Mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau bod cyllid Taith (sy’n gyllid cyhoeddus) yn cael ei reoli a’i wario’n briodol. Cyn asesu’ch cais, byddwn ni’n defnyddio’r ffurflen gymhwysedd a’r ffurflen ymgeisio i wirio cymhwysedd:
- eich sefydliad, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) trefniadau llywodraethu, capasiti ariannol, polisïau perthnasol a pherthnasedd y sefydliad i’r sector
- cymhwysedd unrhyw bartneriaid consortiwm a/neu bartneriaid rhyngwladol
- y gweithgaredd arfaethedig
- cyfranogwyr eich prosiect
Rydyn ni’n gwirio llawer o feysydd cymhwysedd, ac yn edrych ar bob prosiect a/neu sefydliad yn ôl ei rinweddau unigol ac yn gwneud penderfyniadau sy’n cyd-fynd ag amcanion ein cyllid. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae’r tîm yn hapus i sgwrsio â chi a’ch helpu i ddeall os gallwch chi wneud cais. Os nad ydych chi’n siŵr a allwch chi wneud cais, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n cysylltu â ni cyn gynted â phosib ymholiadau@taith.cymru.
Mater i’n disgresiwn llwyr fydd penderfynu a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofynion i allu gwneud cais.