Bu athrawon o Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd yn ymweld ag ysgolion yn Nenmarc, Sweden a Sbaen er mwyn cyrraedd targedau o fewn y Cynllun Gwella Ysgol. Mae athrawes Elin Morgan yn dweud wrthym am y prosiect a’r hyn y maent wedi’i roi ar waith yn yr ysgol o ganlyniad.
Roedd ein prosiect yn cynnwys tair gwlad ac roedd gennym ffocws gwahanol ym mhob un. Daeth y ffocws ym mhob gwlad o’n cynllun datblygu ysgol ac o siarad â staff am anghenion ein plant a’r hyn sydd angen i ni ei ddatblygu.
Yn Nenmarc, roedd ffocws ar ddysgu yn yr awyr agored, yn Sweden roedd dwyieithrwydd ac yna yn Sbaen roedd ffocws ar les. Wrth ymweld â’r gwledydd gwahanol hyn enillasom lawer mwy na’r amcanion. Yn Sweden roedden ni’n anelu at ddatblygu ein dwyieithrwydd, ond fe wnaethon ni hefyd dysgu llawer am les. Er mai lles oedd ffocws gwreiddiol yr ymweliad i Sbaen, casglwyd llawer o syniadau yn ymwneud â dwyieithrwydd yr ydym yn edrych ymlaen at eu datblygu yn ein hysgol.
Mae wedi cael effaith mor fawr. Byddwn yn dweud ei fod wedi caniatáu i ni weld arfer da, ond hefyd sylweddoli’r hyn yr ydym yn ei wneud yn dda ein hunain a oedd yn gadarnhaol iawn. Rydyn ni wedi dod â rhywbeth yn ôl o bob gwlad.
Buom yn ymweld â Denmarc yn ystod eu hwythnos menter busnes arbennig ac yn ddiweddar cynhaliwyd wythnos fentrus yn ein hysgol yn seiliedig ar arfer a welsom. Ceisiwyd ei ddynwared mor agos ag y gallem ac roedd yn llwyddiannus iawn. Mwynhaodd y plant yn fawr. Bu plant blynyddoedd 3-6 yn creu nwyddau yn y boreau fel cylchoedd allweddi, bwyd a gemau ac yna yn cael eu talu am eu hymdrechion gyda thalebau. Roeddent wedyn yn gallu mynd o gwmpas y gwahanol stondinau a gwario eu ‘arian’.
Yn y bore byddent yn creu’r prosiectau. Yna yn y prynhawn roedd ganddyn nhw amser wedyn i wario ei ‘arian’. Lluniodd y disgyblion yr holl syniadau ac roedd yn rhaid iddynt wneud yr holl farchnata fel yr holl bosteri a phopeth i’w wneud â hynny. Roedd fel eu bod yn gwneud eu busnesau eu hunain. Roedd y disgyblion mor ymgysylltiol a datblygwyd llawer o sgiliau bywyd gan gynnwys gwerth arian, cyllidebu, rhifedd, cydweithio, datrys problemau, a meddwl yn greadigol.
O ran dysgu yn yr awyr agored y prif peth a ddysgwn yw ein bod ar ganol datblygu ein hardal awyr agored gyda phwyslais ar gegin awyr agored. Rydym wedi prynu popty/bbq awyr agored er mwyn i’r plant gael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau coginio. Rydym hefyd yn dymuno creu rhandir o fewn ein hysgol a defnyddio’r cynnyrch hwn o fewn ein coginio. Gobeithiwn trwy roi’r syniadau a’r offer newydd hyn ar waith y bydd ein plant yn dod yn fwy annibynnol a gwydn yn eu bywyd bob dydd gan fod coginio yn sgil bywyd pwysig. Yn Nenmarc roedd gweld sut mae’r plant yn datblygu eu hannibyniaeth drwy gael y cyfle i goginio gan ddefnyddio cynnyrch o siopau lleol a fyddai wedi cael eu taflu allan fel arall wedi creu cymaint o argraff arnom ni. Roedd y plant yn defnyddio offer fel cyllyll, plicwyr, sosbenni a photiau a choginio cawl ac yn gwneud bara fflat i’w werthu i’r plant yn y prynhawn. Roedd y cyfleoedd a gafodd y plant hyn mor wych a gobeithiwn wneud yr un peth i’n dysgwyr.
