Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy
CysylltwchPan roddwyd holiadur i ddisgyblion ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog ei lenwi am eu dyheadau gyrfa, ychydig a wyddent ei bod yn ffordd o ganfod pwy fyddai fwyaf addas ar gyfer symudedd i Singapore wedi’i ariannu gan Taith.
Dywedodd Michelle Coburn-Hughes, Rheolwr Busnes a Chyfleusterau yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog yn Rhondda Cynon Taf a drefnodd y daith ochr yn ochr ag International Links Global: “Prosiect STEM oedd hwn a oedd yn canolbwyntio’n penodol ar beirianneg a dyframaeth, felly defnyddion ni’r holiadur yn ffordd o baru’r disgyblion oedd â diddordeb perthnasol neu ddyhead gyrfa yn y maes hwn. Fe wnaethom hefyd ystyried ffactorau eraill gan gynnwys presenoldeb ac ymddygiad. Wnaethon ni ddim dweud wrth y disgyblion am y symudedd na dweud dim byd am Singapore; roeddem am ei wneud mor deg â phosibl.
“Cawsom gyllid ar gyfer carfan o 15 o ddisgyblion. Allan o’r 15, doedd 4 erioed wedi bod ar awyren o’r blaen, a doedd un erioed wedi treulio noson oddi cartref nac wedi aros mewn gwesty.
“Allwn ni ddim rhoi gwerth ar y profiadau a gafodd y disgyblion ar y daith hon, yn enwedig yn y gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu. Mae cynnig cyfleoedd fel y rhain i rai o’r plant hyn yn rhywbeth na fyddent byth yn gallu manteisio arno heb y cyllid hwn.
“Roedd rhai o’r rhieni ychydig yn bryderus ond yn llawn cyffro iddyn nhw. Roeddwn yn ddigon ffodus i ymweld â Singapore ymlaen llaw ynghyd ag athrawon eraill er mwyn gwneud rhywfaint o waith paratoi. Roedd hyn yn rhan o’r cyllid, ac roedd yn caniatáu i ni gynllunio’r daith yn drylwyr a threfnu popeth yr oedd ei angen arnom ar gyfer y plant.”
“Dyw lot o blant ddim yn gadael yr ardal ac mae mor bwysig iddyn nhw weld bod byd y tu hwnt i Gwm Rhondda.”
Wrth ymweld ag ysgol gynradd ac uwchradd yn y ddinas, roedd y disgyblion wedi eu syfrdanu gan nifer y gwahanol ddiwylliannau oedd yn mynychu; 36 yn yr ysgol uwchradd a 48 yn yr ysgol gynradd.
Dywedodd Holly, disgybl Blwyddyn 9: “Roedd yr ysgol yn wahanol iawn i’n hysgol ni. Roedd yn drefnus iawn ac roedd ganddi risiau symudol. Mynd ar y daith hon yw’r peth gorau i mi ei wneud erioed yn fy mywyd.”
Dywedodd Cole, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 9, sydd â dyheadau i fod yn beiriannydd a gweithiwr adeiladu: “Roedd yn anhygoel. Doeddwn i erioed wedi bod dramor o’r blaen. Roeddwn i’n llawn cyffro ac ychydig yn ofnus i fynd ar awyren. Doedd neb wedi dweud unrhyw beth wrthym am y daith pan oedden yn llenwi’r arolwg, a phan ddywedon nhw wrthym doedden ni ddim yn gwybod mewn gwirionedd i ble’r oedden ni’n mynd.
“Gwelon ni’r pontydd crog enfawr a cheisiais fwyta tsilis sbeislyd. Nawr rydw i eisiau mynd i fwy o wledydd ac archwilio mwy o ddiwylliannau.”
Yn ogystal â’r agweddau dysgu cysylltiedig â STEM ar symudedd, roedd cyfoethogi a magu hyder yn thema fawr yn y prosiect hwn ar gyfer disgyblion sydd yn aml heb brofi unrhyw beth y tu allan i’w cymuned eu hunain o’r blaen. Dysgon nhw am faterion gan gynnwys llygredd, newid yn yr hinsawdd a gorbysgota.
Cafodd un disgybl, Harvey, lawer mwy o fudd o’r daith nag yr oedd erioed wedi’i ddisgwyl gyda llawer o anogaeth a chefnogaeth gan ei gyfoedion. “Doeddwn i ddim yn gallu nofio yn mynd allan ond roeddwn i’n gallu erbyn i mi ddod adref,” meddai.
Eglurodd yr athro Chris Partin: “Fe wnaethon ni roi cyfle i’r disgyblion fynd y tu hwnt i’w man cysurus. Mae wedi rhoi’r hyder iddynt fentro allan o’u milltir sgwâr ac wedi rhoi’r gallu iddynt ofyn i rywun am help. Dydyn nhw ddim yn cael y mathau hyn o brofiadau.”