
Creu amgylchedd cynhwysol a theg
Yn Taith, rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd cynhwysol, a arweiniodd at gymryd rhan yng Nghynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru a derbyn y wobr arian.
Mae’r offeryn datblygu gweithle arobryn hwn yn helpu sefydliadau i roi arfer da yn y gweithle ar waith, gan sicrhau bod gwasanaethau’n deg ac yn gyfartal i bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Fel rhan o'n hymrwymiad i ymwybyddiaeth ddiwylliannol a gweithredu arferion gwaith da rydyn ni wedi:
1.
Sicrhau bod pawb yn nhîm Taith wedi mynychu o leiaf un sesiwn ymwybyddiaeth cymhwysedd diwylliannol, a bod dysgu parhaus yn cael ei ddarparu i bob aelod o’r tîm
2.
Darparu hyfforddiant i Aseswyr Taith i sicrhau bod y ceisiadau'n cael eu marcio'n deg, yn unol â strategaeth Taith.
3.
Cyflwyno gofynion gorfodol i dderbynwyr grantiau daro o leiaf 25% o gyfranogwyr i ddod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae’r Cynllun Ardystio yn cefnogi gweithleoedd i ‘ddechrau taith’ i archwilio rhagfarn anymwybodol gyffredin ac i ddatblygu eu cymhwysedd diwylliannol, ac edrychwn ymlaen at barhau â’n taith a’n hymrwymiad i ymwybyddiaeth ddiwylliannol. Rydyn ni’n cydnabod bod gwrth-hiliaeth yn daith barhaus, ac rydyn ni wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith hwn i greu amgylchedd mwy cynhwysol a theg.
I gael rhagor o wybodaeth am enillwyr Gwobrau Cynllun Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru ar gyfer 2024- Cultural Competence Certification Scheme Awards 2024 – Diverse Cymru