Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy
CysylltwchMae cyllid Taith ar gael i ysgolion cynradd er mwyn cynnig cyfle i blant deithio dramor — yn aml am y tro cyntaf. Aeth Ysgol Gynradd Oak Field yn y Barri â 30 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 i Murcia yn Sbaen am symudedd wythnos o hyd.
Siaradodd yr athrawes Kelly Bladon a disgyblion 11 oed Blwyddyn 6 Keala, Chloe a Harrison am yr hyn a ddisgrifiwyd gan un o’r plant fel “profiad sy’n newid bywyd”.
“Mae llawer o’n plant heb adael Cymru o’r blaen,” meddai Mrs Bladon, a wnaeth gais am gyllid Taith. “Roedd y daith hon yn ymwneud â sicrhau bod gan y disgyblion ddyheadau am fywyd, oherwydd sut allwch chi anelu at rywbeth nad ydych erioed wedi’i brofi?
“Fe gawson nhw weld bod mwy y ty hwnt i’w milltir sgwâr, a gobeithio ein bod ni wedi meithrin y neges: ‘os ydw i eisiau teithio’r byd, yna mae angen i mi gael swydd dda i allu fforddio’r pethau hyn. A waw, mae mwy i’r byd na dim ond Y Barri.”
Gan nad oedd cymaint o’r plant erioed wedi bod dramor o’r blaen roedd llawer o nerfau a phryder yn mynd ar awyren am y tro cyntaf.
Dywedodd Harrison, un ar ddeg oed: “Roeddwn i’n teimlo ofn mynd ar yr awyren a hedfan ond yna dechreuais ddarllen y cylchgrawn a doeddwn i ddim yn gwybod ein bod ni yn yr awyr. Roeddwn i wedi cyffroi ac ychydig yn nerfus am fod i ffwrdd o fy nheulu a mynd dramor am wythnos gyfan, ond des i arfer ag ef ar yr ail ddiwrnod.
“Pan ddes i’n ôl, roeddwn i’n meddwl y gallwn i wneud unrhyw beth… yna cwympais i gysgu achos roeddwn i wedi blino cymaint. Mae’n brofiad sy’n newid bywyd. Os nad ydych wedi bod ar awyren o’r blaen, ewch. Ac os ydych chi’n ofnus, darllenwch y cylchgrawn. Fy hoff rannau o’r daith oedd y pwll nofio a gwneud ffrindiau newydd. Mae gen i lawer o straeon i’w dweud wrth bobl.”
Dywedodd Keala, sydd hefyd yn 11: “Roedd yn frawychus oherwydd doeddwn i ddim gyda fy rhieni, ond roeddwn i’n llawn cyffro i fod yno. Rydw i wedi bod ar awyren o’r blaen, ond roedd fy ffrind a oedd yn eistedd wrth fy ymyl yn crio ar fy mraich oherwydd doedd hi erioed wedi bod ar awyren o’r blaen. Fy hoff beth oedd marchogaeth ceffylau.”
Roedd Oak Field wedi partneru gydag ysgol yn Sbaen lle treulion nhw 3 diwrnod. Arhosodd y plant Sbaenaidd a gymerodd ran yn y rhaglen gyfnewid gyda’r grŵp ar gyfer cyfres o weithgareddau hwyl a magu hyder mewn timau.
“Cafodd ein plant eu trochi gyda’r plant Sbaenaidd drwy’r amser,” meddai Mrs Bladon. “Yn yr ysgol roedden nhw’n defnyddio clustffonau VR, yn gwneud rhywfaint o godio SPIKE Lego, coginio, a chymryd rhan mewn llawer o chwaraeon ac ymarferion adeiladu tîm. Aethon ni i Murcia un noson a gwnaethon nhw helfa ar gyfer tirnodau. Roedd ganddyn nhw fap ac roedd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio’r Sbaeneg maen nhw wedi bod yn ei ddysgu wrth ofyn cwestiynau ac am gyfarwyddiadau. Rydym wedi bod yn dysgu Sbaeneg fel ein hiaith glwstwr ers mis Medi, felly roedd yn braf rhoi hynny i gyd at ei gilydd.
“Aethon ni i’r traeth un diwrnod a gwnaethon nhw hwylfyrddio, padlfyrddio a chaiacio. Ar ddiwrnod arall aethon ni i le antur, ac aethon nhw ar y weiren wib, marchogaeth ceffylau, gwneud saethyddiaeth a chwarae pêl-droed bwrdd maint pobl go iawn.
“Roedd y plant wedi treulio llawer o amser gyda’i gilydd felly erbyn i ni adael, roedd llawer o ddagrau, a llawer o gyfnewid rhifau ffôn. Mae plant ac athrawon Sbaen yn dod draw aton ni ym mis Medi.”
Dywedodd Chloe, un o’r disgyblion, am ei phrofiad: “Fy hoff beth oedd y pêl-droed bwrdd maint pobl go iawn. Mae plant Sbaenaidd mor dda am chwarae pêl-droed. Rydych chi’n dod oddi ar yr awyren ac rydych chi’n teimlo’r gwres hwn, ac mae’r orennau a’r afalau mor fawr.”
Mae effaith y profiad hwn ar y plant wedi bod yn amlwg i athrawon a rhieni ers i’r symudedd ddigwydd. Dywedodd Mrs Bladon: “Mae mynd â phlant dramor am y tro cyntaf erioed yn ddigwyddiad enfawr ac roedden nhw’n wên o glust i glust bob dydd. Mae fideos a lluniau o rai o’n plant tawel iawn sydd ddim fel arfer yn cymryd rhan mewn unrhyw beth mawr gyda gwên enfawr ar eu hwynebau. Roedd gennyn ni grŵp WhatsApp gyda’r holl rieni ac roeddwn yn anfon lluniau bob dydd. Dywedon nhw eu bod nhw erioed wedi gweld eu plentyn yn gwenu fel hynny.
“Mae’r negeseuon o “ddiolch” wedi bod yn ddi-stop. Mae rhai rhieni wedi dweud wrthym nad yw eu plentyn wedi stopio siarad am y daith, gan ddweud: ‘Diolch yn fawr am roi cyfle iddyn nhw gael hyn; fyddwn i erioed wedi gallu ei fforddio ar gyfer fy mhlentyn. ‘
“Bydd rhai o blant Blwyddyn Pump a ddaeth ar y symudedd ym Mlwyddyn Chwech y flwyddyn nesaf ac yn cael y cyfle i ddod i’r Ffindir, a hynny gyda diolch i gyllid Taith. I feddwl erbyn 11 oed bydd rhai o’r plant hyn wedi bod i ddwy wlad… Mae hynny’n anhygoel, yndyw e? ”