3. Gwybodaeth am y Llwybr

3.1. Hyd prosiectau
Hyd prosiectau ar gyfer pob prosiect Llwybr 2 yw 14 mis.
3.2. Cyllid
Ni chaniateir ail-ariannu gweithgareddau a ariannwyd eisoes drwy raglenni ariannu cenedlaethol neu ryngwladol eraill. Fodd bynnag, caniateir cyd-ariannu gweithgareddau gyda rhaglenni eraill. Cyd-ariannu yw pan fydd dau neu fwy o ffynonellau cyllid yn cyfrannu at y gost wirioneddol, ond heb fynd dros y gost honno. Lle caiff prosiectau eu hariannu ar y cyd, dylai sefydliadau sy’n gwneud cais ddarparu manylion y trefniadau hyn yn eu ffurflen gais.
Cyllideb ar gael fesul sector:
Sector | Cyllideb ddangosol ar gael |
---|---|
Ysgolion | £212,000 |
Ieuenctid | £96,000 |
Addysg Oedolion | £64,000 |
AB & AHG | £128,000 |
Mae cynwysoldeb a hygyrchedd yn ffocws strategol ar gyfer Taith, ac mae’r rhaglen yn ceisio ariannu nifer ac ystod o sefydliadau mor eang â phosibl. O’r herwydd, uchafswm y dyfarniad ar gyfer pob prosiect Llwybr 2 fydd £40,000. Wrth lenwi’r ffurflen gais a’r cyfrifydd grant, gwnewch yn sicr nad yw cyfanswm y cais am grant yn fwy na £40,000, ac nad yw’r swm y gofynnir amdano ar gyfer eich partner(iaid) rhyngwladol yn fwy na 30% o gyfanswm y cais am grant. Ceir gwybodaeth am sut i wneud cais yn adran 5. Mae cyllid Taith yn gyfyngedig iawn, felly gwnewch gais am y lefel o gyllid sy’n angenrheidiol i alluogi eich prosiect i fynd yn ei flaen yn unig.
3.3. Themâu
Rhaid i brosiectau Llwybr 2 alinio ag o leiaf un o themâu Llwybr 2 (2025) isod:
Datblygiadau mewn addysg
Dylai prosiectau o dan y thema hon cydfynd â datblygiadau perthnasol sy’n digwydd o fewn sector y sefydliad sy’n gwneud cais:
- Cwricwlwm i Gymru
- Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a’r argymhellion a nodir yn ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru’
- Medr (gan gynnwys y blaenoriaethau a’r dyletswyddau strategol ar gyfer y sector Addysg Oedolion)
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gallai enghreifftiau o fewn y thema hon gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- dwyieithrwydd, amlieithrwydd a diwylliant Cymru
- hunaniaeth a pherthyn
- anghydraddoldeb, mynediad a chynhwysiant cymdeithasol
Cynaladwyedd a Newid Hinsawdd
Gallai enghreifftiau o fewn y thema hon gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):
- datblygiadau ym maes addysg newid yn yr hinsawdd
- arferion gwyrdd / economi werdd
- materion gwledig
- datgarboneiddio
- addasu a lliniaru
3.4. Allbynau prosiectau
Ffocws Llwybr 2 yw creu allbynnau prosiect sy’n cael effaith, sydd o werth i sefydliadau eraill a’r sector(au) ledled Cymru.
