Ymwelodd cynrychiolwyr o Bloomberg yn Efrog Newydd, Rose Gill a Rachel Pollan, â Chymru yn ddiweddar am daith ddeuddydd ymdrochol gyda Taith, cyn eu cyfarfodydd â Swyddfa Maer Llundain. Mae eu hymweliad yn amlygu diddordeb cynyddol Bloomberg mewn ymagwedd arloesol Taith at ddysgu rhyngwladol, ei ffocws ar gynhwysiant a hygyrchedd, a’i effaith ledled Cymru.
Flwyddyn yn ôl, daeth Bloomberg ar draws Taith wrth ymchwilio i arfer gorau byd-eang mewn cyfnewid rhyngwladol. Cafodd ymagwedd gynhwysol ac arloesol y rhaglen gymaint o effaith arnynt iddynt ddewis ymestyn eu hamser yn y DU i gyfarfod â thîm Taith a chlywed gan gyfranogwyr yn uniongyrchol.
Ar ddiwrnod cyntaf eu hymweliad, buodd Rose a Rachel yn ymgysylltu â thri o ddysgwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro a oedd newydd ddychwelyd o ymweliad cyfnewid â Bosnia a Herzegovina. Cynigiodd y cyfnewid gyfle dwys i ddysgwyr o’r coleg weld canlyniadau cymdeithasol ac economaidd parhaol yr hil-laddiad a ddigwyddodd ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Drwy dystiolaethau uniongyrchol pwerus gan oroeswyr ac ymweliadau â labordai fforensig a archwiliodd ganlyniadau’r erchyllterau yn wyddonol, enillodd y myfyrwyr ddealltwriaeth ddyfnach o gost ddynol gwrthdaro. Siaradodd y myfyrwyr am effaith y cyfnewid, gyda llawer ohonynt yn ail-ystyried eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a’u dyheadau gyrfa o ganlyniad. Cafodd y profiad argraff barhaol — roedd yn drawsnewidiol, yn sobr, a newidiodd eu bywydau yn wirioneddol.
Bu’r ddwy hefyd yn cyfarfod â Tu Mewn Tu Fas, sefydliad cymunedol sy’n cefnogi’r rhai sy’n gadael y carchar, sy’n paratoi i fynd â deuddeg cyfranogwr i Gosta Rica. Bydd y prosiect yn archwilio ymagwedd unigryw Costa Rica at adsefydlu a chyfiawnder, gyda chyfranogwyr yn ymweld â charcharau a sefydliadau sy’n gweithio ar ailintegreiddio. Drwy ddysgu gan fodelau byd-eang, nod Tu Mewn Tu Fas yw dod ag arfer gorau yn ôl i Gymru i ddylanwadu ar wasanaethau lleol. Siaradon nhw’n rymus am sut mae Taith yn darparu cyfleoedd nad oeddent erioed wedi meddwl eu bod yn bosibl, a pha mor effeithiol yr oeddent yn credu y byddai’r profiad hwn. Yn amlwg cafodd eu profiadau personol o’r carchar a’u hangerdd anhygoel dros gefnogi pobl eraill yn y carchar i ddatblygu a thyfu effaith enfawr ar dîm Bloomberg.
Roedd cyfarfod eithriadol arall gyda chyfranogwr ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol o Sgowtiaid Cymru. Teithiodd y grŵp o Sgowtiaid Cymru i’r Almaen i gwblhau’r Gwregys Archwiliwr Diwydiant Cymru a chymryd rhan mewn cyfnewid gyda Sgowtiaid yr Almaen. Yn amlwg cafodd y daith effaith fawr, gyda’r cyfranogwr yn esbonio sut helpodd y cyfnewid ef i ddatblygu hyder ac annibyniaeth a meithrin dealltwriaeth rhwng yr holl bobl ifanc a oedd yn rhan ohono.
Rhoddodd y sgyrsiau hyn fewnwelediad uniongyrchol, pwerus i Rose a Rachel i sut mae Taith yn newid bywydau ac yn chwalu rhwystrau megis hygyrchedd a chyfyngiadau ariannol, i sicrhau bod profiadau dysgu rhyngwladol yn agored i bawb.
Ar yr ail ddiwrnod, buodd tîm Bloomberg yn cyfarfod a Siân Holleran o ColegauCymru ac Anne-Marie Lawrence o Our Voice Our Journey, cwmni buddiant cymunedol a ddeilliodd o’r prosiect ieuenctid Plan International. Rhannodd y ddwy sut mae eu prosiectau a ariannwyd gan Taith yn gweithio i fynd i’r afael â gwreig-gasineb a thrais ar sail rhywedd, a sut mae cydweithio traws-sector yn creu lle ar gyfer dysgu ar y cyd ac effaith cynaliadwy.
“Heb gyllid Taith, ni fyddai dim o hyn yn bosib,” meddai un o arweinwyr y prosiectau. “Mae’n ein galluogi ni i wneud gwaith sydd wir yn newid bywydau.”
Myfyriodd Rose Gill o Bloomberg ar yr ymweliad:
Mae wedi bod yn anhygoel mynd y ti ôl i’r llenni a gweld pawb sy’n rhan o’r cynhyrchiad arbennig. Dw i’n meddwl y gall pawb edrych yn y drych a dweud ‘Rydyn ni wir yn helpu pobl.’
Rydyn ni wedi cwrdd â rhai o’r unigolion sy’n fuddiolwyr yr hyn y mae’r sefydliad hwn [Taith] yn ei wneud, ac mae’n real, ac mae’n anhygoel. Rydych chi’n gwneud y byd yn le gwell.
Wedi’u hysbrydoli gan yr hyn maen nhw wedi’i weld, mae Bloomberg bellach yn cefnogi fersiwn beilot o fodel Taith yn Detroit o fis Ionawr 2026, gan fynd ag arfer gorau o Gymru ar draws yr Iwerydd.
Mae’r hyn a ddechreuodd fel gweledigaeth i fynd â Chymru i’r byd a dod a’r byd i Gymru bellach yn llunio addysg ryngwladol ar raddfa fyd-eang. Mae Taith, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio fel arfer gorau yn Ewrop a bellach yn Detroit, yn dod yn lasbrint ar gyfer sut gall cenhedloedd gysylltu, dysgu a thyfu gyda’i gilydd ac yn profi y gall wlad fach sbarduno mudiad gydag effaith fyd-eang.
Newyddion diweddaraf o'r rhaglen.