Rydym wedi ymrwymo i wneud ein rhaglen mor gynhwysol â hygyrch â phosib.
Os ydych chi neu unrhyw un sy’n gweithio ar gais eich sefydliad â rhwystr i broses ymgeisio Taith, mae’n bosib y byddwn yn gallu cynnig cymorth neu ddarparu cyllid i’ch cefnogi i ymgeisio.

Cyn i chi ymgeisio
Gallwch gysylltu â’r tîm i drafod unrhyw anghenion penodol sydd gennych drwy e-bostio ymholiadau@taith.cymru. Mae’n bosib bydd y tîm yn gallu helpu gallu helpu gyda:
- cyngor ar gymhwysedd
- cyngor ar sut i ymgeisio, gan gynnwys sut i gwblhau’r ffurflen ar-lein neu ffyrdd amgen i ymgeisio
- dogfennau ymgeisio mewn fformatau amgen
Os oes angen cymorth pellach arnoch, gallwn dalu ar gyfer gwasanaethau cymorth hygyrchedd a allai gynnwys:
- cymryd nodiadau
- cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfarfodydd un-i-un
- cymorth gyda darllen a deall ein canllawiau
Nid ydym yn cyllido:
- unrhyw un i ysgrifennu eich cais am gyllid ar eich rhan neu ddatblygu syniad eich prosiect ar eich rhan
- costau sydd eisoes cynnwys yn rhywle arall megis drwy gyllid grant cymorth hygyrchedd arall
- costau a eir iddynt cyn cysylltu â Taith am gymorth
- cymorth a ddarperir gan deulu a ffrindiau
- costau ar gyfer cyfrifoldebau gofal
- caledwedd neu feddalwedd
Yn ystod y broses ymgeisio
Os byddwch yn penderfynu ar unrhyw adeg nad ydych am barhau â’ch cais, gallwch roi gwybod i ni ac ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnoch i gyflwyno’ch cais. Byddwn yn talu am unrhyw gostau cymorth y cytunwyd arnynt hyd at y pwynt byddwch yn penderfynu peidio â pharhau.
I sicrhau bod gennych ddigon o amser i gyflwyno’ch cais dylid gwneud unrhyw geisiadau am gymorth hygyrchedd o leiaf 2 wythnos cyn dyddiad cau’r alwad am gyllid.

Yn ystod eich prosiect
Os yw’ch cais yn llwyddiannus, gallwn ddarparu cymorth yn ystod eich prosiect i’ch helpu i gwblhau’ch gofynion adrodd. Gallai’r cymorth hwn gynnwys:
- galwadau fideo neu gyfarfodydd un i un gydag aelod o’r tîm i’ch helpu i gwblhau unrhyw ffurflenni
- cyngor ar sut i gwblhau unrhyw ffurflenni neu brosesau
Os oes angen cymorth pellach arnoch, gallwn dalu am wasanaeth cymorth hygyrchedd a allai gynnwys:
- cymryd nodiadau
- cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer cyfarfodydd un-i-un
- cymorth gyda darllen a deall ein prosesau
- cymorth i gwblhau ein ffurflenni
Sut i gael mynediad at gymorth
Cysylltwch â’r tîm i drafod eich anghenion cymorth ar ymholiadau@taith.cymru. Ni fyddwn yn gofyn am dystiolaeth o’ch anghenion cymorth gan ein bod yn derbyn hunanddiffinio. Gallwn naill ai drefnu gweithiwr cymorth ar eich cyfer, neu os ydych wedi nodi rhywun fyddai’n well gennych ei ddefnyddio, gallwn ddarparu cyllid ar ei gyfer.
Os cytunir arno, bydd Taith yn cyllido’r canlynol:
- ymgeisio ar gyfer Llwybr 1: hyd at uchafswm cyfradd diwrnod o £300 (8 awr y dydd) am uchafswm o 2 ddiwrnod
- ymgeisio ar gyfer Llwybr 2: hyd at uchafswm cyfradd diwrnod o £300 (8 awr y dydd) am uchafswm o 1 diwrnod
- monitro ac adrodd ar brosiect ar gyfer prosiect a gyllidwyd yn llwyddiannus o fewn y naill lwybr neu’r llall: hyd at uchafswm cyfradd diwrnod o £300 (8 awr y diwrnod) am uchafswm o 2 ddiwrnod