Mae Llwybr 2 ar agor

Ardal derbynwyr grantiau

Addysg Oedolion

Dwy fenyw, un yn sefyll ac un yn eistedd ar fainc, yn dal tystysgrifau a gwenu at y camera. / Two women, one sat on a bench and one standing up, holding certificates and smiling at the camera.

Pam cymryd rhan?

Mae Taith yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr, staff a gwirfoddolwyr o sefydliadau Addysg Oedolion Cymru i gymryd rhan mewn symudeddau trawsnewidiol dramor. Dangoswyd bod y profiadau hyn yn cael effeithiau cadarnhaol ar ragolygon dysgu a chyflogadwyedd pobl, yn ogystal â gwelliant yn eu hiechyd a’u lles a’u cyfranogiad mewn bywyd cymdeithasol a chymunedol. Mae’r manteision hyn yn arbennig o amlwg i gyfranogwyr sydd â llai o gyfleoedd. Mae symudeddau rhyngwladol yn galluogi cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau a chymwyseddau allweddol, a phrofi diwylliannau ac ieithoedd newydd. Yn gydamserol, maen nhw’n hyrwyddo Cymru, y Gymraeg, a’r diwylliant ledled y byd.

I ddysgwyr, gall profiad o fod dramor roi cyfle iddynt fagu sgiliau a gwybodaeth newydd drwy astudio ochr yn ochr â phartneriaid rhyngwladol. Gall helpu i gefnogi eu datblygiad cymdeithasol drwy ddod ar draws diwylliannau a phrofiadau newydd. Mae Taith yn darparu cyllid ychwanegol i gefnogi’r bobl hynny ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau ac o gefndiroedd difreintiedig i annog pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gael y profiadau bywyd unigryw hynny. Gellid defnyddio’r profiadau hyn i gefnogi’r nodau strategol a amlinellir yng Nghomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER).

I staff, gall y cyfle i ddysgu arfer gorau o bartneriaid rhyngwladol fod o fudd enfawr. Mae Taith yn cynnig cyfleoedd i staff ddysgu drwy amrywiaeth o opsiynau, megis cyrsiau hyfforddi, cysgodi swyddi a phrosiectau datblygu systemau ar Lwybr 1, a phrosiectau cydweithio strategol sy’n ceisio nodi angen sector ar Lwybr 2. Gall y profiadau hyn helpu i ddatblygu’r fframwaith a set sgiliau sydd eu hangen i symud y sector Addysg Oedolion ymlaen i gyflawni amcanion y Bil Ymchwil Addysg Drydyddol (Cymru) 2022 a chefnogi ethos cwricwlwm y dinasyddion a diwylliant cenedl ail gyfle.

 

Chwech o fyfyrwyr a’u cefnai i’r camera yn edrych ar gofeb Medi 11eg yn Efrog Newydd. Y mae yna nifer o entrychdai wedi e’u hadlewyrchu yn erbyn yr awyr las dwfn yn y cefndir. Six students facing away from the camera looking at the September 11 memorial in New York. There are a number of skyscrapers reflected against a deep blue sky in the background.

Angen cefnogaeth?

Ydych chi'n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnoch chi, neu eisiau trafod eich syniad gyda Taith? Llenwch y ffurflen fer hon a byddwn ni mewn cysylltiad yn fuan iawn i drefnu cyfarfod un i un.

Cliciwch yma i drefnu cyfarfod un i un

Oes gennych chi brosiect Taith byw eisoes?

Ardal derbynwyr grantiau

Yn yr ardal derbynwyr grantiau gallwch chi gael mynediad at bopeth sydd ei angen arnoch chi i'ch helpu chi i redeg eich prosiect Taith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis y Llwybr a'r Flwyddyn gywir i sicrhau eich bod chi'n cael mynediad at y wybodaeth berthnasol.

Dysgu mwy
Becky Gittens AS yn cyfarfod â disgyblion o Ysgol Dinas Brân yn llyfrgell eu hysgol

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol arnoch chi, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Cysylltwch â ni

Archwiliwch

Grŵp mawr o bobl yn sefyll am lun y tu mewn, mae gan dri o bobl offerynnau cerdd / A large group of people posing for a photo indoors, three people have musical instruments

Hafan

Grŵp sy’n eistedd yn yr awyr agored ac yn cael pryd o fwyd. Mae babi ar lin yn mlaen y llun a ffenestr tŷ yn y cefndir.

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

Justine Lubnow a Tim y tu allan i Swyddfa Blue Door

Pwy sy’n gallu cyflwyno cais?

Straeon

We are pleased to share the stories from some participants of the Taith programme across the Adult Education sector, who have visited countries all over the world.

View Stories
Golygfa o lyn â mynyddoedd yn y cefndir. Mae rhai pobl yn cerdded i lawr llwybr a gellir gweld pobl eraill yn y pellter.