Llwybr 2 2024 yn agor 3 Hydref a bydd y dyddiad cau ar 21 Tachwedd
Cysylltwch“Anturiaeth go iawn oedd y cyfan,” meddai Roger Beech, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Dyffryn Conwy. “Nid bob dydd rydych chi’n cael y cyfle i fynd i Dde America.
“Mae’r disgyblion wedi dysgu cymaint. Doedd gan rai ohonyn nhw ddim pasbort, gan nad oeddwn nhw erioed wedi gadael Llanrwst, a dweud y gwir. Roedd gadael Llanrwst a mynd i faes awyr a theithio ar awyren am gyfnod hir yn brofiad ynddo’i hun i lawer o’r disgyblion hyn. Roedd yn beth enfawr.
“Ac yna dyma lanio yn y lle anhygoel hwn yn y gwledydd trofannol, yn y gyrchfan fywiog, brysur, aml-ddiwylliannol a phoblog hon; roedd mor wahanol.
“Mae cynifer o fanteision addysgol y gallwn i siarad amdanyn nhw yn sgil y daith hon, ond yn fwy na dim, y ffaith bod y disgyblion hyn wedi cael profiad o ddiwylliant ac iaith newydd a dysgu am ffordd wahanol o fyw. Roedd yn agoriad llygad iddyn nhw.”
Arhosodd y 34 o ddysgwyr o Flwyddyn 9 a 10 ynghyd â 4 aelod o staff gyda theuluoedd derbyn o’r ysgol gyfnewid, sef Colegio Colombo Británico yng nghymuned Cali yn ystod cyfnod y symudedd fu’n para am 10 diwrnod.
Dyma a ddywedodd Mr Beech: “Pan wnaethon ni lanio roedd dirprwyaeth yn ein haros yn y maes awyr. Roedd teuluoedd yno â baneri, rhai hyd yn oed gyda geiriau Cymraeg. Ro’n i’n methu credu’r croeso ac mae’n rhywbeth y mae ein dysgwyr yn annhebygol o’i brofi eto felly o’r eiliad gyntaf, roedd yn anhygoel.
“Gwnaeth pawb gynifer o ffrindiau gyda’u teulu derbyn ac erbyn diwedd y daith roedd ein disgyblion i gyd yn gofyn am gael aros, do’n nhw ddim eisiau mynd adref! Cawson nhw amser mor anhygoel ac roedd y teuluoedd i gyd yn llefain pan oedd hi’n bryd inni adael. Mae llawer ohonyn nhw mewn cysylltiad o hyd.”
Yn rhan o gyllid Taith hwyrach y bydd darpariaeth ar gyfer ymweliadau paratoadol cyn symudedd, gan ganiatáu i’r trefnwyr ddewis cyrchfannau, cwrdd â sefydliadau partner a chynllunio teithiau a gweithgareddau.
Dyma a ddywedodd Mr Beech: “Cefais fy newis i fynd ar y daith baratoi a oedd yn hollbwysig wrth fwrw ymlaen â’r daith. Roeddwn i’n gallu ymweld â’r ysgol a gwirio bod popeth yn ei le ganddyn nhw o ran iechyd a diogelwch a sut roedden nhw’n dewis a dethol y teuluoedd. Aethon nhw ati i baratoi pob manylyn. Cefais i weld popeth ac roeddwn i’n hyderus ac yn dawel fy meddwl yn yr hyn yr oeddwn i’n gallu adrodd amdano a’i gyfleu i’r ysgol ac i’r rhieni.
“Roedd hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â theuluoedd o ysgol Colombia a sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer eu taith hwythau yn y prosiect cyfnewid. Siaradais i am Gymru, ein cymuned, ein disgyblion a’u diddordebau ac atebais i bob un o’u cwestiynau. Erbyn y diwedd, roedden nhw’n awyddus iawn ac eisiau i’w plant gael profiadau yng Nghymru.
“Pan gyrhaeddais i yn ôl dechreuon ni gynnal gwasanaethau a sesiynau gwybodaeth yn yr ysgol gyda disgyblion a rhieni ac un o’r cwestiynau oedd “pam Colombia?” Ein hymateb oedd bod disgyblion yn fwy tebygol o gael y cyfle i fynd i Ffrainc neu Sbaen ar wyliau gyda’u teuluoedd, ond nid bob dydd rydych chi’n cael y cyfle i fynd i Dde America a phrofi diwylliant, iaith a hinsawdd hollol newydd.
“Yna cyn y daith, gwnaethon ni roi manylion cyswllt y teuluoedd i bawb a’u hannog, yn y ddwy wlad, i siarad ar FaceTime a chyflwyno ei gilydd.”
Nod Taith yw cyflwyno a lledaenu’r neges bod Cymru’n gyrchfan uchelgeisiol, eangfrydig a blaengar sydd hefyd â diwylliant cyfoethog a hanes balch.
Roedd y symudedd hwn i Golombia yn cyd-fynd â Dydd Gŵyl Dewi pan gafwyd dathliad o bopeth Cymreig.
“Cynhaliwyd digwyddiadau a gwasanaethau yn yr ysgol pan drefnodd y disgyblion ddramâu o Gymru ac roedd y plant iau wedi dysgu Cymraeg,” meddai Mr Beech. “Canodd pawb yn y grŵp anthem genedlaethol Cymru gan berfformio hefyd rai caneuon Cymraeg eraill. Roedd cryn dipyn o’n disgyblion wedi prynu hetiau bwced Cymreig i’w rhoi i’w gwesteiwyr yn anrhegion, ac roedden nhw wrth eu boddau gyda’n disgyblion o weld eu bod yn siarad Cymraeg â’i gilydd.
“Roedd yn ymddangos bod yr ysgolion a’n teuluoedd derbyn yn syrthio mewn cariad â Chymru ac roedd ein disgyblion yn anhygoel. Roedd y grŵp wedi ymddwyn mor dda ac rwy’n teimlo ein bod wedi dangos y gorau o Gymru go iawn.”
Bellach mae Ysgol Dyffryn Conwy wrthi’n brysur yn paratoi ar gyfer ymweliad staff a dysgwyr o ysgol Colombia Llanrwst yr haf hwn.
“Mae’r holl brofiad hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol,” meddai Mr Beech. “Mae wedi cael effaith fawr ar ein hysgol a’n cymuned, ac mae pawb yn edrych ymlaen at groesawu’r Colombiaid i Lanrwst a dangos ein bro iddyn nhw. Mae wedi bod yn fwy llwyddiannus nag yr oedden ni wedi’i dybio yn y dechrau.”