Gwnaeth Tracy Mein, Dirprwy Bennaeth Ysgol Nantgwyn yn Nhonypandy, gais am gyllid Taith yn 2023 gyda’r nod o ddylunio cwricwlwm ysgol sy’n diwallu anghenion amrywiol ei disgyblion ac i’w galluogi i fod yn ddysgwyr gydol oes hyderus, llwyddiannus.
Bu tri deg o ddisgyblion Blwyddyn 7, ynghyd â phedwar aelod o staff, yn cymryd rhan yng nghyfnewid ryngwladol Taith i Wlad yr Iâ ym mis Chwefror 2024.
“Darparodd prosiect Taith gyfle oes i’n disgyblion deithio i Wlad yr Iâ a chael eu trochi mewn diwylliant gwahanol. Dyma’r tro cyntaf dramor i rai o’n disgyblion, cawsant amser gwych, a phrofiad gwerthfawr iawn mewn lle sydd mor wahanol i Gymru. Roedd hi’n bwrw eira pan oedden ni yno a minws 16 gradd un diwrnod. Gwahanol iawn, ond profiad gwych i bawb. Roedd yn wych gweld hyder ein disgyblion yn cynyddu trwy gydol yr ymweliad. Gwnaethant sefydlu cyfeillgarwch yn gyflym gyda’r myfyrwyr y gwnaethant gwrdd â nhw yn yr ysgol yng Ngwlad yr Iâ ac roedden nhw’n chwilfrydig am sut roedd eu bywyd ysgol yn wahanol i’w bywyd nhw. Mae disgyblion wedi dod yn fwy annibynnol ers y daith ac wedi datblygu eu gwytnwch. Roedd athrawon wedi syfrdanu bod y disgyblion yn ddigon hyderus i wneud ffrindiau newydd, ymgolli mewn diwrnod arferol mewn ysgol yng Ngwlad yr Iâ a rhoi cynnig ar fwydydd newydd. Darparodd yr ymweliad hwn gyfle i newid bywydau llawer o’n disgyblion ac un na fyddant byth yn ei anghofio. Ni fyddem yn oedi cyn argymell bod ysgolion eraill yn gwneud cais am brosiect Taith.”
Ar ôl dychwelyd, rhannodd y disgyblion yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu a’i brofi yn ystod eu hamser yng Ngwlad yr Iâ, a’r effaith y mae hyn wedi’i chael ar eu hysgol eisoes.