Mae Taith wedi ymrwymo i sicrhau bod sefydliadau llai gyda llai o brofiad, a’r rhai sy’n gweithio gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, yn gallu cymryd rhan mewn cyfnewidiau dysgu rhyngwladol.
Dyma’n galwad olaf am gyllid, felly nawr yw’r awr i ymgeisio a gwneud gwahaniaeth.
Pam Fod Hyn yn Bwysig
Mae cyfnewidiau rhyngwladol yn agor drysau i sgiliau, safbwyntiau, a chyfleoedd newydd. O hybu hyder a datblygu sgiliau newydd, i ehangu gorwelion ac adeiladu cysylltiadau parhaol, mae Taith yn parhau i agor drysau i bobl o bob cefndir yng Nghymru.
Rydyn ni wedi ymrwymo i fynediad teg ac yn anelu at chwalu rhwystrau fel y gall pob sefydliad cymwys yng Nghymru gymryd rhan, yn enwedig y rhai sy’n cefnogi grwpiau difreintiedig, pobl ag ADY neu anableddau, a grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
Crëwyd Taith yng Nghymru, i Gymru. Rydyn ni’n rhoi cymunedau, diwylliant a dysgwyr Cymru wrth galon pob cyfle.
Sut Rydyn Ni’n Eich Cefnogi Chi
- Cymorth un-i-un gan ein tîm
- Cyllid ychwanegol ar gyfer pethau hanfodol megis pasbortau a bagiau i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig
- Cyllid ychwanegol, hyd at 100% o’r costau gwirioneddol, ar gyfer cyfranogwyr Anabl a’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
- Proses ymgeisio symlach wedi’i chynllunio ar gyfer sefydliadau gyda phrosiectau ar raddfa fach
- Cyllid ar gyfer ysgrifennwr cymorth mynediad i helpu i gwblhau ceisiadau i’r rhai sydd â rhwystr i broses ymgeisio Taith
- Gweminarau i’ch tywys drwy’r broses
- Hyrwyddwyr Taith (WCIA) sy’n cynnig cyngor i’r rhai nad ydynt wedi derbyn cyllid Taith o’r blaen
- Costau gwirioneddol yn cael eu talu ar gyfer teithio gwyrdd
Straeon Llwyddiant
Barod i wneud cais neu angen cymorth?
Cysylltwch â ni yn ymholiadau@taith.cymru neu llenwch y ffurflen isod
'Cymorth un-i-un'Dyddiadau Allweddol
- Galwad Olaf am Gyllid yn Agor: 28 Ionawr 2026
- Yn Cau: 18 Mawrth 2026
