Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch
Symudedd Ysgolion i Lesotho

Ysgol Penrhyn Dewi yn ymweld â Lesotho

Grŵp o bobl ifanc (tua 21) yn chwilio am lun. Mae adeilad unllawr yn y cefndir ac awyr las/gymylog.

Meithrin cysylltiadau â Lesotho

Mae gan Ysgol Penrhyn Dewi yn Nhyddewi gysylltiadau da â theyrnas dirgaeedig Lesotho – a amgylchynir gan Dde Affrica – gan fod cysylltiad swyddogol rhwng yr ysgol ac ysgol gyfun Mahloenyeng am nifer o flynyddoedd. Mae Tyddewi wedi’i gefeillio â phentref Matsieng sydd ychydig funudau i ffwrdd o’r ysgol.

Yn un o symudiadau Llwybr 1 cyntaf a ariannwyd gan Taith ar gyfer y sector Ysgolion, aeth 3 aelod o staff addysgu a 10 myfyriwr Blwyddyn 11 ar daith 10 diwrnod i Lesotho.

Grŵp o 11 o bobl ifanc ar fin cael tynnu eu llun. Mae cadwyn o fynyddoedd gydag awyr las glir yn y cefndir.
Grŵp o oedolion sy’n gwenu wrth gicio eu coesau yn yr awyr.

Gweithio ar y cyd

Cafodd y daith ei threfnu gan yr ysgol ochr yn ochr ag elusen Dolen Cymru, sefydliad sy’n ceisio cysylltu cymunedau yn Lesotho a Chymru er mwyn hwyluso prosiectau, partneriaethau a pherthnasoedd cynaliadwy sy’n cael effaith gadarnhaol ar y ddwy gymuned.

Pwrpas a nod y daith oedd i fyfyrwyr ym mhob ysgol weithio gyda’i gilydd yn edrych ar Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGau). Roedd yr SDGau a ddewiswyd yn cynnwys iechyd a lles a gweithredu yn yr hinsawdd. Yn ogystal, cafodd athrawon o’r ddwy ysgol y cyfle i gydweithio, dangos dulliau addysgu gwahanol ac edrych ar sut y gallent gefnogi ei gilydd yn yr ystafell ddosbarth.

Plant sy’n eistedd wrth ddesg ystafell ddosbarth. Mae'r rhan fwyaf yn gwisgo siwmper las a het. Mae merch ifanc mewn crys du yn eistedd wrth ochr un o'r bechgyn.

Dysgu gyda’n gilydd

Dyma a ddywedodd yr athro, Jacob Jones: “Roeddwn i’n gallu siarad am oriau am ba mor wych oedd y profiad yma. Fe es i o deimlo braidd yn bryderus – mae mynd â 10 disgybl i ffwrdd yn gyfrifoldeb mawr – a ddim yn siŵr beth i ddisgwyl, ond roedd pawb mor garedig ac yn fodlon gwneud unrhyw beth i helpu.

“Pan gyrhaeddon ni Lesotho fe wnaeth y disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau torri’r iâ fel saethyddiaeth, a gweithgareddau oedd yn trafod yr SDGau. Roedd yn wych gweld y disgyblion yn gweithio mewn grwpiau cymysg ac yn trafod yn agored materion gwahanol sy’n effeithio arnyn nhw. Roedden ni’n falch iawn o’r ffordd roedd ein plant ni’n gweithio gyda’u plant tra roedden ni allan yna.

“Roedd hi’n fraint fawr cael gweithio gyda’r ysgol, a dysgu oddi wrth ein gilydd o ran y gwahanol ffyrdd rydyn ni’n dysgu”

Golygfa gefn (yn y pellter) o grŵp o bobl sy’n cerdded ger afon. Mae mynyddoedd yn y cefndir.

Profiad oes

Agwedd hynod bwysig o symudedd rhyngwladol yw amsugno’r diwylliant, y golygfeydd a’r ffordd o fyw sydd gan wlad arall i’w gynnig, a chafodd staff a disgyblion Ysgol Penrhyn Dewi driniaeth at nifer o brofiadau bythgofiadwy yn ystod eu taith Lesotho.

Dywedodd Mr Jones: “Roedd yn wych gweld nid yn unig yr ysgolion a sut maen nhw’n gweithio, ond hefyd rhannau gwahanol o’u gwlad brydferth.

“Aethon ni i bentref diwylliannol Thaba Bosiu a dringo mynydd Thaba Bosiu gerllaw a dysgu am hanes Lesotho. Un o’r uchafbwyntiau oedd mynd i weld y rhaeadrau yn Semonkong, sy’n un o’r rhaeadrau uchaf, un cwymp yn Ne Affrica.

“Cynhaliwyd dathliad i ni ble roedd Prif Swyddog y pentref yn cwrdd â ni a’r plant yn dal baneri Cymru, rhai yn gwisgo gwisg draddodiadol. Roedden nhw wedi creu dillad i ni a buom yn cerdded lawr y ffordd yn canu a dawnsio nôl i’r ysgol.

“Uchafbwynt y profiad i fi oedd cwrdd â’r holl bobl anhygoel yn Lesotho, roedd pawb mor groesawgar. Mae tirwedd Lesotho yn anhygoel ond y bobl oedd yn ei gwneud hi’n arbennig tu hwnt.”

Grŵp mawr o bobl ifanc sy’n gwenu wrth aros i gael tynnu eu llun ac mae rhai yn dynwared arwydd heddwch. Mae gan y rhan fwyaf wisg ysgol las ac mae gan y gweddill wisgo ddu.

Cynlluniau i’r dyfodol a’r effaith barhaol

Ers y daith, mae Ysgol Penrhyn Dewi wedi bod yn brysur yn gwneud cynlluniau i ddychwelyd o’r ysgol yn Lesotho i Orllewin Cymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen i’w croesawu i Gymru”, meddai Mr Jones. “Mae ein cymuned gyfan eisoes wedi gweld effaith o’r ymweliad, gan ein bod wedi bod yn gwneud gwaith codi arian i helpu i ddod â mwy o’u disgyblion drosodd. Sylweddolwn faint o brofiad a fydd yn newid bywydau i’w disgyblion fel yr oedd i’n disgyblion ni.

“Ers y profiad hwn, mae llawer o’r plant wedi dod yn ôl ac eisiau gweithio gyda chyrff anllywodraethol (sefydliad anllywodraethol). Mae ganddyn nhw ddiddordeb ac maen nhw eisiau cymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.

“Bydden ni’n bendant yn argymell gwneud cais am arian Taith gan fod yr effaith mae wedi ei gael arnom ni fel athrawon, plant, ysgol a’r gymuned wedi bod yn fwy na’r disgwyl.”

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.