedd yn weddill a hyd yn oed pan gefais broblemau technegol, fe wnaethant fy nghefnogi’n amyneddgar a hyd yn oed cwrdd â mi wyneb yn wyneb i helpu i’w datrys. Roeddwn yn teimlo eu bod bob amser dim ond galwad ffôn i ffwrdd, os oedd angen.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.