Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Cymhwysedd cyllid Llwybr 2 Taith

Medi 2025

Geirfa

nid er elw
Sefydliad nid er elw yw endid cyfreithiol nad yw'n gweithredu er elw, mantais bersonol neu fudd arall pobl benodol. Mae'n bosib y bydd sefydliadau yn cynhyrchu incwm ond byddant yn ei ail-fuddsoddi i barhau â gwaith y sefydliad. Byddai tystiolaeth o hyn yn cynnwys:
• Cyfrifon blynyddol yn dangos unrhyw elw yn cael ei ailfuddsoddi a'i wario i hyrwyddo amcanion y sefydliad.
• Y ddogfen lywodraethol sy'n nodi na fyddai unrhyw elw yn cael ei ddosbarthu ond y byddai'n cael ei ddefnyddio i hyrwyddo amcanion y sefydliad.
er elw
Cwmnïau sydd wedi’u hanelu at gynhyrchu elw yn bennaf ar gyfer dosbarthu preifat megis cwmnïau sy’n gallu talu elw i gyfarwyddwyr, cyfranddalwyr neu aelodau (gan gynnwys Cwmnïau Cyfyngedig drwy Gyfranddaliadau).
nad ydynt yn perthyn
Pobl nad ydynt:
• Yn perthyn drwy briodas.
• Mewn partneriaeth sifil â’i gilydd.
• Mewn perthynas hirdymor â'i gilydd.
• Yn perthyn trwy bartner hirdymor.
• Yn cyd-fyw yn yr un cyfeiriad.
• Yn perthyn trwy waed.
dogfen lywodraethu
Set o reolau y mae eich sefydliad yn cael ei redeg yn eu hôl. Gall fod ar ffurf cyfansoddiad, erthyglau cymdeithasu neu weithred er enghraifft. Dylai dogfen lywodraethu nodi eich pwerau i dderbyn a gwario arian, p'un a yw eich ymddiriedolwyr neu'ch bwrdd yn derbyn tâl, sut mae penderfyniadau'n cael eu gwneud a beth fydd yn digwydd i unrhyw arian ar ôl diddymu'r sefydliad. Os ydych wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau dylai eich dogfen lywodraethu fod ar gael ar dudalen gofrestru eich sefydliad. Os ydych wedi cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau, dylech roi eich dogfen lywodraethu swyddogol i Taith. Dylai'r cyfarwyddwyr/ymddiriedolwyr lofnodi a dyddio'r holl ddogfennau llywodraethu.
cymal diddymu
Datganiad o fewn dogfen lywodraethu sy'n nodi beth fydd yn digwydd os caiff y sefydliad ei ddirwyn i ben a'i gau. Dylai cymal diddymu nodi beth fydd yn digwydd i asedau'r sefydliad. Dylai hyn fod i'w trosglwyddo i elusen neu sefydliad nid er elw arall gyda diben tebyg. Ni ddylai nodi y bydd asedau mynd i unigolion at eu budd eu hun.