Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau

Addysg Oedolion

Mae Addysg Oedolion fel sector yn eang ei gyrhaeddiad ac yn llawn amrywiaeth. Mae’n ymwneud ag ennill sgiliau newydd ar gyfer gwaith, ond hefyd yn ymestyn yn ehangach i gefnogi diwylliant lle mae pobl yn teimlo’n fwy hyderus i ddysgu a bod yn rhan o wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau a ledled Cymru.

Gall Addysg Oedolion fod ar ffurf cyrsiau ffurfiol ac addysg fwy anffurfiol yn y gymuned. Yng Nghymru, mae cefnogaeth gryfach ar gyfer dysgu gydol oes o ganlyniad i ddeddfwriaeth sy’n annog cenedl o ail gyfleoedd.  Gall cyfleoedd ariannu Taith helpu i gefnogi’r datblygiadau hyn drwy roi’r cyfle i gyfranogwyr brofi’r byd a dod â’r byd yn ôl i Gymru.

Fe wnaeth y prosiect hwn ein hatgoffa beth yw dysgu oedolion mewn gwirionedd — cysylltiad, chwilfrydedd, a thyfu gyda’n gilydd. Roedd gwylio ein dysgwyr yn dod o hyd i’w lleisiau, yn rhannu eu straeon, ac yn meithrin cyfeillgarwch ar draws ffiniau yn fythgofiadwy. Rydyn ni'n falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni — ac yn gyffrous am yr hyn sydd nesaf.

Kathryn Robson, Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru

Mae cyfranogwyr anhraddodiadol, yr oedd llawer ohonynt wedi ymddieithrio oddi wrth addysg brif ffrwd, bellach wedi darganfod angerdd i barhau â’u taith addysg oedolion neu yn eu geiriau nhw ddechrau taith newid bywyd!

Lucy Leighton, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Cymunedol, St Giles Cymru
Mae staff Avant Cymru yn ymweld i ddatblygu adnoddau dawns yng Nghymru ac ail-lunio sut mae dawns yn cael ei haddysgu ledled y wlad
Chwech o fyfyrwyr a’u cefnai i’r camera yn edrych ar gofeb Medi 11eg yn Efrog Newydd. Y mae yna nifer o entrychdai wedi e’u hadlewyrchu yn erbyn yr awyr las dwfn yn y cefndir. Six students facing away from the camera looking at the September 11 memorial in New York. There are a number of skyscrapers reflected against a deep blue sky in the background.

Angen cefnogaeth?

Ydych chi'n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnoch chi, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith? Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un i un.

Cliciwch yma i drefnu cyfarfod un i un

Oes gennych chi brosiect Taith byw eisoes?

Ardal derbynwyr grantiau

Yn yr ardal derbynwyr grantiau gallwch chi gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu chi i redeg eich prosiect Taith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis y Llwybr a'r Flwyddyn gywir i sicrhau eich bod chi'n cael mynediad at y wybodaeth berthnasol.

Dysgu mwy
Becky Gittens AS yn cyfarfod â disgyblion o Ysgol Dinas Brân yn llyfrgell eu hysgol

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol arnoch chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch

Grŵp sy’n eistedd yn yr awyr agored ac yn cael pryd o fwyd. Mae babi ar lin yn mlaen y llun a ffenestr tŷ yn y cefndir.

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Justine Lubnow a Tim y tu allan i Swyddfa Blue Door

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?

Grŵp o oedolion yn sefyll am lun o flaen eglwys gadeiriol yn Norwy. Mae'r grŵp yn dal baner fawr Cymru a llawer o fflagiau bach Norwyaidd / A group of adults posing for a photo in front of a cathedral in Norway. The group are holding a large Welsh flag and lots of small Norwegian flags

Pam cymryd rhan?

Straeon

We are pleased to share the stories from some participants of the Taith programme across the Adult Education sector, who have visited countries all over the world.

View Stories
Golygfa o lyn â mynyddoedd yn y cefndir. Mae rhai pobl yn cerdded i lawr llwybr a gellir gweld pobl eraill yn y pellter.