Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Taith Llwybr 2 - Partneriaethau a Chydweithio Strategol - 2025

Canllaw Rhaglen Fersiwn 1.0, Medi 2025

1. Cyflwyniad i Lwybr 2

Person yn pwyso drosodd ac yn pwyntio at luniau a chwe pherson arall sy'n ymddangos fel petaent yn gwrando arno ac yn ei wylio'n siarad.

Mae Llwybr 2 yn ariannu partneriaethau cydweithredol rhyngwladol a arweinir gan Gymru i ddatblygu allbwn prosiect sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru. Dylai’r ceisiadau adnabod y bwlch, y mater neu’r flaenoriaeth sector bydd y prosiect yn ceisio mynd i’r afael ag ef ac egluro sut bydd allbwn arfaethedig y prosiect yn datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth ac arferion ar draws y sector. Bydd angen i ymgeiswyr nodi’n glir sut bydd y dysgu a’r allbwn yn cael eu rhannu gydag eraill o fewn Cymru, felly rhaid i brosiectau gynnwys elfen o ‘ledaenu’. Pwrpas cyllid Llwybr 2 yw datblygu a gwella addysg yng Nhymru, felly mae rhaid i ymgeiswyr esbonio sut bydd eu prosiectau’n cyflawni hyn.

Mae’r elfennau canlynol i gyd yn hanfodol i brosiect Llwybr 2 a rhaid eu hesbonio’n glir yn y cais:

  1. Nodi bwlch, mater neu flaenoriaeth sector o fewn un neu fwy o’r sectorau addysg yng Nghymru
  2. Cydweithio â phartner rhyngwladol bydd ei arbenigedd yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad eich prosiect
  3. Creu allbwn prosiect sy’n mynd i’r afael â’r bwlch, y mater neu’r flaenoriaeth sector a nodwyd
  4. Rhannu/lledaenu allbwn y prosiect i sefydliadau eraill ledled Cymru i sicrhau’r effaith fwyaf a dysgu ar y cyd

Mae pob galwad ariannu Llwybr 2 wedi nodi themâu, gan sicrhau bod prosiectau yn alinio â blaenoriaethau a pholisïau Cymreig yn y sectorau addysg ac ieuenctid. Mae rhagor o fanylion am themâu Llwybr 2 2025 yn adran 3.3.

Mae Llwybr 2 yn cefnogi prosiectau na fyddent yn bosibl heb fewnbwn ac arbenigedd gan sefydliadau partner rhyngwladol. Mae’n rhaid i chi nodi’n glir ar y ffurflen gais sut bydd y partner(iaid) rhyngwladol yn cyfrannu at ddatblygiad y prosiect mewn ffyrdd na allai sefydliadau yng Nghymru wneud hynny.

Rhaid enwi pob partner (Cymreig a rhyngwladol) ar eich cais.

Mae ymweld â phartner rhyngwladol, a elwir yn symudedd, yn rhan allweddol o Lwybr 2. Mae staff a dysgwyr yn gymwys i deithio’n rhyngwladol, cyn belled â’u bod yn gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygiad y prosiect a chreu’r allbwn. Mae rhagor o fanylion am weithgareddau a chostau Llwybr 2 cymwys i’w gweld yn adran 4.

Mae Taith yn ceisio ariannu prosiectau newydd ac mae’n annhebygol byddwn ni’n ariannu prosiectau/allbynnau sydd yr un fath neu’n debyg i’r rhai sydd eisoes wedi’u hariannu gan Taith. Cyn gwneud cais, gallwch chi wirio pa brosiectau rydyn ni wedi’u hariannu o’r blaen ar gyfer Llwybr 2 – Partneriaeth a Chydweithio Strategol ar ein tudalen prosiectau wedi’u cynllunio a’n tudalen prosiectau wedi’u cwblhau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Lwybr 2, neu os ydych am wirio ai hwn yw’r llwybr ariannu cywir ar gyfer eich sefydliad a’ch prosiect arfaethedig, cysylltwch â’r tîm – ymholiadau@taith.cymru