Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Ffindir

Uned Cyfeirio Disgyblion Rhodfa Penrhos, Canolfan Addysg Conwy, yn ymweld â’r Ffindir

Mae Canolfan Addysg Conwy yn uned cyfeirio disgyblion yng Nghonwy i ddisgyblion sydd yn wynebu heriau mewn addysg prif ffrwd. Mae’r rhan fwyaf o’r dysgwyr yn dioddef o broblemau iechyd meddwl a achosir gan orbryder a hunanhyder isel yn dilyn profiadau trawmatig yn ysgolion brif ffrwd. Mae’r trawma hyn, ochr yn ochr ag anghenion dysgu ychwanegol wedi eu hadnabod neu heb eu hadnabod, a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod y tu allan i leoliad yr ysgol, yn arwain at ddisgyblion ag anghenion dysgu sylweddol a chymhleth, cymdeithasol ac emosiynol.
Ym mis Chwefror 2024, teithiodd grŵp o ddysgwyr a staff ategol i’r Ffindir. I lawer o’r dysgwyr, dyma oedd eu tro cyntaf allan o Gymru, a rhoddodd gyfle iddynt ddatblygu sgiliau, magu hyder, ac agor eu llygaid i wlad a diwylliant newydd. Gwyliwch y fideo i glywed gan y dysgwyr a’r staff am eu Taith a newidiodd eu bywydau, a’r effaith a gafodd arnyn nhw.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.