Mae cyllid Llwybr 1 ar gau ar hyn o bryd.  Bydd yn ail-agor yn Ionawr 2026

Ardal derbynwyr grantiau
Cyhoeddi Digidol

Cymhwysedd cyllid Llwybr 1 Taith

Ionawr 2026

5. Polisïau a gweithdrefnau

Dwy athrawes yn dal baner Cymru o flaen dosbarth o ferched ysgol gyfun.

Mae nifer o bolisïau a gweithdrefnau y byddem yn disgwyl i chi eu cael ar waith ar gam llofnodi cytundeb grant i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol.

Diogelu

Mae’n ofyniad i unrhyw ymgeisydd bod gennych fesurau diogelu priodol ar waith ar gyfer eich cyfranogwyr.

Rhaid i chi sicrhau y byddwch yn gweithredu gweithdrefnau diogelu priodol pan fydd gweithgareddau’n cynnwys gweithio gyda grwpiau agored i niwed (plant ac oedolion) neu’n cynnwys cyfranogwyr naill ai fel plant neu oedolion sy’n agored i niwed ar yr adeg benodol honno.

Bydd diogelu o’r fath yn ystyried deddfwriaeth berthnasol yng Nghymru ac unrhyw wledydd gwesteio/lleoliad (er enghraifft, ‘Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn’, ‘Deddf Plant, 1989 a 2004, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014’, ‘Deddf Diogelu Grwpiau Agored i Niwed, 2006’).

Rhaid cynnwys mabwysiadu polisi ar gyfer diogelu plant ac oedolion agored i niwed sy’n:

  • enwi Swyddog Diogelu/Amddiffyn y sefydliad,
  • diffinio’n glir y camau gweithredu os bydd datgeliad,
  • manylu ar yr hyfforddiant diogelu a ddarperir ar gyfer y staff/gwirfoddolwyr,
  • manylu ar weithrediad disgwyliedig gweithdrefnau diogelu ar draws y sefydliad.

Yn benodol, bydd gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cael eu cynnal lle bo cymhwysedd i wneud hynny ac yn cynnwys gwiriad yn erbyn y rhestrau gwahardd priodol DBS ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn gweithgaredd a reolir fel y diffinnir gan y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 a diwygiwyd o dan Orchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012.

Bydd y sefydliad hefyd yn cadw at ofynion atgyfeirio DBS ar gyfer y sawl sydd yn neu’n cael eu hamau o achosi niwed i berson sy’n agored i niwed.

Rhaid i chi gael y canlynol:

  1. Mae gan y sefydliad a’r holl bartneriaid rhyngwladol a phartneriaid consortiwm bolisi ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion sy’n agored i niwed.
  2. Mae’r polisi/polisïau yn diffinio’r camau i’w cymryd rhag ofn y bydd datgeliad yn glir
  3. Mae’r staff wedi derbyn hyfforddiant diogelu.
  4. Mae arweinydd diogelu yn y sefydliad ac ym mhob partner rhyngwladol a chonsortiwm.
  5. Bydd gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) (neu wiriadau cyfatebol y wlad) yn cael eu cynnal lle bo cymhwysedd i wneud hynny ac yn cynnwys gwiriad yn erbyn y rhestrau gwahardd priodol DBS ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn gweithgaredd a reolir fel y diffinnir gan y Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 a diwygiwyd o dan Orchymyn Deddf Diogelu Rhyddidau 2012.
  6. Bydd y sefydliad(au) hefyd yn cadw at ofynion atgyfeirio DBS ar gyfer y sawl sydd yn neu’n cael eu hamau o achosi niwed i berson sy’n agored i niwed.
  7. Mae/bydd gan y sefydliad ac unrhyw gonsortiwm a phartneriaid rhyngwladol yswiriant priodol, gan gynnwys yswiriant teithio mewn lle sy’n cynnwys gweithgareddau y manylir arnynt yn y cais hwn ac Atebolrwydd Cyhoeddus a Chyflogwr.
  8. Bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir gan gyfranogwyr yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018.
  9. Mae gan y sefydliad Bolisi Diogelu Plant ar waith ac mae’n ei weithredu wrth weithio â chyfranogwyr dan 18 oed.
  10. Mae’r sefydliad yn cydymffurfio â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac mae ganddo ddatganiad caethwasiaeth fodern, os yw’n berthnasol.

Rheoli risg ac atal twyll

Argymhellir y dylai fod gan sefydliadau sy’n derbyn cyllid cyhoeddus weithdrefnau ar waith i reoli risgiau, atal twyll a chodi pryderon. Er bod cael polisïau ysgrifenedig yn aml yn cael ei ystyried yn arfer gorau, rydyn ni’n deall y gallai rhai sefydliadau reoli’r meysydd hyn mewn ffyrdd eraill. Os ydych chi’n gweithio gyda chyllid taith, cofiwch y bydd angen bod gennych bolisi neu weithdrefn fewnol ar gyfer pob un o’r pynciau a restrir isod. Os ydych yn gwneud cais am £60,000 neu fwy, byddwn yn disgwyl i bolisi llawn fod mewn lle.

  1. Polisi neu weithdrefn Diogelu Gwybodaeth.
  2. Polisi neu weithdrefn Chwythu’r Chwiban
  3. Polisi a Chofrestr neu weithdrefn Anrhegion a Lletygarwch.
  4. Polisi neu weithdrefn Datganiad o Fuddiant.
  5. Polisi neu weithdrefn Rheoli Risg (gan gynnwys Cofrestr Risg/proses Asesu Risg).
  6. Polisi neu weithdrefn Twyll a Llwgrwobrwyo.