4. Perfformiad grant blaenorol

Os ydych yn derbyn cyllid Taith ar hyn o bryd neu wedi ei dderbyn yn flaenorol, byddwn yn ystyried eich perfformiad a rheolaeth grant hyd yma. Bydd hyn yn cynnwys, ymhlith eraill:
- a ydych wedi cyrraedd eich targedau
- os yw eich prosiect presennol neu brosiectau blaenorol wedi tanwario (heb gyfiawnhad dilys)
- os yw eich prosiect ar y trywydd iawn i gyflawni
- unrhyw bryderon neu ymholiadau heb eu datrys
- unrhyw gyllid i’w ddychwelyd i Taith
- os ydych wedi tynnu’n ôl o brosiect o’r blaen
- eich categori risg presennol
- os yw hyd eich prosiect wedi’i ymestyn
- os yw’r prosiect ar hyn o bryd yn cael neu wedi cael yn flaenorol monitro neu gymorth ychwanegol gan ei fod/roedd mewn perygl o beidio â pherfformio’n foddhaol
Mae’n bwysig bod Taith yn cael sicrwydd bod gennych y capasiti a’r gallu i reoli’r cyllid presennol a ddyfarnwyd i chi yn effeithiol a’r cyllid y gellir ei ddyfarnu i chi yn y dyfodol (mewn rhai achosion efallai y byddwch yn rheoli nifer o brosiectau).
Rydym yn deall yn llwyr fod gan bob prosiect ei amgylchiadau unigryw ei hun, ac weithiau nid yw pethau’n mynd yn ôl y bwriad am resymau dilys.
Fodd bynnag, os byddwn yn sylwi nad yw sefydliad yn rheoli ei brosiectau cyfredol yn effeithiol heb esboniad da, mae’n bosib y byddwn yn penderfynu peidio â dyfarnu cyllid pellach.
Os ydych chi wedi cael gwybod bod perfformiad eich grant presennol yn effeithio ar eich cymhwysedd i gael cyllid pellach, gofynnwn yn garedig i chi ohirio cwblhau cais neu ffurflen gymhwysedd nes i chi dderbyn cadarnhad y gallwch wneud cais eto.