Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau

Mae gwerthusiad annibynnol yn tynnu sylw at y cyfleoedd sy’n newid bywydau mae’r rahglen Taith yn darparu

Mae gwerthusiad interim o Taith gan ymchwilwyr cymdeithasol ac economaidd Wavehill – https://www.wavehill.com, wedi tynnu sylw at yr effaith ddofn mae’r rhaglen yn ei chael ar unigolion a chymunedau ledled Cymru, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae’r adroddiad yn dangos fod 44% o gyfranogwyr Taith ar hyn o bryd yn dod o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol, sy’n uwch na tharged y rhaglen o 40%.

 

 

Mae’r ffocws hwn ar hygyrchedd yn ganolog i genhadaeth Taith o wneud cyfleoedd cyfnewid rhyngwladol yn fwy cynhwysol a chyfartal. Mae’r rhaglen hefyd wedi hwyluso cysylltiadau byd-eang, gan ymgysylltu â 98 o wledydd, mwy na dwbl y targed gwreiddiol. Mae hefyd ar y trywydd cywir i gyflawni ei nod o sefydlu 50 o bartneriaethau hirdymor, gyda 48 eisoes ar waith.

Mae galw mawr am Taith, gyda’r rhaglen wedi’i gordanysgrifio ac yn ennyn llawer mwy o ddiddordeb nag Erasmus+ dros gyfnod tebyg. Mae rhanddeiliaid hefyd wedi canmol hygyrchedd Taith a phroffesiynoldeb y tîm.

Sylwodd un rhanddeiliad:

Does dim rhaglen arall fel hon yn rhyngwladol. Ar y dechrau, roedd llawer o naratif ynghylch llenwi bylchau Turing a disodli Erasmus, ond mae wedi dod yn gymaint mwy na hynny.

Mae ysgolion ledled Cymru hefyd wedi gweld y manteision yn uniongyrchol. Dywedodd aelod o staff yn Ysgol Pen Y Bryn fod y gefnogaeth gan Taith wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol:

Mae’n un o’r cronfeydd gorau rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i’w dderbyn. Y gefnogaeth rydych chi’n cael cyn y broses ymgeisio – gweminarau, sesiynau un i un, fe wnaethon ni weithio ochr yn ochr â thri o bobl o fewn y tîm. Maen nhw i gyd wrth law … Fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heb Taith… Rhoddon nhw gyllid ychwanegol os oedd angen pasbortau ar ddisgyblion. Mae’n anhygoel. Mae rhieni wedi dweud fydden nhw byth wedi gallu fforddio hyn.

Tynnodd athrawon yn ysgol gynradd Tan Y Lan sylw at yr effaith ddiwylliannol ar ddisgyblion:

Maen nhw’n cael y gwerthfawrogiad diwylliannol newydd hwn… i roi cynnig ar fwyd lleol, siarad ieithoedd newydd. Rydyn ni’n byw mewn ardal eithaf difreintiedig, felly mae’n rhoi profiad iddyn nhw o ddiwylliant a ffordd o fyw wahanol.

Mae’r rhaglen wedi’i graddio fel un sy’n cynnig gwerth am arian Da i Ragorol ar draws y rhan fwyaf o ddangosyddion perfformiad, yn ôl y gwerthusiad.

Gyda’i dull cynhwysol a’i chyrhaeddiad byd-eang cynyddol, mae Taith yn prysur ddod yn fodel ar gyfer cyfnewid rhyngwladol, gan drawsnewid bywydau a chodi dyheadau ledled Cymru.

Gallwch chi ddarllen mwy am y broses werthuso annibynnol a Chrynodeb Gweithredol y Gwerthusiad Dros Dro yma

Adroddiadau Gwerthuso AnnibynnolCrynodeb Gweithredol y Gwerthusiad Interim

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.