Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy
CysylltwchYsgol Pen-y-Bryn yw ysgol arbennig fwyaf Abertawe i ddisgyblion 3 i 19 oed gydag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol. Mae gan eu disgyblion ystod eang o anghenion academaidd ac mae llawer ohonynt yn dod o gefndir o amddifadedd. Ym mis Mawrth 2024 aethant â saith disgybl a staff i Florida i archwilio amgylchedd gwahanol a fyddai’n darparu profiadau diwylliannol, sgiliau bywyd pwysig a chysylltiadau â myfyrwyr Americanaidd. Buont yn cymryd rhan mewn gwersi mewn dau sefydliad Americanaidd ond hefyd cawsant y cyfle i gymryd rhan mewn profiadau gwaith gyda disgyblion o Orange County. Mae’r daith wedi arwain at ddisgyblion yn teimlo’n fwy hyderus, yn teimlo’n fwy galluog ac wedi datblygu eu sgiliau bywyd ar gyfer y dyfodol.