Rheoli prosiect a gweithredu
Cyfraniad at gostau i alluogi’r gweithgaredd i ddigwydd. Gallai’r rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, logi ystafell gyfarfod, lluniaeth, costau hwyluso, cyfieithu deunyddiau sy’n ymwneud ag allbwn y prosiect, cyfieithu ar y pryd ar gyfer digwyddiadau, sesiynau hyfforddi a seminarau, costau gweinyddol ac ati. Mae lluniaeth ysgafn/costau cinio yn gymwys ond rhaid iddo fod yn rhesymol ac yn cynnig gwerth am arian.
Gall y partneriaid rhyngwladol dderbyn hyd at 30% o gyfanswm y grant y gofynnwyd amdano.
Costau anghymwys:
- Gorbenion
- Anrhegion
- Marsiandïaeth
- Costau staff
- Alcohol
- Noddi cynadleddau/ digwyddiadau
Os oes gennych chi gwestiynau neu eisiau gwirio bod y gweithgareddau neu’r costau rydych chi’n eu cynllunio yn gymwys, cysylltwch â’r tîm ar ymholiadau@taith.cymru
Costau lledaenu
Cyfraniad at gostau rhannu a lledaenu allbwn y prosiect ar draws y sector(au) yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae costau cymwys yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddigwyddiadau, marchnata, cynhyrchu adroddiadau, cyfieithu, datblygu adnoddau ar-lein, datblygu cymhwysiad digidol neu lwyfan ar-lein. Mae lluniaeth ysgafn/costau cinio yn gymwys ond rhaid iddynt fod yn rhesymol ac yn rhoi gwerth am arian.
Costau anghymwys:
- Gorbenion
- Anrhegion
- Costau staff
- Alcohol
- Noddi digwyddiadau/cynadleddau
Rhaid i unrhyw weithgareddau/adnoddau lledaenu a grëir trwy Taith Llwybr 2 fod yn rhad ac am ddim i bawb sy’n cymryd rhan a pharhau felly cyhyd ag y cânt eu defnyddio/rhannu. Ni ellir datblygu’r adnoddau hyn na’u defnyddio at ddibenion masnachol.
Gall y partneriaid rhyngwladol dderbyn hyd at 30% o gyfanswm y grant y gofynnwyd amdano.
Os oes gennych chi gwestiynau neu eisiau gwirio bod y gweithgareddau neu’r costau rydych chi’n eu cynllunio yn gymwys, cysylltwch â’r tîm ar ymholiadau@taith.cymru
Symudedd (allanol a mewnol)
Mae cyllid ar gael i gyfrannu at deithio rhyngwladol ar gyfer staff a dysgwyr i wlad bartner, ac i’r partner(iaid) rhyngwladol deithio i Gymru.
Mae disgwyl i chi anfon mwy o bobl o Gymru i’ch partner rhyngwladol nag o’ch partner rhyngwladol i Gymru. Serch hynny, mae’n bosibl rhannu’r gyllideb ar gyfer symudedd yn gyfartal i ganiatáu bod y nifer o gyfranogwyr o Gymru a rhyngwladol yn gyfartal.
Ar gyfer symudedd staff, rhaid i chi ddarparu sail resymegol glir ar gyfer cynnwys pob aelod o staff a’r hyn byddan nhw’n ei gyfrannu at ddatblygiad ac allbwn y prosiect. Lle mae symudedd lluosog gan staff wedi’u cynnwys, mae’n arbennig o bwysig bod yn glir ynghylch rolau pob un cyfranogwr, a pham mae eu cyfranogiad yn hanfodol i’r prosiect.
Gall dysgwyr gymryd rhan mewn symudeddau grŵp yn unig, ac nid yw symudedd dysgwyr unigol yn gymwys. Lle bydd grŵp o ddysgwyr, dylech chi roi esboniad clir o pam mae eu cyfraniad i’r prosiect yn hanfodol i ddatblygiad ac allbwn y prosiect.
Y cyfnodau symudedd cymwys i staff a dysgwyr yw o leiaf 2 ddiwrnod ac uchafswm o 28 diwrnod.
Mae Taith yn ariannu costau teithio miloedd o deithiau rhyngwladol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn docynnau awyren, sy’n arwain at ôl troed carbon sylweddol. Gofynnir i ymgeiswyr ystyried hyd eu teithiau yn ofalus, yn enwedig wrth deithio i gyrchfannau pellach er mwyn sicrhau bod pob symudedd yn cael yr effaith fwyaf ac yn cynrychioli gwerth am arian. Rhaid i unrhyw symudedd i neu o wlad sydd wedi’i lleoli mwy na 12,000 km o Gymru fod â hyd o leiaf 5 niwrnod gweithgaredd.
