Derbyniodd Plan International UK yng Nghymru gyllid Taith ar gyfer prosiect Llwybr 1 i archwilio sut i ymgysylltu â bechgyn a dynion ifanc yn effeithiol i leihau trais ar sail rhywedd. Nod eu prosiect oedd cyrraedd bechgyn a dynion ifanc ledled Cymru trwy ymweliad mewnol gan eu partner rhyngwladol She is Not Your Rehab (SINYR) a rhaglen ddysgu rithwir. Yna aethant â grŵp o staff a phobl ifanc ar symudedd allanol i Seland Newydd. Darparodd yr ymweliad gyfleoedd i wella eu taith ddysgu ymhellach drwy archwilio dulliau ar lefel gymunedol a chenedlaethol i leihau trais ar sail rhywedd a nodi ffyrdd newydd o rannu arfer gorau.
Gan adeiladu ar lwyddiant eu prosiect Llwybr 1 a’r hyn a ddysgwyd, gwnaeth Plan International UK gais llwyddiannus am gyllid Llwybr 2. Daeth y prosiect â phobl ifanc, gweithwyr proffesiynol y sector ieuenctid ac addysg, a SINYR at ei gilydd i ddatblygu adnodd y gellir ei ddefnyddio mewn lleoliadau ieuenctid ac addysg ffurfiol ac anffurfiol. Bydd yr adnodd hwn yn cefnogi gweithwyr proffesiynol yn y sector ieuenctid i greu amgylchedd ffafriol i fynd i’r afael ag agweddau ac ymddygiadau cymdeithasol dwfn a all arwain at drais ar sail rhywedd.