Ym mis Mawrth 2025, ymwelodd pedwar aelod o Rwydwaith Ymchwil Tai ac Iechyd Prifysgol De Cymru â Chanolfan Ymchwil Lles a Thai HOUSINGWEL ym Mhrifysgol Metropolitanaidd Oslo. Canolbwyntiodd yr ymweliad ar archwilio gwahaniaethau a thebygolrwydd allweddol rhwng systemau tai cymdeithasol yng Nghymru a Norwy, gan adnabod cyfleoedd ar gyfer ymchwil ar y cyd, a datblygu cynlluniau ar gyfer cynigion ariannu a chydweithio ar y cwricwlwm yn y dyfodol. Dywed Dr Dan Bowers, Pennaeth Seicoleg, mwy wrthym am sut y mae’r tîm yn teimlo y gall Cymru ddysgu gan systemau tai a lles Norwy.
O’n safbwynt ni, rydym yn rhwydwaith gweddol newydd, ac roedd gennym ddiddordeb mewn dysgu gan HOUSINGWEL mewn perthynas â datblygiad a strwythur eu Canolfan. Ein bwriad oedd gweithio gyda nhw dros ychydig ddyddiau i sefydlu rhai prosiectau ymchwil rhyngwladol ar y cyd ac i ddysgu ganddynt, gyda’r bwriad o gyflymu datblygiad ein Rhwydwaith Ymchwil Tai ac Iechyd ein hunain. Roeddem yn awyddus iawn hefyd i ddeall gwahaniaethau rhwng systemau tai cymdeithasol yng Nghymru ac yn Norwy (ac mae’n debyg bod y rhai yn niferus ac yn amrywiol) er mwyn gosod ein hymchwil mewn cyd-destun rhyngwladol.
Roedd hi’n ddiddorol dysgu am y cyferbyniad rhwng systemau tai cymdeithasol yng Nghymru a Norwy. Yn Norwy, mae tai cymdeithasol i gyfrif am ddim ond 4% o’r sector tai, o’i gymharu â 10% yng Nghymru. Mae model Norwy yn canolbwyntio ar gynnig llety byr dymor ar gyfer y rheini ag anghenion uchel a chymhleth, gyda’r disgwyliad y bydd tenantiaid yn pontio i dai preifat yn weddol gyflym. Mewn cyferbyniad, cymer Cymru ddull tymor hwy, gan gynnig tai cymdeithasol fel datrysiad mwy sefydlog i breswylwyr.
Mae Norwy hefyd yn gosod pwyslais cryf ar berchen tai, gyda thua 80% o bobl yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Mae gradd o stigma hefyd yn ymwneud â thai cymdeithasol a rhentu yn gyffredinol, sydd mewn cyferbyniad â dull Cymru. Serch hynny, mae gan Norwy lefelau is o ddigartrefedd, er y mae niferoedd cynyddol yn cyrchu tai brys.
Un o’r prif bethau a gawsom o’r ymweliad oedd gwerthfawrogiad cynyddol o’r gwahaniaethau rhwng systemau tai cymdeithasol Cymru a Norwy.
Wrth edrych ymlaen, bydd y bartneriaeth yn parhau gyda bwriad i gydweithwyr Met Oslo gyflwyno yng nghyfarfod grŵp llywio Rhwydwaith Ymchwil Iechyd a Thai Prifysgol De Cymru ym mis Gorffennaf. Bydd yn gyfle i arddangos cynnydd ymchwil a chasglu adborth strategol.
Mae’r ddau dîm hefyd yn gweithio ar bapur academaidd ar y cyd yn archwilio effaith modelau tai cymdeithasol Cymru a Norwy ar ganlyniadau iechyd a lles. Bydd y papur yn archwilio’n gritigol gryfderau a gwendidau modelau tai cymdeithasol Cymru yn erbyn Norwy. O hyn, y cynllun yw cyfnewid enghreifftiau ac arferion gorau wrth ddatblygu rhaglenni hyfforddi effeithiol ar gyfer y sector.
Mae’r daith ei hun wedi bod yn amhrisiadwy ar gyfer ein hymchwil ym Mhrifysgol De Cymru. Mae ymgysylltu â chydweithwyr ym Met Oslo wedi agor cyfleoedd newydd sylweddol ar gyfer cydweithio, ac mae cyfnewid syniadau wedi bod yn gyffrous ac yn adeiladol. Roedd y trafodaethau hyn yn graff, ac mae’r haelioni wrth rannu gwybodaeth wedi creu sylfaen gref ar gyfer partneriaethau parhaus. Nid yn unig y mae’r ymweliad hwn wedi cryfhau ein hymchwil presennol ond hefyd prosiectau yn y dyfodol.
Ar lefel bersonol, dyma un o’r profiadau mwyaf boddhaus yn fy ngyrfa. Bydd y perthnasau a adeiladwyd, y ddysg a enillwyd, a’r potensial ar gyfer cydweithio yn y dyfodol yn cael effaith barhaus ar ein gwaith o fewn ymchwil tai ac iechyd. Byddwn yn argymell y cyfle hwn yn gryf i unrhyw ymchwilydd sydd eisiau ehangu eu rhwydweithiau ac archwilio cyfeiriadau newydd yn eu maes.
Byddwn yn argymell i brifysgolion eraill ystyried ymgeisio. Roedd y broses o ymgeisio am, a chymryd rhan yn, y daith ymchwil hon yn syml gyda chefnogaeth dda. O’r cais cychwynnol i’r trefniadau a wnaed ar gyfer y daith, ymdriniwyd â phopeth yn effeithlon, gan olygu bod y broses yn syml a chynhyrchiol.
Ni allaf ganmol y broses a’r profiad ddigon.