Mae Taith yn ariannu cyfleoedd cyfnewid dysgu rhyngwladol cynhwysol a hygyrch i ddysgwyr a staff ledled Cymru, gyda chyfleoedd i ddysgwyr a staff rhyngwladol ymweld â phartneriaid Cymreig.
Darllenwch fwy am ein strategaeth lawn yma.
Cyfleoedd Ariannu
Symudedd cyfranogwyr
Mae’r cyllid ar gyfer Llwybr 1 yn cefnogi cyfleoedd dysgu rhyngwladol i unigolion neu grwpiau o unigolion, gan roi cyfleoedd iddyn nhw gael profiadau dysgu, gwaith neu wirfoddoli tymor byr a thymor hir. Mae Llwybr 1 yn agored i sefydliadau ar draws holl sectorau Taith – Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion, Addysg Bellach, Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ac Addysg Uwch.
- Statws
- Ar gau
Bydd yr alwad hon yn agor nesaf ym mis Ionawr 2025. Cofrestrwch i ein cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru
Llwybr 1Partneriaethau a Chydweithio Strategol
Mae’r cyllid hwn yn cefnogi arloesedd addysgol, a datblygiad prosiectau cydweithredol rhyngwladol sy’n mynd i’r afael â mater penodol neu flaenoriaeth sector yng Nghymru. Arweinir y prosiectau hyn gan sefydliadau addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae Llwybr 2 yn agored i sefydliadau yn y sectorau Ysgolion, Ieuenctid, Addysg Oedolion ac Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol.
- Statws
- Ar gau
Cofrestrwch i ein cylchlythyr a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni ymholiadau@taith.cymru
Llwybr 2
Os nad ydych chi’n siŵr pa lwybr sy’n iawn ar gyfer eich prosiect chi, atebwch ein cwis bach isod o’r enw “A yw cyllid Taith i mi?” i weld pa Lwybr y byddwn yn ei argymell ar gyfer eich prosiect. Pe hoffech chi sgwrsio â thîm Taith am eich syniad am brosiect, cysylltwch â ni yn ymholiadau@taith.cymru
A allwn i geisio am gyllid Taith?
Atebwch y cwestiynau hyn a byddwn yn helpu i awgrymu pa Lwybr fyddai'n fwyaf addas ar gyfer eich prosiect.
Rydw i'n
Prif gwestiynau
Mae cyfnewid rhyngwladol yn rhoi cyfle i unigolion megis dysgwyr, pobl ifanc a staff deithio dramor a chymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau sy’n eu galluogi i rannu dysgu, profi diwylliannau gwahanol a datblygu sgiliau newydd.
Mae gweithgareddau’n wahanol i ddysgwyr a staff, ond gallant gynnwys:
- dysgu
- gwirfoddoli
- cysgodi swydd
- mynychu cwrs
Mae’r rheolau ariannu canlynol yn berthnasol i bob sector a phob llwybr:
- Mae Taith yn agored i geisiadau gan sefydliadau a reoleiddir neu sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru ac sy’n gweithredu o Gymru oni nodir yn wahanol ym meini prawf cymhwysedd y sector.
- Ni all unigolion wneud cais yn uniongyrchol am gyllid.
- Nid oes angen i gyfranogwyr fod yn ddinasyddion y DU.
- Ni fydd Taith yn ariannu gweithgareddau sydd eisoes wedi’u hariannu drwy raglenni ariannu cenedlaethol neu ryngwladol eraill.
- Anogir dwyochredd a gellir gwneud cais am gyllid ychwanegol i gefnogi hyn.
Dwyochredd yw’r enw a ddefnyddiwn ar gyfer partner rhyngwladol yn anfon cyfranogwyr i Gymru. Fe’i gelwir hefyd yn symudedd mewnol. Mae egwyddorion dwyochredd a dysgu ar y cyd yn ganolog i Taith ac felly mae gennym ni arian grant ychwanegol ar gael i ariannu gweithgaredd partner rhyngwladol. Gall sefydliadau sy’n gwneud cais ofyn amdano fel rhan o’u cais.
Mae rhaglen Taith yn agored i bob gwlad yn y byd, ond rhaid cadw at gyngor teithio a ddarperir gan Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu (FCDO) lLywodraeth y DU. Ni fydd Taith yn ariannu teithio i wledydd/rhanbarthau lle mae’r FCDO yn cynghori yn erbyn teithio tramor.
Mae gwledydd cyrchfan yn cael eu grwpio yn y categorïau canlynol yn seiliedig ar gostau byw cymharol ym mhob gwlad:
- Grŵp 1 (Costau byw uwch)
- Grŵp 2 (Costau byw canolig)
- Grŵp 3 (Costau byw is)
Gweler y Canllawiau Llwybrau am y rhestr o gategorïau grwpiau gwlad.
Rhestr wirio Taith
Beth yw’r Llwybrau?
Cyfeirir at weithgareddau a phrosiectau y gellir eu hariannu drwy Taith fel Llwybrau. Mae cyllid ar gael trwy ddau lwybr gwahanol o’r enw Llwybr 1 a Llwybr 2.
Pryd i ymgeisio?
Mae gan Taith alwadau ariannu penodol ar adegau penodol o’r flwyddyn pan fydd y cyfnod ymgeisio am arian ar agor. Byddwn ni’n rhoi cyhoeddusrwydd i’r dyddiadau ar gyfer y rhain ar ein gwefan.
Pwy all ymgeisio?
Dylai sefydliadau cymwys wneud cais yn uniongyrchol i Taith am gyllid ar ran eu cyfranogwyr. Nid yw unigolion yn gymwys i wneus cais yn uniongyrchol.
Yma i helpu
Rydyn ni’n darparu cefnogaeth trwy gydol y broses gyda gweminarau, digwyddiadau wyneb yn wyneb a chefnogaeth un i un.
Cysylltwch â ni
Mae croeso i chi gysylltu unrhywbryd gyda chwestiynau am Taith a cheisio am arian: ymholiadau@taith.cymru
Beth am gael cipolwg ar rai o’r prosiectau mae Taith wedi eu hariannu’n barod?
Edrychwch ar ein tudalen Prosiectau wedi eu Cynllunio
Ydych chi â diddordeb mewn ymuno â chyfarfodydd ein grŵp rhanddeiliaid?
Mae aelodaeth yn agored i bob unigolyn a sefydliad o fewn y sectorau yng Nghymru sydd â diddordeb/ymwneud â Taith a chyfnewid rhyngwladol, a gall aelodau ymuno/gadael ar unrhyw adeg. Darganfyddwch pryd mae ein cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal a sut i gofrestru eich diddordeb.
Unrhyw gwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r tîm. Rydyn ni bob amser yn hapus iawn i helpu.
ymholiadau@taith.cymru