Pam cymryd rhan?
Gall profiadau rhyngwladol newid bywydau. Mae symudeddau Taith yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau bywyd a’r cymwyseddau allweddol sydd eu hangen arnynt i ffynnu a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas, gan hybu hyder a chodi dyheadau.
Mae Taith wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac rydym yn cynnig cymorth ariannol ychwanegol i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig, cyfranogwyr anabl a chyfranogwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan alluogi’r rhai sydd â llai o gyfleoedd i gymryd rhan mewn profiadau trawsnewidiol. Gydag amrywiaeth o weithgareddau cymwys ar gyfer unigolion a grwpiau, mae cyllid ar gael i fod o fudd i bobl ifanc o bob math, o bob rhan o Gymru.
Mae’r gwerthoedd sy’n gynhenid i gyfnewid rhyngwladol yn cyd-fynd yn agos â phum colofn gwaith ieuenctid:
- addysgiadol
- mynegiannol
- cyfranogol
- cynhwysol
- grymuso
Mae symudeddau rhyngwladol yn galluogi sefydliadau i greu cyfleoedd mewn ffordd wirioneddol gyfranogol, gan ddatblygu rhaglen o weithgareddau sydd wedi’i chynllunio gan ac ar gyfer y bobl ifanc, ac yn canolbwyntio ar y meysydd hynny y maent am eu harchwilio, eu dysgu a’u datblygu mwyaf. Mae symudeddau rhyngwladol yn galluogi pobl ifanc i brofi diwylliannau ac amgylcheddau newydd, i ddatblygu sgiliau a chymwyseddau allweddol, ac yn rhoi cyfle iddynt roi cynnig ar bethau newydd a dysgu faint y maent yn wirioneddol abl i’w wneud.
I staff a gwirfoddolwyr, gall y cyfle i ddysgu arfer gorau gan bartneriaid rhyngwladol fod yn amhrisiadwy. Mae Taith yn darparu cyfleoedd i staff ddysgu trwy ystod o weithgareddau datblygu proffesiynol o fewn Llwybr 1, hyd at brosiectau cydweithio strategol sy’n ceisio gwella arfer gwaith Ieuenctid yn strategol trwy Llwybr 2.
Angen cefnogaeth?
Ydych chi'n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnoch chi, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith? Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un i un.
Cliciwch yma i drefnu cyfarfod un i unOes gennych chi brosiect Taith byw eisoes?
Ardal derbynwyr grantiau
Yn yr ardal derbynwyr grantiau gallwch chi gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu chi i redeg eich prosiect Taith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis y Llwybr a'r Flwyddyn gywir i sicrhau eich bod chi'n cael mynediad at y wybodaeth berthnasol.
Dysgu mwy
Cysylltwch â ni
Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol arnoch chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Cysylltwch â niArchwiliwch
Hafan
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?
Straeon
We are pleased to share the stories from some participants of the Taith programme across the Youth sector, who have visited countries all over the world.
View Stories
