Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Cymhwysedd cyllid Llwybr 2 Taith

Medi 2025

2. Dogfennau a gwybodaeth y bydd angen i chi eu darparu

Golygfa oddi uchod o griw o blant ifanc mewn gwisg ysgol yn edrych trwy lyfrau ar y llawr. / A birdseye view of a group of young children in a uniform looking through books on the floor

Dylech gael y wybodaeth berthnasol isod yn barod pan fyddwch chi’n dechrau’r ffurflen gymhwysedd.

Bydd gofyn i elusennau, sefydliadau nid er elw a chymdeithasau anghorfforedig ddarparu:

  1. copi o’ch cyfrifon archwiliedig/ardystiedig diweddaraf (os nad yw’r rhain ar gael, cysylltwch â’r tîm i drafod tystiolaeth amgen o gapasiti ariannol)
  2. manylion cyfrif banc eich sefydliad yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio i ddal y cyllid os yw eich cais yn llwyddiannus
  3. 3 chyfriflen banc ddiweddaraf eich sefydliad (rhaid iddynt fod heb eu golygu ac ar gyfer y tri mis llawn diwethaf gyda’r cyntaf wedi’i dyddio dim cyn Mehefin 2025)
  4. rhif eich cwmni neu elusen (os yn berthnasol)
  5. eich dogfen lywodraethu neu ddolen i ble y gellir cael mynediad ati (os nad ydych wedi ei darparu i ni o fewn y 12 mis diwethaf neu os yw wedi newid ers i chi ei darparu i ni ddiwethaf)

Bydd gofyn i ysgolion, colegau, awdurdodau lleol a chyrff statudol eraill ddarparu:

  1. manylion cyfrif banc eich sefydliad yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio i ddal y cyllid os yw eich cais yn llwyddiannus
  2. 3 chyfriflen banc ddiweddaraf eich sefydliad (rhaid iddynt fod ar gyfer y tri mis llawn diwethaf gyda’r cyntaf wedi’i dyddio dim cyn Mehefin 2025) neu lythyr ar bapur pennawd gan yr awdurdod lleol yn cadarnhau’ch manylion banc