Os nad ydych chi’n gyfarwydd â chyllid Taith, neu’n heb ymgeisio am grantiau o’r blaen, yna rydyn ni wedi creu rhai adnoddau i helpu. Yn y tabl isod fe welwch ddolenni i ddogfennau ategol a fideos i’ch helpu i ddeall y meini prawf asesu, sut i ddefnyddio’r ffurflen gais a’r cyfrifydd grant.
Pe hoffech chi ymuno â ni ar un o’n gweminarau cymorth byw, edrychwch ar yr opsiynau isod. Cliciwch ar y ddolen i gofrestru i fynychu. Os na allwch fynychu’r sesiynau byw, yna mae dolenni fideo yn y tabl isod lle byddwch yn dod o hyd i fersiynau wedi’u recordio ymlaen llaw o’r wybodaeth a ddarparwyd.
Os ydych chi angen mwy o gefnogaeth, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith?
Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un-i-un.
Cliciwch ymaAdnodd cymorth neu weminar | Manylion |
---|---|
Cymhwysedd cyllid Cyn i chi wneud cais am arian, gwiriwch fod eich sefydliad(au) yn gymwys drwy ddarllen y canllaw cymhwysedd hwn. Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gymhwysedd fel rhan o’r broses gais ac mae’r canllaw hwn yn eich helpu i ddeall a ydych yn gallu gwneud cais a beth sydd angen i chi ei gael yn barod i’ch helpu i gwblhau’r ffurflen gymhwysedd. | |
Llwybr 2 (2025)- Canllaw a Chwestiynau’r Cais Mae’r ddogfen hon yn nodi’r cwestiynau rydyn ni’n eu gofyn yn ein cais ac yn rhoi rhywfaint o gyngor ar yr hyn rydyn ni’n edrych amdano yn eich atebion. | |
Enghraifft o gyllideb Llwybr 2 (2025) Dyma enghraifft o ateb i adran gyllideb y ffurflen gais. Mae’n rhoi syniad i chi o lefel y manylder rydyn ni’n chwilio amdano ac yn dangos sut i gysylltu’r costau rydych chi wedi’u nodi yn y gyfrifydd grant ag amcanion eich prosiect. | |
Gwneud cais am Taith Llwybr 2 2025 Bydd y weminar hon yn rhoi trosolwg o alwad ariannu Taith Llwybr 2 2025, gan gynnwys:
Byddwch hefyd yn gallu codi unrhyw gwestiynau gyda thîm Taith. Os nad ydych yn gallu mynychu’r gweminarau sydd wedi’u hamserlennu neu os hoffech gael cymorth ychwanegol gyda’ch cais Llwybr 2 mae tîm Taith ar gael. Ebost ymholiadau@taith.cymru | Dydd Mawrth 23ain o Fedi 12.00-13.00 Sesiwn Saesneg Dydd Mawrth 23ain o Fedi 16:00-17:00 sesiwn Cymraeg |
Sesiwn holi ac ateb Ymunwch â ni am sesiwn anffurfiol – eich cyfle i ofyn unrhyw beth i dîm Taith am eich cais Llwybr 2. | |
Fideo cyflwyniad i Llwybr 2 2025 Os nad oeddech chi’n gallu mynychu’r gweminarau, mae’r fideo hwn yn rhoi trosolwg o alwad ariannu Llwybr 2 Taith 2025. | |
Fideo Sut i gwblhau Cyfrifydd Grant Llwybr 2 2025 Bydd y fideo hwn yn eich tywys drwy sut i gwblhau eich cyllideb gan ddefnyddio’r gyfrifydd grant |

Canllaw Llwybr 2
