Trefnwyd y daith fel rhan o brosiect mwy o St Joseph’s sy’n cynnwys amrywiaeth o symudiadau disgyblion a staff. Ymweliad datblygu system oedd hwn y gwnaeth yr ysgol gais amdano a’i gynnig i bob un o’i hysgolion clwstwr.
Gwnaeth James Torrance, Pennaeth Cynorthwyol yn St Joseph’s gais am gyllid Taith ac mae’n esbonio mwy am ddiben a chanlyniadau’r ymweliad.
Pwrpas yr ymweliad hwn oedd dod â Phenaethiaid pob ysgol at ei gilydd i arsylwi addysgu ysgol pob oed a thrafod gydag arweinwyr ac athrawon sut maent yn datblygu’r cwricwlwm a sgiliau disgyblion ar draws y grwpiau blwyddyn. Daeth Swyddog Cefnogi Addysg o Adran Addysg Castell-nedd Port Talbot gyda ni hefyd i ganiatáu ar gyfer cynulleidfa ehangach ar draws yr Awdurdod Lleol ar gyfer canlyniadau ein prosiect, a hefyd i ddod â’i harbenigedd o ysgolion eraill i’r prosiect. Byddai’r dulliau o reoli ysgolion, lles staff a gofal bugeiliol hefyd yn bwysig i’w harsylwi a’u cymharu â’n hysgolion a’n harferion ein hunain.
Yr enw ar yr ysgol y buom yn ymweld â hi yng Ngwlad yr Iâ yw Aslandsskoli ac mae’n ysgol pob oed 6-16 wedi’i lleoli yn Hafnafjodur ar gyrion Reykjavik. Mae St Joseph’s ac Aslandsskoli wedi mwynhau cysylltiadau am y 10 mlynedd diwethaf trwy’r hen gynlluniau Erasmus Plus ac yn fwy diweddar trwy Taith. Mae’r ysgol yn amgylchedd adeiladu newydd ar gyfer tua 500 o ddisgyblion ac mae’n adnabyddus yn y dref am ei harloesedd, ei hymagweddau deinamig at les (staff a disgyblion) a’r defnydd o dechnolegau newydd. Roeddem wrth ein bodd o allu parhau â’r berthynas hon trwy Taith.
Y prif bethau a welsom oedd edrych ar bwysigrwydd trosglwyddo fel rhan o’r cwricwlwm newydd. Gallu gweld diwylliant un ysgol, a’u bod yn ei weld fel un daith o 6 oed hyd at 16 oed. Fe’i gwelwyd fel un ysgol yn hytrach na dwy ysgol ar wahân (cynradd ac uwchradd) ar yr un safle a oedd yn dangos y modd yr oedd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno. Roedd ganddyn nhw arbenigwyr mewn ysgolion cynradd ac arbenigwyr pwnc ysgolion uwchradd, ac roedd mwy o arbenigeddau nag a welwn yn fy marn i, gan fod rhai o’r arbenigwyr pwnc ysgolion uwchradd yn mynd i mewn i leoliadau ysgolion cynradd ac yn cyflwyno elfennau o bynciau trawsgwricwlaidd.
Rwy’n meddwl mai’r prif beth i’w ddweud yw pe na bai cyllid Taith yna ni fyddem yn gallu cael y profiadau hyn a’r cyfleoedd hyn i ddatblygu ein hymagwedd at bethau. Byddem yn darllen llyfrau ac yn gwylio YouTube, tra bod yr athrawon a aeth ar y daith hon yn gallu ei brofi. Fy agwedd erioed fu: “Gadewch i ni weld beth mae pobl eraill yn ei wneud. Gadewch i ni fynd i ymweld â nhw. Gadewch i ni gymryd elfennau a’u hehangu i weddu i’n hamgylchedd a’n cyd-destun.” Rwy’n meddwl bod yn rhaid i chi ei brofi i wybod beth fydd yn gweithio. Roedd y cyfan yn gadarnhaol iawn.
Mae gennym ni’r berthynas â’n hysgolion clwstwr eisoes, ond mae’n datblygu hyn ac yn gweithio allan pa elfennau y gallwn eu cymryd o’n hymweliad â Gwlad yr Iâ a fydd yn ddefnyddiol ac a allai fod yn berthnasol i’n hysgolion ein hunain. Bydd gennym ryw fath o gwricwlwm pontio cyson ar draws ein holl ysgolion clwstwr gyda dull cyffredin o ymdrin â rhai pethau. Mae’n ei wneud mewn ffordd sy’n gweithio i ni ac nid ymarfer ticio blychau yn unig mohono. Rydym yn datblygu diwylliant dysgu proffesiynol nad yw’n cynnwys ein hysgol, ein hawdurdod lleol a’n gwlad yn unig. Rydym yn dysgu o sylfaen lawer ehangach.
Dim ond un elfen o brosiect mwy yw’r daith hon. Mae gennym gyllid i dalu am symudedd disgyblion a staff i Rufain, Kraków ac Efrog Newydd dros y flwyddyn nesaf, pob un â’i ffocws ei hun ond i gyd yn rhan o’r prosiect ehangach. Mae’r cyllid hwn yn ymrwymiad hirach gyda gwir ddiben o baru ein cynlluniau datblygu, paru ein hadroddiadau Estyn a phethau felly.