Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy
CysylltwchMae Sistema Cymru – Codi’r To yn brosiect cymunedol Cymraeg sy’n darparu rhaglen El Sistema mewn mynegai amddifadedd lluosog yng Ngogledd Cymru. Ym mis Mehefin 2024 aethant â grŵp o gerddorion ifanc o Wynedd i Gothenburg, Sweden, i gymryd rhan yn y cyngerdd cerddorol rhyngwladol ‘Side by Side’ gyda 500 o gerddorion ifanc eraill o wledydd eraill. Mae Rhys Roberts, Rheolwr System Cymru, yn dweud wrthym am eu profiad Taith:
Fel rhan o’r prosiect Taith, aethom a 8 plentyn o ardaloedd difreintiedig: Peblig a Cadnant yng Nghaernarfon a Maesgeirchen ym Mangor, i Gothenburg, Sweden, ar gyfer gwersyll gerdd rhyngwladol o’r enw Side by Side.
Pwrpas ein taith oedd cryfhau cysylltiadau rhyngwladol Sistema Cymru gan ffurfio perthnasoedd newydd gyda prosiectau El Sistema fyd-eang, rhoi cyfle i blant na’ fyddai’n cael y cyfle yma heb Codi’r To, a sicrhau bydd mwy o gyfleon i bobl ifanc brofi teithiau tebyg yn y dyfodol.
Roedd tri uchafbwynt o’r daith i mi. Roedd un hogyn Ajay, wedi cael llond bol ar y trydydd dydd a gwrthod cymryd rhan a dweud bod o gyd yn wastraff o amser. Ond wedi ei berswadio, fe wnaeth ail ymuno! Mi roedd ei wyneb werth ei weld pan fu yn ymuno a’r 500 o blant eraill i chwarae’r cyngerdd a’r geiniog yn disgyn wrth chwarae’r un nodau roedd wedi ymarfer ers dros 6 mis mewn can gyda’r holl offerynnau! A’r ffordd adra a phawb wedi blino mi nes holi os bysa fo yn mynd eto ac yr ateb oedd “Heb ots Rhys!” Yn ôl ei ysgol mae ei agwedd wedi llwyr newid tuag ymroddiad i’w waith yn yr ysgol ac mae tiwtoriaid Codi’r To yn adrodd fod ei gallu chwarae wedi mynd trwy’r tô!
Ers y daith, bu tair merch a oedd yn rhan benderfynu ar liwt ei hunain gyda help eu teuluoedd i helpu Codi’r To trwy godi arian. Pan yn ei llongyfarch a diolch a gofyn pam bod nhw wedi neud hun yr ymateb oedd bod y profiad o fynd i fwrdd gyda Chodi’r To wedi creu atgofion bythgofiadwy iddynt ac roeddynt eisiau diolch i’r cwmni.
Bu un o’r cyfranogwyr creu plât sbesial i’r staff Codi’r To gyda chelf arbennig i ddiolch syth ar ôl y daith.
Mae Cymru yn wlad sydd hefo nifer fawr o ardaloedd difreintiedig, ac mae unigolion sydd yn cael eu dwyn a’u magu yn yr ardaloedd hyn yn dueddol o fod yn gaedig i’w cymuned ac ardal. Mae profiadau rhyngwladol yn agoriad llygaid enfawr i rai o’r plant/bobl ifanc sydd yn ddigon ffodus i gael y cyfle. Gall y cyfleuoedd hyn eu ysbrydoli a’u tanio i ddilyn gyrfa benodol, neu fynd ymlaen i astudio pwnc penodol mewn addysg bellach.
Mae ymweld a Sweden ar gyfer gwersyll gerdd Side by Side wedi ysbrydoli ein sefydliad i feddwl am y posibilrwydd i greu model tebyg yma yng Nghymru -fel bod plant a phobl ifanc Cymru yn gallu elwa o’r un profiadau yma ar eu stepan drws.
Cerwch amdani! Mae’n brofiad gwych i bob unigolyn sydd yngh nghlwm a’r prosiect. Yr unig ddarn o gymor buaswn yn rhoi i rhywun sydd yn llwyddiannus yn derbyn cyllid yw ‘Fail to prepare, prepare to fail’. Mae gwaith trefnu trylwyr yn hanfodol i daith llwyddiannus, a gall trefnu digwyddiadau neu deithiau drmor cyn cyrraedd y wlad dramor eich helpu yn fawr iawn.