Ardal derbynwyr grantiau

Ysgolion

Mae Taith yn cynnig cyfleoedd i staff a disgyblion yn ysgolion Cymru gymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid rhyngwladol trawsnewidiol sy’n newid bywydau ym mhedwar ban byd.

Mae partneriaethau rhyngwladol yn dod â phersbectif rhyngwladol i’r ysgol a’r cwricwlwm. Maent yn caniatáu i ddysgwyr ehangu eu gorwelion, datblygu sgiliau newydd a phrofi diwylliannau ac ieithoedd newydd. Mae symudedd rhyngwladol yn cysylltu’n uniongyrchol â phedair diben Cwricwlwm i Gymru ac yn cefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus o Gymru a’r byd.

Rwy’n gwneud cais am gyrsiau rhyngwladol yn y brifysgol ac fe wnaeth y daith hon fy ysbrydoli i fod eisiau dysgu mwy o ieithoedd, archwilio mwy o wledydd… mae’n gwneud ichi sefyll allan oddi wrth fyfyrwyr eraill. Mae’n gyfle mor anhygoel.

Sevin, Blwyddyn 13, disgybl yn Ysgol Dinas Bran, Llangollen ar ei symudedd i Dwrci ag ariannwyd gan Taith

Roedd ein taith addysgol i Sweden drwy Taith yn wirioneddol anghofiadwy. Dydw i erioed wedi profi unrhyw beth tebyg iddo. Roedd gwylio disgyblion yn ffynnu, yn magu hyder, ac yn dod o hyd i'w lleisiau yn ysbrydoledig iawn, atgof a fydd yn aros gyda mi ymhell ar ôl fy amser mewn addysg.

Mr H Ibrahim, Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog, Caerdydd ar symudedd yr Ysgol i Sweden a ariannwyd gan Taith

Mae rhaglen Taith wedi bod yn drawsnewidiol i'n disgyblion a'n staff. Heb Taith, ni fyddai mwyafrif ein disgyblion byth wedi cael y cyfle i deithio i America. Mae'r rhaglen hon wedi agor drysau i brofiadau sy'n newid bywydau, gan ganiatáu iddynt ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol, ymgolli mewn diwylliannau newydd, ac ehangu eu gorwelion mewn ffyrdd na feddyliasom erioed eu bod yn bosibl. Mae Taith wedi gwireddu breuddwydion i gymuned ein hysgol.

Vanessa Palmer, Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Pen y Bryn, Swanea ar eu cyfnewid rhyngwladol gydag ysgolion yn Florida
Chwech o fyfyrwyr a’u cefnai i’r camera yn edrych ar gofeb Medi 11eg yn Efrog Newydd. Y mae yna nifer o entrychdai wedi e’u hadlewyrchu yn erbyn yr awyr las dwfn yn y cefndir. Six students facing away from the camera looking at the September 11 memorial in New York. There are a number of skyscrapers reflected against a deep blue sky in the background.

Angen cefnogaeth?

Ydych chi'n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnoch chi, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith? Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un i un.

Cliciwch yma i drefnu cyfarfod un i un
Grŵp mawr o ddisgyblion yn sefyll y tu allan, o bosibl mewn parc Siapaneaidd yn sefyll am lun. O'u blaenau mae ardal eistedd gron wedi'i gwneud o foncyffion coed a'u hôl mae adeilad bach Siapaneaidd.

Partneriaeth gydag ysgol | British Council

Os hoffech gael cymorth i ddod o hyd i ysgol bartner rhyngwladol gall y British Council helpu. Gweler eu gwefan am amrywiaeth o adnoddau ac i archwilio’r gronfa ddata darganfod partner am ddim:

Cliciwch yma i weld gwefan y British Council

Oes gennych chi brosiect Taith byw eisoes?

Ardal derbynwyr grantiau

Yn yr ardal derbynwyr grantiau gallwch chi gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu chi i redeg eich prosiect Taith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis y Llwybr a'r Flwyddyn gywir i sicrhau eich bod chi'n cael mynediad at y wybodaeth berthnasol.

Dysgu mwy
Becky Gittens AS yn cyfarfod â disgyblion o Ysgol Dinas Brân yn llyfrgell eu hysgol

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol arnoch chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Mae athrawes o Gymru yn pwyntio at luniau ar sgrin o flaen dosbarth o ddisgyblion ysgol gynradd mewn ysgol yn Mumbai. Mae'r rhan fwyaf o'r plant a'u dwylo yn yr awyr i ateb cwestiwn.

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?

Grŵp mawr o ddisgyblion yn sefyll y tu allan, o bosibl mewn parc Siapaneaidd yn sefyll am lun. O'u blaenau mae ardal eistedd gron wedi'i gwneud o foncyffion coed a'u hôl mae adeilad bach Siapaneaidd.

Pam cymryd rhan?

Straeon

We are pleased to share the stories from some participants of the Taith programme across the Schools sector, who have visited countries all over the world.

View Stories
Golygfa o lyn â mynyddoedd yn y cefndir. Mae rhai pobl yn cerdded i lawr llwybr a gellir gweld pobl eraill yn y pellter.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.