Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru, sy’n creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd. Darperir Taith gan International Learning Exchange Programme Limited (ILEP Ltd), is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Brifysgol Caerdydd. Mae’r Bwrdd yn nodi gweledigaeth a chynllun strategol Taith i sicrhau ei lwyddiant hirdymor. Mae tîm rhaglen Taith yn gyfrifol am redeg y rhaglen o ddydd i ddydd. Cefnogir y Bwrdd a thîm rhaglen Taith gan Fwrdd Ymgynghori Taith sy’n arbenigwyr yn eu maes ac sydd yno i roi arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chyflwyno’r rhaglen. Mae Grwpiau Rhanddeiliaid y Sector yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn cefnogi datblygiad parhaus a chyflwyniad Rhaglen Taith. Am ragor o wybodaeth am bob tîm, cliciwch ar yr adran berthnasol isod.
Tîm
Mae tîm rhaglen Taith yn gyfrifol am y gwaith o redeg y rhaglen o ddydd i ddydd.
Bwrdd ILEP Ltd
Y Bwrdd sydd â throsolwg gweithredol dros Taith a yn nodi gweledigaeth a chynllun strategol Taith i sicrhau ei lwyddiant hirdymor.
Bwrdd Cynghori
Mae’r Bwrdd Cynghori yn cynghori’r tîm rhaglen ar ddatblygu a chyflwyno Taith.
Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC)
Pwrpas y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg (ARAC) yw goruchwylio Fframwaith Archwilio a Sicrwydd Taith a chyfrannu i ddatblygiad strategaeth yn gyd-destun rheoli risgiau.
Grwpiau Rhanddeiliaid Sectorau
Mae Grwpiau Rhanddeiliaid Sectorau yn cefnogi datblygiad parhaus a darpariaeth rhaglen Taith ac yn rhoi cyfle rheolaidd i sefydliadau ymgynghori a darparu adborth ar bolisi, prosesau, a chyfathrebu rhaglenni.
Pwyllgor Cyllido
Mae'r Pwyllgor Cyllido yn craffu ar gadernid proses asesu ceisiadau am gyllid Taith.
Chyfleoedd
Yma gallwch ddod o hyd i'r holl swyddi a chyfleoedd presennol