Mae Taith yn agored i arloesi ac yn croesawu sefydliadau sy’n ymgeisio i gynnig allbynnau prosiect sy’n gweithio orau iddyn nhw a’u sector. Gall allbynnau prosiect fod mewn amrywiaeth o fformatau gwahanol megis ysgrifenedig, gweledol, fideo, gweithdai ac ati. Gallai enghreifftiau o allbynnau prosiect gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- modelau neu ddulliau newydd
- adnoddau/ pecynnau cymorth
- hyfforddiant/deunyddiau addysgol
- adnoddau digidol/allbynnau
3.5. Lledaenu
Agwedd allweddol ar Lwybr 2 yw’r gofyniad i allbynnau prosiect gael eu rhannu a’u lledaenu. Mae Llwybr 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu addysg yng Nghymru ac felly mae rhaid i’r allbwn/dysgu o’ch prosiect gael ei rannu gyda sefydliadau eraill a’r sector yng Nghymru. Bydd angen i chi ddangos yn glir sut rydych chi’n bwriadu rhannu canlyniadau eich prosiect, a gyda phwy. Rhaid i weithgarwch lledaenu fod yn briodol ac yn hygyrch i’r sector(au), ac yn berthnasol i fformat a bwriad allbwn y prosiect. Gallai enghreifftiau o weithgareddau lledaenu gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- digwyddiad/cynhadledd/gweithdy
- rhannu adnoddau trwy blatfform ar-lein, neu drwy ap (* noder, ni fydd cyllid ar gyfer adnodd o’r fath lle codir ffi flynyddol yn cael ei gwmpasu gan Taith)
- sesiynau hyfforddi ar gyfer unigolion/sefydliadau i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r thema/themâu a ddewiswyd
3.6. Cymorth cynhwysiant
Mae cyllid ychwanegol ar gael i gefnogi cyfranogwyr sy’n wynebu rhwystrau ariannol i gymryd rhan. Mae dau fath o gymorth cynhwysiant ar gael – i bobl anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ac i’r rhai o gefndiroedd difreintiedig. Mae’r cyllid hwn yn seiliedig ar gostau gwirioneddol, gyda’r bwriad o dalu’r gost lawn sy’n gysylltiedig â chael gwared ar y rhwystr i gymryd rhan. O’r herwydd, disgwylir i Dderbynwyr Grantiau ddod o hyd i opsiynau sy’n cynnig y gwerth gorau am arian.
Bydd cyllid yn cael ei ddal yn ganolog gan Taith a’i weinyddu unwaith bydd prosiectau wedi cychwyn a’r cyfranogwyr wedi’u nodi. Bydd gofyn i Dderbynwyr Grant wneud cais am gyllid gan ddefnyddio ffurflen ar-lein trwy lenwi ffurflen gais yn manylu ar y costau gwirioneddol fesul cyfranogwr a chyfiawnhad.
Pobl Anabl a gydag anghenion dysgu ychwanegol
Mae cyllid ychwanegol ar gael i gyfranogwyr Anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol o hyd at 100% o’r costau gwirioneddol ar gyfer cymorth sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’u hanghenion ychwanegol.
Gall hyn gynnwys agweddau megis: ymweliadau paratoadol i gynnal asesiadau risg a sicrhau bod gan y lleoliad y mynediad a’r gefnogaeth angenrheidiol; ariannu aelodau staff ychwanegol i gefnogi cyfranogwyr; a/neu i dalu am offer/addasiadau/adnoddau angenrheidiol ar gyfer cyfranogiad.
Cyfranogwyr difreintiedig
Bydd cyfranogwyr sy’n bodloni un neu fwy o’r meini prawf canlynol yn cael eu hystyried yn ddifreintiedig a byddant yn gymwys i gael cyllid ychwanegol ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â theithio i’w cynorthwyo i ymwneud â symudedd corfforol.
- cyfranogwyr gyda chyfanswm incwm cartref o dan £26,225.
- cyfranogwyr sy’n derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau yn ymwneud ag incwm yn eu henw eu hunain.
- dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gyda phrawf modd.
- dysgwyr sydd â phrofiad o ofal. Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw un sydd wedi bod neu sydd mewn gofal ar hyn o bryd neu o gefndir derbyn gofal ar unrhyw adeg o’u bywyd, ni waeth pa mor fyr, gan gynnwys plant mabwysiedig a oedd yn derbyn gofal yn flaenorol neu’r rhai sy’n defnyddio Bwrsariaeth Profiad o Ofal mewn rhannau eraill o y DU.
- cyfranogwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu am blentyn anabl, neu oedolyn sydd, oherwydd y salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu gaethiwed, yn methu ymdopi heb eu cefnogaeth.
- ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
- myfyrwyr sydd wedi dieithrio
Mae costau cynhwysiant sy’n gysylltiedig â theithio yn cynnwys costau fisas, pasbortau, brechiadau, yswiriant iechyd, dillad a bagiau priodol, yn ôl yr angen.