Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau

Ieuenctid

Mae’r sector ieuenctid yng Nghymru yn amrywiol ac yn bellgyrhaeddol, gyda sefydliadau’n amrywio o ran maint a ffocws, ac wedi’u lleoli o fewn y sectorau statudol a gwirfoddol, gan gynnwys sefydliadau anllywodraethol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau dielw.

Mae Taith yn cynnig ystod unigryw o gyfleoedd i bobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr o sefydliadau ieuenctid Cymru gymryd rhan mewn symudeddau trawsnewidiol dramor, gan roi cyfle i gyfranogwyr fagu hyder, datblygu sgiliau newydd ac ehangu eu gorwelion.

Mae Taith yn cynnig cyfleoedd heb ei ail i bobl ifanc o Gymru. Os ydych chi’n cael trafferth gyda’r cais neu’n poeni am agweddau ymarferol ar gyflwyno, gallwch chi bob amser anfon e-bost at dîm cymorth Taith. Rwy’n teimlo bod tîm Taith wedi cynnig cymorth parhaus, sy’n ei gwneud hi’n llawer haws ymgeisio a gweithredu’r prosiect.

Gundija Zandersona, Kokoro Arts ar ôl symudedd i Gyprus

Rydym am helpu pobl ifanc i ehangu eu gorwelion drwy gymryd rhan mewn cyfnewidfeydd ieuenctid rhyngwladol, a rhoi gwybod iddynt am y manteision y gall y foment cael ar eu bywydau. Fel rhywun sydd wedi bod yn ymwneud â gwaith ieuenctid ers blynyddoedd lawer, mae'n debyg mai dyma'r ffurf orau o waith ieuenctid ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc a gweld sut mae pobl ifanc yn tyfu mewn amgylchedd newydd.

Grant Poiner, Prif Gweithredwr Clybiau Bechgyn a Merched Cymru
Chwech o fyfyrwyr a’u cefnai i’r camera yn edrych ar gofeb Medi 11eg yn Efrog Newydd. Y mae yna nifer o entrychdai wedi e’u hadlewyrchu yn erbyn yr awyr las dwfn yn y cefndir. Six students facing away from the camera looking at the September 11 memorial in New York. There are a number of skyscrapers reflected against a deep blue sky in the background.

Angen cefnogaeth?

Ydych chi'n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnoch chi, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith? Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un i un.

Cliciwch yma i drefnu cyfarfod un i un

Oes gennych chi brosiect Taith byw eisoes?

Ardal derbynwyr grantiau

Yn yr ardal derbynwyr grantiau gallwch chi gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu chi i redeg eich prosiect Taith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis y Llwybr a'r Flwyddyn gywir i sicrhau eich bod chi'n cael mynediad at y wybodaeth berthnasol.

Dysgu mwy
Becky Gittens AS yn cyfarfod â disgyblion o Ysgol Dinas Brân yn llyfrgell eu hysgol

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol arnoch chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch

Pobl ifanc yn eistedd mewn awditoriwm gyda'u hofferynnau cerdd yn gwenu at y camera

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Saith o bobl yn sefyll mewn llinell yn gwenu ac yn chwerthin. Maen nhw'n gwisgo gwisg rygbi ac mae 'na bêl rygbi ar y llawr.

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?

Grŵp o tuag at 20 oedolion ifanc o flaen addoldy. Mae'r bobl yn y rhes flaen yn eistedd ar stepiau yr addoldy ac y mae'r gweddill yn sefyll y tu ôl iddyn nhw. / A group of around 20 young adults in front a a cathedral. The front row of people are sat on the steps in front of the cathedral, and the rest are stood behind them.

Pam cymryd rhan?

Straeon

We are pleased to share the stories from some participants of the Taith programme across the Youth sector, who have visited countries all over the world.

View Stories
Golygfa o lyn â mynyddoedd yn y cefndir. Mae rhai pobl yn cerdded i lawr llwybr a gellir gweld pobl eraill yn y pellter.