Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd

Cysylltwch
Catalonia

Ymweliad Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru i Gatalonia

A group of around 20 young adults smiling at the camera, stood in front of a sign saying "Fundacio Mona Benvinguts"
Adrienne Earls yw Rheolwr Skills & Volunteering Cymru, elusen wirfoddoli sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Trwy gyllid Taith, bu modd iddynt ehangu cwmpas rhyngwladol eu gwaith trwy gyflwyno prosiectau gwirfoddoli cilyddol ar gyfer pobl ifanc a staff mewn cydweithrediad â phartneriaid rhyngwladol 
Grŵp o tuag at 20 oedolion ifanc yn gwenu at y camera. Y maen nhw'n sefyll o flaen arwydd sy'n dweud "Fundacio Mona Benvinguts".
Beth oedd ffocws eich prosiect Taith?

Ein ffocws oedd cefnogi pobl o gefndiroedd difreintiedig i gymryd rhan mewn gwirfoddoli rhyngwladol, yn enwedig pobl ifanc sy’n nodi eu bod o gefndiroedd incwm isel. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yr ydym yn eu cefnogi yn gallu manteisio ar lawer o gyfleoedd oherwydd eu hamgylchiadau personol; teimlwn ei bod yn bwysig iddynt gael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion. Roeddem wir eisiau i’r prosiect hwn ymwneud â grymuso pobl ifanc, a phobl ifanc yn ymgysylltu â phobl ifanc eraill.

Fe wnaethom gais am daith gyfnewid gwirfoddoli ryngwladol ac roedd yn cynnwys 20 o bobl ifanc o Gymru a Chatalonia. 

Pam ydych chi’n meddwl bod profiadau rhyngwladol yn bwysig i bobl ifanc ddifreintiedig?

Os ydych chi’n rhywun sy’n nodi eich bod o gefndir difreintiedig, yn aml y cyfleoedd sydd ar gael i’ch cyfoedion, rydych chi’n teimlo nad ydyn nhw yno i chi. Mae cymaint mwy o rwystrau y mae bywyd wedi’u gosod yn y ffordd i chi gymryd rhan mewn cyfleoedd. Roedd ein gwaith yn canolbwyntio ar sut y gwnaethom ddiddymu’r rhwystrau hynny. 

Gwnaethom arolygon i geisio deall beth oedd y prif rwystrau ym marn pobl ifanc. Roedd y gost yn un enfawr, yn ogystal ag amser; teimlai pobl, er bod llawer o gyfleoedd ar gael i bobl ifanc, eu bod yn aml yn para am sawl wythnos, neu hyd yn oed fisoedd. Os ydych chi’n ofalwr neu’n dod o deulu incwm isel ac yn gorfod gweithio, mae’n anodd iawn cymryd yr amser hwnnw i ffwrdd. Ond mae mor bwysig i bobl ifanc gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn, oherwydd mae’n gyfle iddynt gwrdd â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd, megis annibyniaeth, sgiliau cyfathrebu, cyllidebu, gwaith tîm, a gwydnwch. 

Grŵp o tuag at 20 oedolion ifanc yn eistedd mewn cylch yn ymddangos eu bod yn gwrando ar un dyn yn siarad. Y maen nhw’n yn eistedd mewn ystafell gydag un wal wyrdd ac un wal wen.
A oedd unrhyw uchafbwyntiau cofiadwy o’ch cyfnewid? 

Cawsom sesiwn annisgwyl ac emosiynol a gyflwynwyd yng Nghaerdydd ar gyfer pobl ifanc o Gatalonia a Chymru. Roeddent yn edrych ar y tebygrwydd rhwng y diwylliannau a’r ieithoedd, a’r berthynas rhwng Catalwnia a Sbaen, a rhwng Cymru a Lloegr. Wrth rannu’r holl wybodaeth hon gyda’i gilydd, sylweddolodd y ddau grŵp hyn o bobl ifanc sut maen nhw’n ysbrydion caredig, a sut roedd tebygrwydd rhwng y ddau ddiwylliant gwahanol hyn. Mae’r diwylliant a’r wybodaeth y mae hyn wedi’u rhoi i’r bobl ifanc dan sylw yn anodd eu darllen mewn llyfr. 

A oedd unrhyw enghreifftiau amlwg o unigolion yr effeithiwyd arnynt gan y profiad?

O ran cefndir, nododd pedwar o’n pobl ifanc eu bod yn anabl. Roedd un o’n pobl ifanc yn fyfyriwr wedi ymddieithrio o deulu incwm isel. Roedd gennym dri arall a nododd eu bod yn aelodau o deuluoedd incwm isel. 

Nid oedd un aelod o’r grŵp mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Nid oeddent erioed wedi bod dramor ar eu pen eu hunain o’r blaen. Roedd yr adborth a gawsom ganddynt yn aruthrol oherwydd roedd yn ymwneud â’r annibyniaeth yr oeddent wedi’i dysgu. Dysgon nhw sgiliau nad oedden nhw erioed wedi gorfod eu hystyried mewn gwirionedd, fel gorfod gosod larwm, gorfod didoli eu bag cefn am y dydd, rheoli eu cyllideb ar gyfer y daith, ac ystyried beth oedden nhw’n ei fwyta – sgiliau bywyd y gallech chi neu fi cymryd yn ganiataol. 

