6. Asesu

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer cyllid, rhaid i chi ddangos yn eich cais sut mae eich prosiect arfaethedig yn bodloni nod cyffredinol Llwybr 2 – datblygu a gwella addysg yng Nghymru.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen pob cwestiwn a’r testun cymorth ategol yn drylwyr, fel eich bod yn deall pa wybodaeth rydyn ni’n chwilio amdani gennych chi.
Bydd pob cais yn cael ei asesu’n annibynnol gan ddau asesydd a fydd wedyn yn darparu sgôr gyffredinol gyfunol. Rhaid i chi sgorio o leiaf 50 allan o gyfanswm o 90 pwynt i gael eich ystyried yn gymwys i gael eich ariannu. Lle mae mwy o geisiadau y gellir eu hariannu na chyllid, bydd ceisiadau’n cael eu rhestru yn ôl y meini prawf canlynol:
- nodi ac egluro bwlch, mater neu flaenoriaeth sector, gan gynnwys cyfiawnhad clir pam mae angen y prosiect
- esboniad clir o sut bydd allbwn y prosiect arfaethedig yn mynd i’r afael â’r bwlch, y mater neu’r flaenoriaeth sector hon
- esboniad clir o’r effaith hirdymor y bydd y prosiect yn ei chael ar y sector ac ar addysg/dysgu yng Nghymru
Bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu i’r prosiectau hynny sy’n sgorio mwy na 50 ac sy’n sgorio’r uchaf yn y 3 maes uchod.