Yn Sweden, er bod y prif ffocws ar ddwyieithrwydd, y canlyniad mwyaf arwyddocaol oedd gwella lles myfyrwyr ac amgylchedd yr ystafell ddosbarth. Gwelsom y defnydd o wahanol esgidiau ar gyfer gweithgareddau dan do ac awyr agored yr ydym bellach wedi’u rhoi ar waith yn ein hysgol. Gwelsom fod newid esgidiau wrth symud o’r tu allan i’r tu mewn yn arwydd i ddisgyblion ymdawelu, setlo a pharatoi i ddysgu. Rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2023, cafodd yr arfer hwn ei dreialu ym Mlwyddyn 5 a 6 ac yna fe’i mabwysiadwyd ledled yr ysgol ym mis Ionawr 2024 oherwydd ei lwyddiant. Mae wedi arwain at welliannau amlwg yn ymddygiad a lles disgyblion. Maent yn llai swnllyd yn y dosbarth ac yn canolbwyntio mwy ac yn barod i ddysgu. I’r plant iau mae’n sicr wedi datblygu eu hannibyniaeth o wisgo eu hesgidiau ac adnabod eu traed chwith a dde!
Ers yr ymweliad hwn rydym hefyd wedi dechrau ymgorffori gwersi mwy ymarferol, sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru drwy ddarparu profiadau dysgu amrywiol a diddorol i’n disgyblion.
Yn Sbaen, roedd y prif ffocws ar les myfyrwyr; fodd bynnag, cawsom fewnwelediad sylweddol i addysg ddwyieithog. Gwelsom ddefnydd effeithiol o raglen Rhydychen i ddatblygu medrau llafaredd disgyblion yn Saesneg, a oedd yn arbennig o drawiadol gan fod myfyrwyr 6-7 oed bron yn rhugl. Roedd y rhaglen yn pwysleisio siarad a defnyddio geirfa cyn darllen ac ysgrifennu. Mae’r ymweliad wedi cael effaith ddofn ar ein hymagwedd at addysg ddwyieithog. Wedi’n hysbrydoli gan y llwyddiant yn Sbaen, rydym wedi dechrau datblygu cynllun i wella sgiliau llafaredd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hwn yn brosiect parhaus gyda’r nod o wella gallu dwyieithog ein disgyblion.
Rhowch gais i mewn yn bendant. Er bod llawer o waith wedi’i wneud ar y cais roedd yn fenter ysgol gyfan. Mae’r hyn rydym wedi’i ddysgu a’i weithredu wedi gwneud cymaint o argraff arnom fel ein bod wedi gwneud cais eto i alluogi ein disgyblion i brofi’r symudiadau holl bwysig hyn. Yng Nghwm Garw, mae gennym lawer o blant sy’n dod o gefndiroedd difreintiedig a llawer sydd heb adael Cymru. Mae’r ffaith ein bod yn awr yn gallu mynd â nhw i Sbaen, rhai am eu tro cyntaf dramor yn anhygoel.
Mae wedi bod yn brofiad anhygoel i ni fel athrawon ac mae’r cyllid wedi rhoi’r cyfle i ni ddatblygu’n broffesiynol. Mae’n bendant wedi ein hysbrydoli a’n gwneud yn gyffrous i dreialu technegau newydd ac egwyddorion addysgegol er mwyn datblygu ein hunain fel athrawon ond hefyd i sicrhau ein bod yn rhoi’r profiadau dysgu gorau i’n disgyblion.