Mae’n bosib gwneud ymweliadau paratoadol byr lle mae angen asesiadau risg cyn symudedd dysgwyr, neu gyfranogwyr Anabl neu gyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Hyd ymweliadau paratoadol yw o leiaf 2 ddiwrnod ac uchafswm o 7 diwrnod. Os ydych chi’n gwneud cais am ymweliad paratoadol, dylech chi ddarparu manylion y cyfnod arfaethedig, ynghyd â chyfiawnhad clir pam mae angen ymweliad paratoadol, ar y ffurflen gais.
Mae Taith yn dyfarnu cyllid ar sail cost uned ar gyfer teithio a chynhaliaeth fesul cyfranogwr. Mae cyllid ychwanegol ar gael unwaith bod y prosiect wedi dechrau i gefnogi cynnwys cyfranogwyr Anabl, cyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a chyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig. Mae rhagor o wybodaeth a meini prawf cymhwysedd yn ymwneud â’r costau cynhwysiant hyn i’w gweld yn y tabl isod.
Nid yw symudedd corfforol yn un o ofynion Llwybr 2. Lle nad ydynt wedi’u cynnwys, bydd angen i geisiadau ddarparu sail resymegol glir ar gyfer hyn ac esbonio sut caiff y partneriaethau eu datblygu, a’r allbynnau a grëir, drwy ddulliau eraill heb symudedd corfforol.
Mae cyfraddau grant ar gyfer symudedd isod:
Cynhaliaeth
Grant ar gyfer costau byw, a all gynnwys llety, bwyd, a chludiant lleol tra ar symudedd corfforol.
Cyfrifir cyllid fel cyfradd ddyddiol fesul cyfranogwr. Bydd y gyfradd ddyddiol yn lleihau po hiraf y symudedd, gyda chyfraddau gwahanol yn berthnasol am 1-14 diwrnod a 15-28 diwrnod.
Ni fydd cyfranogwyr yn derbyn cyllid cynhaliaeth ar gyfer symudedd rhithwir.
Teithio
Cyfraniad at gost teithio ar gyfer symudedd allanol a mewnol. Mae cyfraddau ariannu yn seiliedig ar y pellter rhwng Cymru a’r wlad bartner ryngwladol.
Math o gyfranogwr: Pawb
Cymorth cynhwysiant:
(Pobl Anabl a gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY))
Mae cyfranogwyr sy’n Anabl neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gymwys i gael cyllid ychwanegol i’w helpu i ymgymryd â symudedd (corfforol neu rithwir).
Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u hadnabod.
Cymorth cynhwysiant:
(Cyfranogwyr o gefndir difreintiedig )
Mae cyfranogwyr o gefndir difreintiedig yn gymwys i gael cyllid ychwanegol ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â theithio i’w helpu i gymryd rhan mewn symudedd corfforol. Mae costau eithriadol sy’n gysylltiedig â theithio yn cynnwys costau fisas, pasbortau, brechiadau, yswiriant iechyd, dillad a bagiau priodol, yn ôl yr angen.
Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u hadnabod.
Costau eithriadol:
(Teithio dwyffordd i ganolbwynt trafnidiaeth yn y DU)
Cyfraniad at gost teithio dwyffordd i ganolfan drafnidiaeth yn y DU fel rhan o symudedd rhyngwladol. Mae Taith yn diffinio canolbwynt trafnidiaeth yn y DU fel man ymadael y symudedd i’w gyrchfan ryngwladol. Er enghraifft maes awyr, gorsaf drenau, porthladd neu orsaf fysiau.
Mae cyllid ar gael ar gyfer symudedd grwpiau dysgwyr, ac ar gyfer symudedd staff i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig.
Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u hadnabod.
Teithio Gwyrdd
Gall cyfranogwyr sy’n defnyddio opsiynau teithio gwyrdd ar gyfer y daith gyfan (i’r gyrchfan ac oddi yno) wneud cais am gostau gwirioneddol y daith (lle mae’r costau’n uwch na’r gyfradd deithio a ddyrannwyd). Bydd angen tystiolaeth o werth am arian fel rhan o’r cais hwn am gyllid ychwanegol.
Mae Teithio Gwyrdd ar gael ar gyfer pellteroedd rhwng 100km a 3999km.
Bydd cyllid yn cael ei gadw’n ganolog gan Taith a’i weinyddu ar sail costau gwirioneddol unwaith y bydd cyfranogwyr wedi’u hadnabod.