Roedd Taith yn falch o ariannu carfan 7 bob ochr yr Urdd i gynrychioli’r sefydliad a Chymru fel y tîm cyntaf erioed i gystadlu o wledydd Prydain.
Yn ystod y daith fythgofiadwy hon, cafodd tîm yr Urdd gyfle hefyd i ddysgu am ddiwylliant a hanes Māori, gan ymweld â Whakaata Māori (teledu Māori) a Te Kaha o Te Rangatahi (grŵp ieuenctid brodorol) yn ardal Auckland.
Nid dim ond paratoi ar gyfer y daith oedd pedwar ar ddeg o lysgenhadon ifanc yr Urdd a ddewiswyd ar gyfer carfan 7 bob ochr Ysgolion y Byd gyda sesiynau rygbi ychwanegol dan arweiniad hyfforddwyr o Undeb Rygbi Cymru (URC).
Cyn y daith, roedd y tîm yn cyfarfod yn rheolaidd i ddysgu am hanes, iaith a diwylliant Cymru. Yn ogystal â chynnig cyfle i’r criw o bobl ifanc 14-18 oed ddod i adnabod ei gilydd, dysgodd y tîm ganeuon a dawns draddodiadol Gymreig i’w rhannu gyda phobl ifanc a chymunedau Seland Newydd.
Roedd ffocws ar ddatblygiad personol a’r hyn y gallai’r merched ifanc ei ennill o’r daith, a hefyd i reoli disgwyliadau a phryderon cyn hedfan i ochr arall y byd.
Dywedodd chwaraewr Urdd Gobaith Cymru, Nia Fajeyisan: “Roedden ni nid yn unig yn mynd i gystadlu yn nhwrnamaint Ysgol 7 Bob Ochr y Byd, ond hefyd yn cynnal sesiynau yn y gymuned er mwyn i ni allu dysgu am ddiwylliant Māoria hefyd eu dysgu am ein diwylliant a’n hiaith Gymraeg. Roeddwn i’n gyffrous ac yn falch.”
Ymunodd yr Urdd â Te Taura Whiri i Te Reo Māori (comisiwn iaith Māori) i rannu iaith a diwylliant Cymru gyda phobl Seland Newydd, ond hefyd i ddysgu am yr iaith (te reo Māori) a diwylliant y Māori. Mae Te Taura Whiri i Te Reo Māori yn arwain strategaeth iaith Māori y llywodraeth, er mwyn creu amodau i te reo ffynnu a hybu’r iaith.
Dysgodd y merched fwy am yr adeg a gafodd Te Reo ei sefydlu, Māori fel iaith swyddogol yn Seland Newydd, a sut i gyfarch pobl o fewn y gymuned Māori.
Mwynhaodd y tîm ymweliadau â Maungawhau (Mount Eden) i ddysgu am hanes yr ardal a phwysigrwydd y wlad, ac ymweliad â Te Kaha o Te Rangatahi (grŵp ieuenctid Māori) lle bu’r bobl ifanc yn rhannu profiadau o’u hieithoedd brodorol.
Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Yn 2022 lansiodd yr Urdd yr ymgyrch #FelMerch, i rymuso merched mewn chwaraeon, a chwalu’r rhwystrau sy’n atal merched rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Roedd y daith hon yn gyfle gwych i’r merched gystadlu ar lwyfan rhyngwladol yn erbyn timau 7 bob ochr gorau’r byd.
“Diolch i Taith, Llywodraeth Cymru, am ariannu’r daith hon a gwneud y profiadau gwych hyn yn bosibl.”