Roedd gennym ni gyfranogwr arall sy’n nodi bod ganddo Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac nid oedd erioed wedi bod dramor heb eu mam ychwaith. Nid oeddent erioed wedi prynu eitem ar eu pen eu hunain mewn siop yn y DU ac esboniodd fod hyn yn rhywbeth yr hoffent allu ei gyflawni fel nod. Roedd eu cyfoedion yn eu cefnogi i fynd i siop gyda’i gilydd a chael hyder mewn grŵp, ac yna’r hyder i fynd i fyny a thalu. Erbyn diwedd y daith, roeddent yn gallu mynd yn annibynnol a phrynu eitemau o siop ar eu pen eu hunain. Mae hynny’n gamp enfawr i’r unigolyn hwnnw mewn gwlad wahanol, yn siarad mewn iaith wahanol mewn diwylliant gwahanol; roedd hynny’n anhygoel. Mae hynny’n rhywbeth y byddan nhw a’u teulu yn ei drysori oherwydd mae hynny’n gymaint o lwyddiant iddyn nhw. 

Grŵp o tuag at 20 oedolion ifanc o flaen addoldy. Mae'r bobl yn y rhes flaen yn eistedd ar stepiau yr addoldy ac y mae'r gweddill yn sefyll y tu ôl iddyn nhw.
Sut ydych chi’n meddwl y gall symudedd rhyngwladol helpu i gefnogi gweithwyr ieuenctid yng Nghymru?

Fel rhan o’n prosiect derbyniasom gyllid i anfon pob aelod o’n tîm i weithio gyda sefydliadau ieuenctid rhyngwladol eraill. Buom yn gweithio yng Nghanada, Norwy, a Chatalonia, ac ymwelwyd â chyfanswm o 15 o sefydliadau ieuenctid gwahanol yn ystod y flwyddyn. Gwelsom hyn yn bersonol ac yn broffesiynol; dysgon a darganfodon ni gymaint am y gwahaniaethau am waith ieuenctid mewn gwledydd eraill. 

Dysgon ni am sut mae gwirfoddoli’n cael ei weld, ei fesur a’i adrodd ar draws y tair gwlad wahanol yr aethon ni iddyn nhw. Arweiniodd at wneud rhai newidiadau i’n helusen; rydym yn annog mwy o wirfoddolwyr o bobl mewn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol / cefndiroedd difreintiedig. 

Ers y daith i Norwy rydym wedi cymryd y pethau a welsom ac rydym wedi ceisio ei adlewyrchu yma yng Nghymru. O fewn ein helusen rydym wedi cyflogi Swyddog Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant llawn amser i geisio ehangu ein demograffeg gwirfoddolwyr ymhellach. Rydym hefyd wedi sefydlu prosiect newydd i gefnogi grwpiau o bobl sydd ar y cyrion i bleidleisio. 

Mae ein symudedd hefyd wedi cefnogi ein partneriaid yng Nghatalwnia i weithio’n fwy cynhwysol. Mae adborth eu staff yn dangos bod eu persbectif ar bobl ifanc anabl wedi newid, ac maent yn llawer mwy cynhwysol nawr. Mae’r gwaith y maent yn ei wneud wedi blodeuo o weithio gyda ni yng Nghymru. Rwy’n credu ei fod gwir wedi rhoi Cymru ar y map. 

Grŵp o tuag at 40 oedolion ifanc yn eistedd ar stepiau yn yr awyr agored. Mae y rhan fwyaf ohonyn nhw yn gwenu ac y mae rhai yn tynnu wyneb. Y mae yna awyr glas yn y cefndir.
Oes gennych chi gyngor i bobl sy’n ystyried gwneud cais am arian Taith?

Wrth fyfyrio, pan welais y cyfle yn cael ei hyrwyddo gyntaf, roeddwn yn gyffrous ac yn nerfus, oherwydd nid yw gwirfoddoli rhyngwladol yn rhywbeth yr oeddem yn gyfarwydd ag ef o gwbl. Roedd pryderon a llawer o gwestiynau. 

Fy nghyngor i fyddai: os ydych chi’n ystyried ei wneud, gwnewch e! Mae cymaint o bobl sydd â phrofiad o wirfoddoli rhyngwladol a sefydlu a chyflwyno rhaglenni. Mae’n rhaid i mi ddweud, byddai pob un sefydliad y gwnes i estyn allan ato yn hapus i gael sgwrs. 

 Os oes unrhyw un yn ystyried ei wneud ac yr hoffai hefyd estyn allan atom ni, rydym wedi bod yn fwy na pharod i rannu gwybodaeth, oherwydd ar ôl i chi ddod dros y rhwystrau cychwynnol o ran gwaith papur, mae’r budd a gewch yn gyfnewid yn drech na dim o hynny. 

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.