Ardal derbynwyr grantiau

Ysgolion

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?

  • unrhyw ysgol a ariennir neu a gynhelir gan awdurdod lleol ac sy’n gofrestredig yng Nghymru ac yn weithredol yno, sy’n darparu addysg gyffredinol neu alwedigaethol i ddisgyblion rhwng 4 ac 19 oed sy’n cael ei harolygu gan ESTYN
  • unrhyw ysgol annibynnol nid-er-elw lle mae pob disgybl yn cael ei dderbyn drwy atgyfeiriad gan awdurdod lleol, gweithiwr cymdeithasol, neu elusen berthnasol, ac sy’n gweithredu yng Nghymru, gan ddarparu addysg i blant a phobl ifanc 4 – 19 oed
  • unrhyw un o 22 awdurdod lleol Cymru
  • Consortiwm Addysg Rhanbarthol
  • gonsortiwm sy’n cynnwys un sefydliad arweiniol sy’n gwneud cais ar ran dau neu ragor o sefydliadau ym maes addysg ysgolion. Rhaid i’r consortiwm gynnwys o leiaf un ysgol a enwir sy’n cael ei hariannu a’i chynnal gan awdurdod lleol ac sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu o Gymru, a gall hefyd gynnwys awdurdodau lleol neu ranbarthol, cyrff cydgysylltu ysgolion neu fenter gymdeithasol neu sefydliadau eraill sydd â rôl yn y maes addysg ysgol. Rhaid i bob aelod o’r consortiwm gael ei reoleiddio neu ei gofrestru yng Nghymru, a gweithredu o Gymru, a rhaid i unrhyw ysgolion yn y consortiwm gael eu hariannu neu eu cynnal gan awdurdod lleol a’u cofrestru yng Nghymru, ac sy’n gweithredu ohoni. Rhaid cytuno ar bartneriaid consortiwm a’u henwi ar adeg y cais a ni chaniateir i sefydliadau sy’n gwneud cais godi ffi am gael eu cynnwys mewn cais gan gonsortiwm.

Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais feddu ar brofiad diweddar ac amlwg o ddarparu gweithgaredd yn y sector y maent yn gwneud cais ar ei gyfer.

Nid yw sefydliadau er elw ac unig fasnachwyr yn gymwys i wneud cais na chael eu henwi fel partneriaid consortiwm. Dylech gyfeirio at ganllaw cymhwyster Taith i gadarnhau a yw eich sefydliad yn bodloni’r gofyniad cymhwyster nad yw’n gweithredu er elw.

Chwech o fyfyrwyr a’u cefnai i’r camera yn edrych ar gofeb Medi 11eg yn Efrog Newydd. Y mae yna nifer o entrychdai wedi e’u hadlewyrchu yn erbyn yr awyr las dwfn yn y cefndir. Six students facing away from the camera looking at the September 11 memorial in New York. There are a number of skyscrapers reflected against a deep blue sky in the background.

Angen cefnogaeth?

Ydych chi'n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnoch chi, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith? Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un i un.

Cliciwch yma i drefnu cyfarfod un i un

Oes gennych chi brosiect Taith byw eisoes?

Ardal derbynwyr grantiau

Yn yr ardal derbynwyr grantiau gallwch chi gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu chi i redeg eich prosiect Taith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis y Llwybr a'r Flwyddyn gywir i sicrhau eich bod chi'n cael mynediad at y wybodaeth berthnasol.

Dysgu mwy
Becky Gittens AS yn cyfarfod â disgyblion o Ysgol Dinas Brân yn llyfrgell eu hysgol

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol arnoch chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch

Disgyblion o Sbaen a Chymru yn gweithio gyda'i gilydd mewn gwers coginio

Hafan

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Grŵp mawr o ddisgyblion yn sefyll y tu allan, o bosibl mewn parc Siapaneaidd yn sefyll am lun. O'u blaenau mae ardal eistedd gron wedi'i gwneud o foncyffion coed a'u hôl mae adeilad bach Siapaneaidd.

Pam cymryd rhan?

Straeon

We are pleased to share the stories from some participants of the Taith programme across the Schools sector, who have visited countries all over the world.

View Stories
Golygfa o lyn â mynyddoedd yn y cefndir. Mae rhai pobl yn cerdded i lawr llwybr a gellir gweld pobl eraill yn y pellter.

Dewch ar daith gyda ni

Cofrestrwch i fod ar ein rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r rhaglen.

Drwy gofrestru, rydych chi’n cytuno â’n polisi preifatrwyddy, gan gynnwys trosglwyddo eich gwybodaeth i’n platfform marchnata, Mailchimp. Gallwch ddad-danysgrifio ar unrhyw adeg.