Bydd Llwybr 1 2025 yn dod yn fuan, cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltwch

Llwybr 2

Partneriaethau a Chydweithio Strategol
TrosolwgLlwybr 1Llwybr 2Ymgeisio am gyllid

Mae cyllid Llwybr 2 yn cefnogi arloesedd addysgol trwy bartneriaethau cydweithredol rhyngwladol dan arweiniad Cymru sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru.

Mae cyfnewid rhyngwladol yn galluogi rhannu gwybodaeth, arbenigedd a dysgu cydweithredol rhwng sefydliadau Cymreig a rhyngwladol, i ddatblygu theori ac ymarfer mewn addysg yng Nghymru ac yn rhyngwladol.  Bwriad cyllid Llwybr 2 yw cefnogi prosiectau na fyddent yn bosibl heb fewnbwn ac arbenigedd sefydliadau partner rhyngwladol.

Y sectorau sy’n gymwys ar gyfer cyllid yw:

  • Ysgolion
  • Ieuenctid
  • Addysg Oedolion
  • Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
Person yn pwyso drosodd ac yn pwyntio at luniau a chwe pherson arall sy'n ymddangos fel petaent yn gwrando arno ac yn ei wylio'n siarad.

Gall staff a dysgwyr sy’n cymryd rhan ym mhrosiectau Llwybr 2 ddatblygu eu dealltwriaeth, eu gwybodaeth a’u defnydd o thema neu destun allweddol a byddan nhw’n datblygu allbwn i’w rannu ag eraill yn eu sector ac yn ehangach.  Trwy ledaenu allbwn, mae prosiectau Llwybr 2 yn creu buddion hirdymor ehangach i addysg yng Nghymru ac yn cyfrannu at hyrwyddo nodau rhaglen Taith yn ogystal â helpu i gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiadau polisi mewn sectorau ledled Cymru ac yn rhyngwladol.

Mae ymweld â phartner rhyngwladol, sef yr hyn a elwir yn symudedd, yn elfen allweddol o brosiectau Llwybr 2, ond nid yw buddion symudedd i gyfranogwyr unigol yn ffocws i brosiectau Llwybr 2.  Yn lle hynny, mae symudedd rhyngwladol yno i gefnogi datblygiad a chwblhau allbwn y prosiect.

Mae Taith wedi ymrwymo i wneud cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch. Mae ein strategaeth ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl a dangynrychiolir yn flaenorol mewn cyfnewid rhyngwladol i gael mynediad at gyfleoedd. Mae hyn yn cynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae cyllid Llwybr 2 ar gau ar hyn o bryd.  

I weld gwybodaeth am alwad ariannu olaf Llwybr 2 cliciwch ar y dolenni isod.

Guide Book Icon / Eicon llyfr canllaw

Canllaw Llwybr 2

Support Icon / Eicon Cymorth

Adnoddau cymorth a gweminarau

Beth am gael cipolwg ar rai o’r prosiectau mae Taith wedi eu hariannu’n barod?

Edrychwch ar ein tudalen Prosiectau wedi eu Cynllunio

Ydych chi â diddordeb mewn ymuno â chyfarfodydd ein grŵp rhanddeiliaid?

Mae aelodaeth yn agored i bob unigolyn a sefydliad o fewn y sectorau yng Nghymru sydd â diddordeb/ymwneud â Taith a chyfnewid rhyngwladol, a gall aelodau ymuno/gadael ar unrhyw adeg. Darganfyddwch pryd mae ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal a sut i gofrestru eich diddordeb.

Unrhyw gwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r tîm. Rydyn ni bob amser yn hapus iawn i helpu.

ymholiadau@taith.cymru
Llun cefn o berson â gwallt yn llifo ac yn cario sach gefn oren. Mae yna hefyd fynydd wedi'i orchuddio'n rhannol ag eira i’w weld.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.