Mae cyllid Llwybr 1 yn cefnogi cyfnewid dysgu rhyngwladol trwy symudedd tuag allan (cyfranogwyr sy’n mynd o Gymru) a symudedd i mewn (cyfranogwyr sy’n dod i Gymru) gan naill ai grwpiau neu gyfranogwyr unigol.
Cyfnewid rhyngwladol yw cyfnewid dysg rhwng unigolyn neu grŵp o bobl o Gymru, ac unigolyn neu grŵp o bobl o wlad arall. Mae’r cyfnewid hwn yn galluogi cyfranogwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd, i rannu profiadau ac i feithrin cyfeillgarwch.
Y sectorau sy’n gymwys ar gyfer cyllid yw:
- Ysgolion
- Ieuenctid
- Addysg Oedolion
- Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
- Addysg Uwch (yn cynnwys Addysg ac Ymchwil)
Mae cyllid ar gael i ddysgwyr, pobl ifanc a staff i ymgymryd â chyfnewidiadau rhyngwladol, yn y tymor byr a’r tymor hir, sy’n darparu cyfleoedd i rannu dysgu, profi diwylliannau gwahanol a datblygu sgiliau newydd.
Mae Taith wedi ymrwymo i wneud cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a hygyrch. Mae ein strategaeth ar ei newydd wedd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl a dangynrychiolir yn flaenorol mewn cyfnewid rhyngwladol i gael mynediad at gyfleoedd. Mae hyn yn cynnwys pobl o gefndiroedd difreintiedig, cefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, Pobl Anabl a phobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
Er mwyn i gyfnewidiadau Llwybr 1 gael yr effaith fwyaf, rhaid i o leiaf 25% o ddysgwyr neu bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn prosiect ddod o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae’n bosibl i symudedd fod ar gyfer staff yn unig, ond rhaid iddo gael effaith glir ac amlwg ar y dysgwyr neu’r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw, yn enwedig y rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae cymorth ar gael gan Taith i helpu i gael gwared ar rwystrau i gyfranogiad a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yng nghanllawiau blynyddol Llwybr 1.
Mae cyllid Llwybr 1 ar gau ar hyn o bryd. Bydd yn ail-agor yn 2025
I weld gwybodaeth am alwad ariannu olaf Llwybr 1 cliciwch ar y dolenni isod.
Canllaw Llwybr 1
Adnoddau cymorth a gweminarau
Beth am gael cipolwg ar rai o’r prosiectau mae Taith wedi eu hariannu’n barod?
Edrychwch ar ein tudalen Prosiectau wedi eu Cynllunio
Ydych chi â diddordeb mewn ymuno â chyfarfodydd ein grŵp rhanddeiliaid?
Mae aelodaeth yn agored i bob unigolyn a sefydliad o fewn y sectorau yng Nghymru sydd â diddordeb/ymwneud â Taith a chyfnewid rhyngwladol, a gall aelodau ymuno/gadael ar unrhyw adeg. Darganfyddwch pryd mae ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal a sut i gofrestru eich diddordeb.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r tîm. Rydyn ni bob amser yn hapus iawn i helpu.
ymholiadau@taith.cymru