5. Polisïau a gweithdrefnau

Mae nifer o bolisïau a gweithdrefnau y byddem yn disgwyl i chi eu cael ar waith ar gam llofnodi cytundeb grant i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol.
Diogelu
Mae’n ofyniad i unrhyw ymgeisydd bod gennych fesurau diogelu priodol ar waith ar gyfer eich cyfranogwyr.
Rhaid i chi sicrhau y byddwch yn gweithredu gweithdrefnau diogelu priodol pan fydd gweithgareddau’n cynnwys gweithio gyda grwpiau agored i niwed (plant ac oedolion) neu’n cynnwys cyfranogwyr naill ai fel plant neu oedolion sy’n agored i niwed ar yr adeg benodol honno.
Bydd diogelu o’r fath yn ystyried deddfwriaeth berthnasol yng Nghymru ac unrhyw wledydd gwesteio/lleoliad (er enghraifft, ‘Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn’, ‘Deddf Plant, 1989 a 2004, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014’, ‘Deddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed, 2006’).
Rhaid cynnwys mabwysiadu polisi ar gyfer diogelu plant ac oedolion agored i niwed sy’n:
- enwi Swyddog Diogelu/Amddiffyn y sefydliad
- diffinio’n glir y camau gweithredu os bydd datgeliad
- manylu ar yr hyfforddiant diogelu a ddarperir ar gyfer y staff/gwirfoddolwyr
- manylu ar weithrediad disgwyliedig gweithdrefnau diogelu ar draws y sefydliad
Yn benodol, bydd gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cael eu cynnal lle bo cymhwysedd i wneud hynny ac yn cynnwys gwiriad yn erbyn y rhestrau gwahardd priodol DBS ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn gweithgaredd a reolir fel y diffinnir gan y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 a diwygiwyd o dan Orchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012.
Bydd y sefydliad hefyd yn cadw at ofynion atgyfeirio DBS ar gyfer y sawl sydd yn neu’n cael eu hamau o achosi niwed i berson sy’n agored i niwed.
Rhaid i chi gael y canlynol:
- mae gan y sefydliad a’r holl bartneriaid rhyngwladol a phartneriaid consortiwm bolisi ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed
- mae’r polisi/polisïau yn diffinio’r camau i’w cymryd rhag ofn y bydd datgeliad yn glir
- mae’r staff wedi derbyn hyfforddiant diogelu
- mae arweinydd diogelu yn y sefydliad ac ym mhob partner rhyngwladol a chonsortiwm
- bydd gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (neu wiriadau cyfatebol y wlad) yn cael eu cynnal lle bo cymhwysedd i wneud hynny ac yn cynnwys gwiriad yn erbyn y rhestrau gwahardd priodol DBS ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn gweithgaredd a reolir fel y diffinnir gan y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 a diwygiwyd o dan Orchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012
- bydd y sefydliad(au) hefyd yn cadw at ofynion atgyfeirio DBS ar gyfer y sawl sydd yn neu’n cael eu hamau o achosi niwed i berson sy’n agored i niwed
- mae/bydd gan y sefydliad ac unrhyw gonsortiwm a phartneriaid rhyngwladol yswiriant priodol, gan gynnwys yswiriant teithio mewn lle sy’n cynnwys gweithgareddau y manylir arnynt yn y cais hwn ac Atebolrwydd Cyhoeddus a Chyflogwr
- bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir gan gyfranogwyr yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018
- mae gan y sefydliad Bolisi Diogelu Plant ar waith ac mae’n ei weithredu wrth weithio â chyfranogwyr dan 18 oed
- mae’r sefydliad yn cydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac mae ganddo ddatganiad caethwasiaeth fodern, os yw’n berthnasol
Rheoli risg ac atal twyll
Argymhellir y dylai fod gan sefydliadau sy’n derbyn cyllid cyhoeddus weithdrefnau ar waith i reoli risgiau, atal twyll a chodi pryderon. Er bod cael polisïau ysgrifenedig yn aml yn cael ei ystyried yn arfer gorau, rydyn ni’n deall y gallai rhai sefydliadau reoli’r meysydd hyn mewn ffyrdd eraill. Os ydych chi’n gweithio gyda chyllid taith, cofiwch y bydd angen bod gennych bolisi neu weithdrefn fewnol ar gyfer pob un o’r pynciau a restrir isod.
- Polisi neu weithdrefn Diogelu Gwybodaeth
- Polisi neu weithdrefn Chwythu’r Chwiban
- Polisi a Chofrestr neu weithdrefn Anrhegion a Lletygarwch
- Polisi neu weithdrefn Datganiad o Fuddiant
- Polisi neu weithdrefn Rheoli Risg (gan gynnwys Cofrestr Risg/proses Asesu Risg)
- Polisi neu weithdrefn Twyll a Llwgrwobrwyo