1. Pwy all wneud cais

Pwy all wneud cais
Gallwn ni dderbyn ceisiadau gan sefydliadau nid er elw os ydyn nhw’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd y sector yn adran 2.1 y canllaw Llwybr 2, gan gynnwys:
- elusennau cofrestredig neu sefydliadau elusennol corfforedig
- cwmnïau nid er elw neu gwmnïau budd cymunedol
- cymdeithasau anghorfforedig
- ysgolion yng Nghymru (gweler canllaw’r rhaglen ar gyfer canllawiau cymhwysedd llawn)
- colegau yng Nghymru (gweler canllaw’r rhaglen ar gyfer canllawiau cymhwysedd llawn)
- awdurdodau lleol yng Nghymru (gweler canllaw’r rhaglen ar gyfer canllawiau cymhwysedd llawn)
- cyrff statudol eraill yng Nghymru fel byrddau iechyd
Os ydych chi’n sefydliad wedi’ch rhestru ym mhwyntiau 1-3 uchod neu fath arall o sefydliad nid er elw cymwys nad yw wedi’i restru, mae’r meini prawf cymhwysedd hefyd yn berthnasol i’ch sefydliad. Rhaid iddo:
- fod wedi’i sefydlu ac yn masnachu am isafswm o 12 mis a bod yn gallu darparu’r set ddiweddaraf o gyfrifon blynyddol
- bod ag isafswm o 2 ymddiriedolwr neu gyfarwyddwr
- bod â dogfen lywodraethu fel cyfansoddiad, erthyglau cymdeithasu neu weithred (bydd gofyn i chi ei darparu os nad ydych chi wedi gwneud hynny o fewn y 12 mis diwethaf neu os yw’r ddogfen wedi newid ers i chi ei chyflwyno ddiwethaf)
Rhaid i bob sefydliad sy’n gwneud cais fod â phrofiad diweddar, y gellir ei ddangos, o gyflawni gweithgaredd yng Nghymru o fewn y sector y maent yn gwneud cais iddo.
Pwy na all ymgeisio
Dydyn ni ddim yn derbyn ceisiadau gan:
- unigolion
- masnachwyr unigol
- sefydliadau er elw gan gynnwys cwmnïau wedi’u cyfyngu gan gyfranddaliadau
- sefydliadau nad ydynt wedi cael unrhyw weithgarwch diweddar yng Nghymru ac o fewn y sector y maent yn dymuno gwneud cais amdano (e.e. ni all sefydliad nad yw wedi cael unrhyw weithgareddau ieuenctid yng Nghymru wneud cais am gyllid yn y sector Ieuenctid)
- ysgolion, colegau, addysg bellach a sefydliadau addysg a hyfforddiant galwedigaethol sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru
- sefydliadau sydd wedi’u sefydlu ac yn masnachu am lai na 12 mis
- prifysgolion yng Nghymru (dim ond am gyllid Llwybr 1 y gall prifysgolion yng Nghymru wneud cais)