3. Mathau o wiriadau cymhwysedd

Cymhwysedd sector
Ydych chi’n gwneud cais i’r sector cywir? Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod wedi darllen y meini prawf ar gyfer eich sector (yn adran 2.1 canllaw Llwybr 2) a’ch bod yn hyderus eich bod yn eu bodloni.
Byddwch yn ymwybodol nad yw Llwybr 2 ar agor i’r sector Addysg Uwch.
Cymhwysedd cyfranogwyr
Gwnewch yn siŵr bod eich cyfranogwyr yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a amlinellir yng Nghanllaw Llwybr 2 2025. Cofiwch gall y meini prawf hyn amrywio yn ôl y sector. Os ydych chi’n cydweithio â sefydliadau partner, mae’n bwysig bod eu cyfranogwyr nhw hefyd yn bodloni’r canllawiau.
Bydd unrhyw gyfranogwyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf yn cael eu tynnu o’ch cyllideb cyn i ni asesu’r cais. Os yw’ch holl gyfranogwyr yn anghymwys, ni fydd eich cais yn cael ei asesu.
Cymhwysedd gweithgaredd
Byddwn ni’n edrych ar y gweithgaredd arfaethedig o fewn eich cais i wirio ei fod yn gymwys ac yn alinio â’n nodau a’n hamcanion.
Byddwn hefyd yn gwirio ei fod yn cyd-fynd â’r amcanion yn nogfen llywodraethu eich sefydliad.
Os nad yw’n glir sut mae’r gweithgaredd arfaethedig yn cyd-fynd ag amcanion eich sefydliad, mae’n bosib na fyddwn yn symud ymlaen â’r cais.
Statws sefydliad
Byddwn yn gwirio statws eich sefydliad ac a yw’n cyd-fynd â’r math o sefydliad a all wneud cais ar gyfer ein cyllid. Byddwn yn gwirio bod y manylion a ddarperir o fewn y cais yn cyfateb â’r rhai y mae’r cyrff rheoleiddio isod yn eu dal (os yw’n berthnasol):
- Tŷ’r Cwmnïau
- y Comisiwn Elusennau
- corff perthnasol arall
Bydd ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn cael eu gwirio yn erbyn gwybodaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru.
Capasiti ariannol
I sicrhau bod unrhyw gyllid a ddyfarnwn yn cael ei reoli’n briodol, byddwn ni’n gwirio capasiti ariannol cyfredol eich sefydliad. Rydyn ni eisiau gwybod:
- a yw’ch sefydliad yn sefydlog yn ariannol e.e. a yw eich cyfrifon blynyddol yn dangos incwm a chronfeydd wrth gefn iach neu a yw’n dangos diffyg. A oes gennych lif arian (e.e. arian yn y banc)
- a oes gennych weithdrefnau priodol ar waith gan gynnwys:
- isafswm o 2 lofnodwr nad ydynt yn perthyn i gael mynediad at gronfeydd ac awdurdodi taliadau
- cymal diddymiad priodol yn eich dogfen lywodraethu sy’n sicrhau yn achos eich sefydliad yn cael ei ddiddymu, ni fydd unrhyw unigolion yn elwa o’r asedau
- y gallu i drefnu bod cyllid Taith yn cael ei ddal mewn ffordd sy’n dangos yn glir ei fod wedi’i glustnodi ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y gweithgaredd Taith yn unig
Bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau canlynol gyda’ch cais:
- copi o’ch cyfrifon wedi’u harchwilio/ardystiedig diweddaraf (os nad yw hwn ar gael trwy Dŷ’r Cwmnïau na’r Comisiwn Elusennau). Os nad yw’r rhain ar gael, cysylltwch â’r tîm i drafod tystiolaeth amgen ar gyfer capasiti ariannol
- ffurflen sefydlu cyflenwr wedi’i chwblhau. Gellir ei lawrlwytho yn y ffurflen gymhwysedd. I gwblhau’r ffurflen bydd angen manylion y cyfrif banc rydych yn bwriadu dal unrhyw gyllid Taith ynddo
- eich cyfriflenni banc ar gyfer y 3 mis diwethaf (rhaid iddynt fod ar gyfer y tri mis llawn diwethaf gyda’r cyntaf wedi’i ddyddio dim cyn Mehefin 2025) ar gyfer y cyfrif banc a nodir yn y ffurflen sefydlu cyflenwr. Dylai’r rhain fod yn gyfriflenni gwreiddiol (electronig neu gopi caled), bydd unrhyw gopïau caled yn cael eu dychwelyd atoch o fewn 2 wythnos o’u derbyn. Os yw’r cyfriflenni banc yn electronig, sicrhewch eich bod yn anfon copïau ni ellir eu golygu atom (e.e. pdf). Dylai’r cyfriflenni banc gynnwys yr holl wybodaeth, h.y., ni ddylai fod unrhyw wybodaeth wedi’i golygu ar y datganiad oni bai ei fod wedi’i wneud yn benodol ar gyfer cydymffurfio â GDPR, a dylai nodi’ch balans yn glir
Mae’n bosib y byddwn yn cynnal gwiriadau ychwanegol fel gwiriadau credyd a/neu’n gofyn am ragor o dystiolaeth gennych ynghylch gallu eich sefydliad i reoli’r cyllid. Mae hyn yn cynnwys ystyried maint y grant rydych chi’n gwneud cais amdano. Po fwyaf yw’r swm, y mwyaf o gapasiti ariannol y byddem yn ei ddisgwyl.
Os yw’ch capasiti ariannol yn gyfyngedig neu os ydych chi’n ymwybodol o broblemau fel diffyg yn y cyfrifon blynyddol a/neu lif arian isel, rydyn ni’n argymell eich bod yn siarad â thîm Taith cyn gwneud cais. Gallwn ni edrych ar eich capasiti arianno ac ystyried a oes modd reoli’r risg. Gall hyn gynnwys gwneud argymhellion fel gwneud cais am swm llai neu argymell taliadau llai ond amlach sy’n gysylltiedig ag adrodd a pherfformiad os yw’r cais yn llwyddiannus.
Yn anffodus, mae yna adegau pan mae’n bosib y byddwn yn penderfynu nad oes gan sefydliad y gallu ariannol i reoli un o’n grantiau.
Llywodraethu
Er mwyn sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth, rydyn ni eisiau gwybod am eich strwythur llywodraethu. Dyma rai pethau rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw:
- bod gennych isafswm o 2 ymddiriedolwr neu gyfarwyddwr
- os oes gan unrhyw ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr unrhyw fuddiant datganedig mewn unrhyw brosiectau eraill a ariennir gan Taith gyda sefydliadau eraill (gan gynnwys partneriaid consortiwm, trydydd partïon neu bartneriaid rhyngwladol)
Wrth werthuso’r swm rydych chi’n gofyn amdano, rydym hefyd yn ystyried sut y gall eich llywodraethu gefnogi eich prosiect. Ar gyfer ceisiadau am gyllid mwy, mae’n bosib y byddwn yn gofyn am fanylion ychwanegol am eich llywodraethu, a allai gynnwys:
- cynlluniau dirprwyo
- siart sefydliad
- polisi gwrthdaro buddiannau
Yn anffodus, mae yna adegau pan mae’n bosib y byddwn yn penderfynu nad oes gan sefydliad lywodraethu priodol ar waith i reoli un o’n grantiau.